Mater - penderfyniadau

Wales Audit Office (WAO) – Annual Audit Letter 2016/17

09/04/2018 - Wales Audit Office (WAO) – Annual Audit Letter 2016/17

Cyflwynodd Mike Whiteley o Swyddfa Archwilio Cymru’r Llythyr Archwilio Blynyddol a grynhodd y prif negeseuon a gododd o gyfrifoldebau statudol Archwilydd Cyffredinol Cymru.

 

Ymdriniodd y llythyr yn bennaf â gwaith archwilio ar y cyfrifon ar gyfer 2016/17 a’r camau oedd yn cael eu cymryd i ddynodi dysgu i’r ddau barti. Byddai gweithredu’r dyddiadau cau cynharach ar gyfer cyhoeddi cyfrifon i’r dyfodol yn her i bawb dan sylw, ac roedd ymgysylltiad cadarnhaol rhwng swyddogion y Cyngor a chydweithwyr Swyddfa Archwilio Cymru’n helpu dynodi meysydd paratoi’n gynnar. Roedd cyfarfodydd rheolaidd yn helpu monitro camau i benderfynu ar y materion a ddynodwyd ar gyfrifon Cronfa Bensiwn Clwyd am y flwyddyn flaenorol ac nid oedd gan Swyddfa Archwilio Cymru bryderon ar y cam hwn. Cydnabyddodd y llythyr y pwysau ariannol sylweddol a wynebwyd gan y Cyngor ac adlewyrchodd y gwaith cadarnhaol i liniaru rhywfaint o’r risg honno. Roedd gwaith ar ardystio hawliadau a ffurflenni grantiau bron â chwblhau a byddai hyn yn cael ei adrodd i gyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

Mynegodd y Prif Weithredwr werthfawrogiad i waith Swyddfa Archwilio Cymru. Esboniodd fod y materion cronnol wedi arwain at y materion a ddynodwyd ar gyfrifon Cronfa Bensiwn Clwyd ar gyfer 2016/17 ac ni ddylai hyn ddigwydd eto. Wrth gydnabod sensitifrwydd yr iaith a ddefnyddiwyd yn y llythyr, pwysleisiodd y gwahaniaeth clir rhwng rheoli cyllidebau’n effeithiol dan reolaeth y Cyngor yn hytrach na graddfa’r her ariannol  a achoswyd gan bolisïau cyllidol a’r farchnad economaidd. Roedd y sylwadau a wnaed i Lywodraeth Cymru’n ddiweddar yn cynnwys dull ‘llyfr agored’ o gynnig gwybodaeth dryloyw i gefnogi’r pryderon ar gynaliadwyedd ariannol.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol at y sylwadau cadarnhaol a wnaed gan Swyddfa Archwilio Cymru ar gamau dilyn i fyny er mwyn mynd i’r afael â’r materion a ddynodwyd yn y flwyddyn flaenorol a fyddai hefyd o fantais i waith ar broses gyfrifon 2017/18.

 

Gofynnodd Sally Ellis am gyfraniad posibl Swyddfa Archwilio Cymru ar fynd i’r afael â’r risgiau i gynaliadwyedd ariannol. Siaradodd y Prif Weithredwr am rôl annibynnol Swyddfa Archwilio Cymru wrth brofi dilysrwydd. Fel y crybwyllwyd yn gynharach, croesawodd ddilysu allanol a her i ddatganiadau risg y Cyngor a dystiwyd.

 

Adleisiodd y Cynghorydd Woolley bryderon cynaliadwyedd ariannol yn achos dim cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi Llythyr Archwilio Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2016/17; a

 

(b)       Derbyn sylwadau cadarnhaol ar y dull o droi at risgiau llywodraethu ariannol.