Mater - penderfyniadau

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

09/04/2018 - Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol i’w hystyried. Yn dilyn trafodaeth gynharach, rhoddodd wybod y byddai’r holiaduron hunanasesu i’w dosbarthu’n cynnwys canlyniadau’r ymatebion o ymarfer y flwyddyn ddiwethaf i helpu’r Pwyllgor i gwblhau’r dasg. Cynghorwyd yr aelodau i gysylltu â’r Rheolwr Archwilio Mewnol os oeddent yn dymuno trafod yr holiadur.

 

Cynigiodd Sally Ellis fod y Pwyllgor yn cael manylion adroddiadau terfynol ‘melyngoch’ a gyhoeddwyd gan Archwilio Mewnol, yn ogystal â’r wybodaeth ar adroddiadau ‘coch’ a dderbynnir ar hyn o bryd. Cytunodd y Rheolwr Archwilio Mewnol i ddarparu crynodeb o’r wybodaeth ynghyd â manylion yr adolygiad ‘melyngoch’ ar Reoli Llygredd a restrwyd yn yr adroddiad presennol. Eiliwyd hyn ac fe’i cefnogwyd gan y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Derbyn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cael gwybodaeth am adroddiadau terfynol ‘melyngoch’ a gyhoeddir gan Archwilio Mewnol (yn ogystal ag adroddiadau coch a rennir ar hyn o bryd) gan gynnwys yr un ar Reoli Llygredd yn yr adroddiad hwn; a

 

(c)       Bod y Rheolwr Archwilio Mewnol, trwy ymgynghori â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, wrth i’r angen godi.