Mater - penderfyniadau
Community Endowment Fund - Annual Report
01/03/2018 - Community Endowment Fund - Annual Report
Cyflwynodd y Prif Weithredwr Adroddiad Blynyddol y Gronfa Waddol Gymunedol, oedd yn ystyried cynnig a ddaeth i law gan y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru i reoli, gweinyddu a buddsoddi Cronfa’r Degwm Deiran Clwyd, sydd ar hyn o bryd yn cal ei weinyddu gan y Cyngor ar ran Cynghorau Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Wrecsam.
Cafodd y cynnig ei gefnogi’n unfrydol gan yr Aelodau yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol diweddar. Awgrymwyd argymhelliad ychwanegol i gael adroddiadau mwy rheolaidd ar berfformiad ac effaith y Gronfa, a chefnogwyd hyn.
Dywedodd y Cynghorydd Bithell ei bod yn galonogol gweld yr incwm a gafwyd o fuddsoddiadau.
Gwnaeth y Cynghorydd Thomas sylwadau ar y broses o wneud cais am gyllid, gan ddweud y byddai'n fuddiol pe gellid hysbysu ymgeiswyr am y cynnydd ar wahanol gamau’r broses.
PENDERFYNWYD:
(a) Parhau i gefnogi gwaith y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru a dyfarniad grantiau lleol fel rhan o Gronfa Waddol Gymunedol Sir y Fflint;
(b) Cymeradwyo trosglwyddiad prosesau rheoli a gweinyddu Cronfa’r Degwm Deiran Clwyd ar gyfer Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Wrecsam i’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru o 1 Ebrill 2018;
(c) Cymeradwyo trosglwyddiad prosesau rheoli a gweinyddu grantiau Sir y Fflint a ddyfarnwyd gan Gronfa’r Degwm i’w cyfuno â’r broses sydd eisoes ar waith ar gyfer Cronfa Waddol Gymunedol Sir y Fflint; a
(d) Darparu adroddiadau’n fwy rheolaidd ar berfformiad ac effaith y Gronfa.