Mater - penderfyniadau

Mid Year Risk Report

09/04/2018 - Mid Year Risk Report

Cyflwynodd y Prif Weithredwr ddiweddariad ar y risgiau strategol yng Nghynllun Cyngor 2017/18 y Cyngor a throsolwg o’r adolygiad Rheoli Risgiau diweddar a gynhaliwyd gan Archwilio Mewnol.

 

Adroddwyd bod y rhan fwyaf o’r 48 risg wedi’u hasesu fel cymedrol a bod yr 11 risg goch yn gysylltiedig yn bennaf â sefyllfa ariannol barhaus y Cyngor nad oedd modd eu lliniaru’n llawn. Roedd pryderon  ynghylch y potensial i rai risgiau coch ddwysáu i fod yn ddu (difrifol) a oedd yn ddigynsail.

 

O ran amseru’r diweddariad, cynghorodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol fod y sefyllfa’n destun newid wrth adrodd ar sefyllfa Chwarter 3 y mis canlynol. Esboniodd hefyd y byddai adroddiadau’r dyfodol yn cynnwys mwy o fanylder ar dueddiadau.

 

Dywedodd y Rheolwr Archwilio Mewnol fod cylch gwaith yr adolygiad eleni wedi newid i ganolbwyntio ar adnabod, rheoli ac adrodd ar risgiau gweithredol a oedd wedi cael lefel sicrwydd cyffredinol o ‘resymol’. Roedd nifer o feysydd lle’r oedd risg yn cael ei reoli’n dda a lle gwnaed cynnydd ar y pedwar maes a ddynodwyd ar gyfer gwelliant pellach.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Woolley a oedd Llywodraeth Cymru wedi ymateb i gyfathrebiadau am y risg ar fodloni’r galw cynyddol am ofal cartref preswyl a nyrsio. Dywedodd y Prif Weithredwr fod codiadau diweddar mewn cyfraddau preswylio wedi dangos y diffyg gallu. Gwnaed sylwadau gan y Cyngor ar y cyfraddau cadw parhaus o £0.500m o’r Gronfa Gofal Ganolradd yn dda ac roeddent yn aros am benderfyniad ffurfiol. O ran y Polisi a’r Strategaeth Rheoli Risgiau, esboniwyd y byddai diweddariad yn cael ei wneud ac yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod nesaf i’w hystyried.

 

Mewn ymateb i’r cwestiynau gan Sally Ellis a’r Cynghorydd Johnson, dywedodd y Prif Weithredwr fod gwaith yn mynd rhagddo gyda Phrif Swyddogion i sicrhau bod camau’n cael eu cymryd ar y meysydd ar gyfer gwelliant i gryfhau prosesau.

 

Cytunwyd rhai mân newidiadau i argymhellion yr adroddiad i adlewyrchu’r pwyntiau a godwyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi statws trosolwg cychwynnol risgiau strategol blaenoriaethau 2017/18 y Cyngor;

 

(b)       Nodi canlyniadau adolygiad Archwilio Mewnol diweddar trefniadau rheoli risg y Cyngor a nodi ymateb rheoli’r Cyngor, yn unol â’r cynllun gweithredu a’r adroddiad Archwilio dilyn i fyny; a

 

(c)       Chyflwyno’r Polisi a’r Strategaeth Rheoli Risgiau i’r cyfarfod nesaf i roi sicrwydd bod hwn wedi’i ddiweddaru’n llawn.