Mater - penderfyniadau
North Wales Economic Growth Deal Bid Progress Report
23/01/2018 - North Wales Economic Growth Deal Bid Progress Report
Cyflwynodd Cynghorydd Shotton Adroddiad Cynnydd Cais Twf Economaidd Gogledd Cymru.
Ym mis Medi 2016, mabwysiadodd y Cabinet y Weledigaeth Twf ar gyfer Economi Gogledd Cymru a chefnogodd gynnydd datblygiad Cais Bargen Twf cystadleuol a oedd i gael ei gyflwyno i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru (LlC) erbyn diwedd mis Tachwedd 2017. Roedd manylion y Cais wedi’u cynnwys yn yr atodiad.
Roedd cyfarfod cyntaf y Cydbwyllgor Cysgodol wedi cyfarfod yr wythnos flaenorol lle gwnaeth cynrychiolwyr o’r sector preifat, Addysg Uwch (AU) ac Addysg Bellach (AB) ymuno ag Arweinwyr y Cyngor. Roedd y Cais Bargen Twf yn ategol at, a byddai’n cefnogi’r canlynol:
· Polisi economaidd a chymdeithasol y DU a LlC;
· Polisi Llywodraeth y DU i ddatblygu cystadleurwydd economi’r Undeb ar ôl trafodaethau Brexit;
· Polisi LlC ar gyfer llywodraethu rhanbarthol a datganoli;
· Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU;
· Cynlluniau Sector Llywodraeth y DU a LlC yn benodol ar gyfer niwclear, ynni, gweithgynhyrchu (Modurol ac Awyrofod) a digidol;
· Cynllun Seilwaith Cymru;
· Cynllunio a chysylltedd trawsffiniol; a
· Strategaeth Economaidd LlC sydd ar fin digwydd.
Ychwanegodd y Prif Weithredwr mai’r Cydbwyllgor Cysgodol fyddai’r canolbwynt ar gyfer trafodaethau gyda’r Cynghorydd Shotton yn Gadeirydd y Cydbwyllgor hwnnw, gyda chefnogaeth Arweinydd Cyngor Sir Gwynedd fel Is-Gadeirydd. Roedd cefnogaeth swyddogion gan ef ei hun ac Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr, Cyngor Gwynedd. Roedd amcan i gyrraedd cam cyntaf y cytundeb, a elwir yn ‘Penawdau’r Telerau’ erbyn diwedd gwanwyn 2018.
O ran manteision posibl i Sir y Fflint o’r Fargen Twf, roedd nifer o gynigion i gefnogi twf busnesau a fyddai o fantais i fusnesau presennol Sir y Fflint a soniodd y Prif Weithredwr am Waren Hall ym Mrychdyn a safleoedd cyflogaeth fel Parc Diwydiannol ac Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy.
Rhoddodd y Cynghorydd Butler sylwadau ar y gweithio trawsffiniol llwyddiannus a oedd wedi galluogi cynnydd cyflym ar y Fargen Twf ar gyfer Gogledd Cymru a chroesawodd bolisi LlC ar gyfer llywodraethu rhanbarthol a datganoli.
Dywedodd y Cynghorydd Shotton fod cludiant wrth wraidd y Cais i ddarparu mynediad i bobl i gyfleoedd, gan roi sylwadau yn benodol ar fynd i’r afael â bod heb waith a diweithdra.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cais Bargen Twf a gyflwynwyd i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cael ei gefnogi a bod y terfynau amser ar gyfer pob un o gamau nesaf datblygu’r cais yn cael eu nodi; a
(b) Bod y cynlluniau blaenoriaeth a allai ddarparu budd lleol yn Sir y Fflint yn cael eu nodi a’u cefnogi.