Mater - penderfyniadau

School Balances

27/06/2018 - School Balances

            Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad sy’n rhoi dadansoddiad o falansau wrth gefn ar gyfer pob ysgol yn Sir y Fflint fel ag y mae ddiwedd Mawrth 2017, a'r balansau wrth gefn terfynol gan ysgolion ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2016/17 o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. 

 

            Yn Sir y Fflint, mae cyllidebau ysgolion uwchradd wedi bod dan bwysau parhaus gyda saith o ysgolion uwchradd yn dangos diffyg erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.  Mae rhagolygon ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol yn dangos y byddai'r sefyllfa yn gwaethygu gyda'r posibilrwydd y byddai mwy o ysgolion yn mynd i ddiffyg ariannol a byddai'r lefel cyffredinol o ysgolion uwchradd mewn diffyg ariannol yn cynyddu.  

 

            Yn unol â pholisi’r Cyngor mae’n rhaid i'r ysgolion ddarparu datganiad ar sut y maen nhw'n bwriadu defnyddio unrhyw arian dros ben sy’n fwy na £50,000 i ysgolion cynradd a dros £100,000 i ysgolion uwchradd ac ysgolion arbenigol.   Mae’r Tîm Cyfrifeg Ysgolion wedi gofyn am, ac wedi archwilio’r wybodaeth benodol hwn.

 

            O ganlyniad, mae’r Rheolwr Cyllid (Addysg ac Ieuenctid) wedi cynghori nad oes gan Lywodraethwyr unrhyw hawl gyfreithiol i osod diffyg cyllidebol heb ganiatâd y Cyngor, ac ni ddylai gymryd yn ganiataol y rhoddir caniatâd o'r fath.   Fodd bynnag, bydd y Cyngor yn ystyried cymeradwyo diffyg trwyddedig i ysgol lle mae'n cytuno bod yna amgylchiadau lle byddai'n afresymol gofyn i ysgol gydbwyso ei gyllidebau yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol.

 

            Dywedodd Mrs. Rebecca Stark am y sefyllfa ariannol sy’n gwaethygu i ysgolion wrth symud ymlaen a gofynnodd sut y mae ysgolion yn parhau i gael eu hariannu os yw'r holl ysgolion mewn diffyg ariannol.  Dywedodd hefyd nad yw Estyn yn cymryd y pwysau ariannol ar ysgolion i ystyriaeth.  Cynghorodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol os yw’r holl ysgolion mewn diffyg ariannol yna byddai angen darparu cyllid drwy gronfeydd wrth gefn y Cyngor.  Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Addysg bod y diffyg ariannol presennol yn bodoli gan fod ysgolion yn cadw arian yn weddill ond wrth i fwy o ysgolion fod a diffyg ariannol byddai hynny’n risg ariannol corfforaethol i’r Cyngor.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd David Williams pe bai modd ychwanegu colofn arall ar adroddiadau'r dyfodol yn dangos nifer disgyblion ym mhob ysgol.   Cytunodd y Prif Swyddog Dros Dro (Addysg ac Ieuenctid) i edrych ar y posibilrwydd o ychwanegu colofn ychwanegol ar gyfer niferoedd disgyblion yn dilyn y cyfarfod.  

       

PENDERFYNWYD:

 

Nodi balansau ysgol fel ag y maent ar 31 Mawrth 2017.