Mater - penderfyniadau
North East Wales (NEW) Homes Business Plan 2018/27
10/10/2018 - North East Wales (NEW) Homes Business Plan 2018/27
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth, Rhaglenni Tai adroddiad ar Gynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru 2018/27 a gymeradwywyd gan y Cabinet ym mis Mai. Roedd yr adroddiad yn manylu cynnydd ar y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol a’r broses cymeradwyo benthyca newydd i Gartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru ar gyfer datblygu neu brynu tai fforddiadwy. Roedd y Cynllun Busnes – oedd wedi’i gynnwys fel atodiad cyfrinachol ar y rhaglen – yn manylu tai i'w datblygu drwy'r rhaglen SHARP, eiddo Adran 106 ac eiddo posibl drwy fenthyca yn erbyn asedau presennol.
Fel Dirprwy Gadeirydd Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru, rhoddodd y Cynghorydd Sean Bibby drosolwg o‘r prif bwyntiau. Cyfeiriodd at y gofynion gwerthuso ariannol a soniodd am berthnasoedd gwaith cadarnhaol rhwng partneriaid i hwyluso darpariaeth tai o ansawdd uchel am rent fforddiadwy. Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf ar y gwasanaeth gosodiadau a reolir sy’n cyfrannu at nod corfforaethol y Cyngor ar ddarpariaeth tai fforddiadwy yn y sector preifat.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dolphin, eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth y dull ar gyfer rheoli gosodiadau a dywedodd nad oedd angen gwneud gwaith atgyweirio mawr i eiddo hyd yma. Ychwanegodd bod yr arfer o gynnal arolygiadau chwarterol wedi helpu i nodi unrhyw faterion yn ystod camau cynnar.
Dywedodd y Cynghorydd Attridge am effeithiolrwydd y rhaglen rheoli dwyster uchel gan Gartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru i ddelio gyda materion tenantiaeth.
Wrth groesawu’r adroddiad cadarnhaol, diolchodd y Cynghorydd Hardcastle i’r Rheolwr Gwasanaeth a’i dîm am eu cyflawniadau.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Shotton ei fod yn bleser nodi fforddiadwyedd lefelau rhent a osodwyd gan Gartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru ac y gallai rheoliadau newydd ar ffioedd gosod fod o fudd.
Canmolodd y Cynghorydd Ron Davies y bartneriaeth gyda’r contractwyr a benodwyd, Wates, oedd yn darparu gwasanaeth ardderchog.
Gofynnodd y Cynghorydd Palmer a fyddai’r Pwyllgor yn gallu cael ei gynrychioli ar Fwrdd Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru. Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth gyfansoddiad y Bwrdd oedd yn cynnwys cynrychiolaeth trawsbleidiol o bump Aelod.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Attridge at y cyn Brif Swyddog (Cymuned a Menter) fel prif ysgogydd sefydlu’r cwmni newydd, ynghyd â’r Rheolwr Gwasanaeth a’i dîm. Siaradodd am ragolygon twf y cwmni yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD:
Bod Cynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru 2018/27 yn cael ei nodi.