Mater - penderfyniadau

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

15/02/2018 - Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

Cyflwynodd Rheolwr yr Adain Archwilio Mewnol y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol i’w hystyried, gan gynnwys cais gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a Chyfansoddiad.  Gofynnwyd i aelodau ddynodi eu dewisiadau ar gyfer y patrwm o gyfarfodydd i’r Pwyllgor sydd ar hyn o bryd yn cael eu cynnal ar foreau Mercher.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dunbobbin am yr angen am hyblygrwydd ar gyfer cyfarfodydd fel ei bod yn bosib i'r holl fynychwyr eu mynychu beth bynnag yw eu hymrwymiadau. Teimlai bod angen trafodaeth ymhellach i annog newid diwylliannol o’r fath a gofynnodd i’w sylwadau gael eu nodi.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) mai bwriad y cais oedd galluogi pob pwyllgor i benderfynu ar batrwm cyfarfodydd eu hunain.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dolphin at yr heriau mewn annog pobl iau i fod yn Aelodau etholedig.  Dywedodd am ymrwymiadau Aelodau oedd yn achosi anawsterau pan fo dyddiadau cyfarfodydd yn cael eu newid yn ystod y flwyddyn.

 

I gefnogi ei sylwadau cynharach ac mewn ymgais i ysgogi newid bychan yn y gobaith o drafodaeth ehangach, cynigodd y Cynghorydd Dunbobbin bod y cyfarfodydd yn cael eu cynnal ar sail gylchdroadol o 10am/3pm/4.30pm.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Johnson.  O'i roi i bleidlais, gwrthodwyd y cynnig.

 

Dywedodd y Cynghorydd Johnson ei fod yn erbyn y dewis o gael cyfarfodydd am 6pm oherwydd yr effaith ar ymrwymiadau Aelodau a swyddogion a dywedodd y byddai angen ymgynghori â'r Undebau Llafur.

 

Meddai'r Cynghorydd Woolley y byddai unrhyw ofyniad i Aelodau fynychu cyfarfodydd gyda'r nos yn cael effaith negyddol ar eu hymrwymiad â gweithgareddau yn y sector wirfoddol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Johnson ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol fe eglurodd swyddogion na ddylai cylch gwaith Pwyllgor groesi Trosolwg a Chraffu.

 

Rhoddodd Rheolwr yr Adain Archwilio Mewnol esiampl lle mae pryderon ynghylch pynciau penodol yn cael eu codi fel rhan o'r gwaith archwilio.

 

Meddai’r Prif Weithredwr bod y Pwyllgor yn gallu gwneud cais bod gwaith archwilio ar bwnc o ddiddordeb yn gallu cael ei gynnwys yn y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol hyd yn oed os nad yw wedi derbyn graddfa sicrwydd 'coch'.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Woolley at y protocol o gyflwyno eitemau o ddiddordeb i'r pwyllgor trosolwg a chraffu perthnasol a dywedodd bod y pwyllgorau hynny yn gallu trosglwyddo achosion o bryder i’r Pwyllgor Craffu.

 

I roi sicrwydd pellach i’r Pwyllgor, rhoddodd y Prif Swyddog esiamplau o bynciau wedi cael eu hystyried o ganlyniad i bryderon Aelodau.  Darparodd yr eitem Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar bob agenda i roi cyfle pellach i gyflwyno achosion o bryder.

 

Cymerodd y Cadeirydd y cyfle i ddiolch i John Herniman o Swyddfa Archwilio Cymru am ei gefnogaeth i’r Pwyllgor yn ystod ei amser yn gweithio gyda Sir y Fflint gan mai dyma fyddai'r cyfarfod olaf iddo ei fynychu.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Derbyn y Rhaglen Waith i’r Dyfodol; a

 

(b)       Bod Rheolwr yr Adain Archwilio Mewnol, mewn ymgynghoriaeth â Chadeirydd ac Is Gadeirydd y Pwyllgor, wedi'i awdurdodi i amrywio'r Rhaglen Waith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

 

(c)       Byddai’n well gan y Pwyllgor i barhau i gyfarfod am 10am ar ddyddiau Mercher, gan nodi sylwadau’r Cynghorydd Dunbobbin am yr angen am drafodaethau pellach ar hyblygrwydd cyfarfodydd i gwrdd ag ymrwymiadau Aelodau i gael ei gynnwys wrth adrodd yn ôl i'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a Chyfansoddiad.