Mater - penderfyniadau
Council Plan 2017/18 - Mid year Monitoring
14/02/2018 - Council Plan 2017/18 - Mid year monitoring
Cafodd yr aelodau adroddiad cynnydd canol blwyddyn ar Gynllun y Cyngor ar gyfer 2017-23 ar gyfer y flaenoriaeth 'Cyngor Gwyrdd' a oedd yn berthnasol i'r Pwyllgor.
Cyfeiriodd y Prif Swyddog (Cynllunio a'r Amgylchedd) at y risg fawr (coch) ar argaeledd cyllid i ddarparu cynlluniau lliniaru llifogydd a oedd yn gysylltiedig â thrafodaeth gynharach. O ran rhannau eraill o’r adroddiad, byddai'r cynnydd ar ddatblygu strategaeth leol i wella ansawdd aer yn cael ei drefnu ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol ac atgoffwyd yr aelodau dyddiad cau cyfagos ar gyfer ymatebion i'r ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint.
Rhoddwyd esboniad gan y Prif Swyddog (Strydlun a Thrafnidiaeth) ar y raddfa cynnydd oren ar gyfer cludiant ysgol, oherwydd tua 30 o gontractau coleg a oedd yn mynd drwy'r broses dendro ar hyn o bryd.
Yn dilyn sylwadau cadarnhaol gan yr Aelodau, gofynnodd y Cadeirydd am ddiolch i dîm cynnal a chadw y gaeaf am eu gwaith caled yn ystod y tywydd garw diweddar. Mewn ymateb, soniodd y Cynghorydd Carolyn Thomas am ymdrechion pawb a oedd yn gysylltiedig i sicrhau bod y ffyrdd yn cael eu graeanu a bod y ganolfan alwadau yn weithredol.
Yn dilyn sylwadau gan y Cynghorydd Owen Thomas, dywedodd y Prif Swyddog nad oedd yn ymarferol darparu graean i'r holl gontractwyr a ddefnyddiwyd gan y Cyngor a chyfeiriodd at gost a chyfaint yr halen a ddosbarthwyd ar ffyrdd hyd yn hyn y gaeaf hwn.
Pwysleisiodd y Cadeirydd bwysigrwydd cwmnïau bysiau yn parhau i ddarparu gwasanaethau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, lle'r oedd modd pasio ar y ffyrdd. Dywedodd y Prif Swyddog fod pob cwmni wedi ymgymryd â'i weithdrefnau asesu risg ei hun a chytunodd i godi'r mater o gydlynu llwybrau bysiau yn well mewn cyfarfod sydd i ddod gyda Arriva.
PENDERFYNWYD:
Y dylid nodi adroddiad monitro canol blwyddyn Cynllun y Cyngor 2017/18 i fonitro tanberfformiad.