Mater - penderfyniadau

Quarters 1 & 2 Council Plan 2017/18 Monitoring Report

03/04/2018 - Council Plan 2017/18 - Mid year monitoring

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro adroddiad i adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor ar gyfer 2017/18. Eglurodd ei fod yn adroddiad cadarnhaol gydag 88% o’r gweithgareddau yn gwneud cynnydd da yn ôl yr asesiad a 67% yn debygol o gyflawni’r canlyniad a ddymunwyd.Yn ogystal, roedd 65% o'r dangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu ragori ar y targed.Roedd y risgiau hefyd yn cael eu rheoli'n llwyddiannus gyda'r mwyafrif yn cael eu hasesu’n risgiau cymedrol neu’n fân risgiau. Cyfeiriodd y Prif Swyddog Dros Dro at dair risg fawr, fel y nodir yn yr adroddiad a, gan gyfeirio at gynaliadwyedd y ffrydiau ariannu, dywedodd bod y Cyngor wedi derbyn hysbysiad yn ddiweddar, heb rybudd ymlaen llaw, bod Llywodraeth Cymru wedi torri’r Grant Gwella Addysg 11%.

 

                        Dywedodd y Cyng. Ian Roberts, yn ychwanegol at y gostyngiad yn y grant hwn, bod y Grant Gwisg Ysgol ar gyfer disgyblion blwyddyn 7 sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim hefyd wedi’i dynnu’n ôl yn ddirybudd.

 

            Yn ystod y drafodaeth mynegodd yr Aelodau nifer o bryderon ynghylch y toriadau mewn cyllid grant a’r diffyg rhybudd i alluogi'r Cyngor a'r ysgolion gynllunio ar gyfer yr effaith. Gwnaeth y Cyng. Ian Roberts sylw ar oblygiadau codi cyflogau athrawon y flwyddyn nesaf a dywedodd y byddai angen ariannu cynnydd o fwy nag 1% mewn cyflogau sector cyhoeddus yn ganolog.Cynigiodd y Cyng. Patrick Heesom y dylid anfon llythyr ar ran y Pwyllgor yn amlinellu eu pryderon, ac eiliwyd hyn gan y Cyng. Ted Palmer.Cytunwyd i anfon llythyr at Mrs Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn amlinellu'r canlynol:-

 

·         Y gostyngiad arfaethedig o 11% yn y Grant Gwella Addysg

·         Diddymu Grant Ysgolion Bach a Gwledig

·         Diddymu Grant Gwisg Ysgol ar gyfer disgyblion blwyddyn 7 sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim

 

            Mynegodd y Cyng. Dave Mackie nifer o bryderon ynghylch fformat yr adroddiad monitro perfformiad yn Atodiad 1. Cytunodd yr Hwylusydd i siarad efo’r Tîm Perfformiad i sicrhau bod fformat yr adroddiadau nesaf yn well.Dywedodd y Cyng. Mackie bod cynigion wedi’u gwneud i ddarparu hyfforddiant i Aelodau i’w galluogi nhw i ddeall yr wybodaeth am berfformiad yn well a gofynnodd a oedd yr hyfforddiant yn mynd i gael ei drefnu. Cytunodd yr Hwylusydd i godi’r mater gyda Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd fel rhan o’r Rhaglen Datblygu Aelodau.

 

            Holodd y Cyng. Mackie ynghylch y ffigyrau ar dudalen 51 yr adroddiad a chanran y bobl ifanc 16-18 oed yn y system cyfiawnder ieuenctid sydd wedi cael cynnig addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth. Cytunwyd y byddai'r Hwylusydd yn cysylltu â’r Rheolwr Cyfiawnder Ieuenctid i dderbyn eglurhad o’r ffigyrau.

 

                        Cyfeiriodd Mrs Rebecca Stark at y risg ynghylch gallu arweinyddiaeth a nodir yn yr adroddiad cynnydd a gofynnodd a oes risg o ran diffyg penaethiaid cymwys ac addas yn y dyfodol. Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro bod y sefyllfa yn fwyfwy heriol ond nad yw ysgolion yn Sir y Fflint wedi cael trafferthion penodi ymgeiswyr cadarn.Eglurodd bod GwE wedi datblygu rhaglen datblygu proffesiynol gref i gefnogi deiliaid swydd ac i sicrhau bod ymgeiswyr priodol yn y dyfodol.

 

                        Cyfeiriodd Mrs Rebecca Stark at y risg yn ymwneud â gofynion Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru), a fydd yn dod i rym gyda hyn, yn arwain at orfod canfod adnoddau ychwanegol o ran gwasanaethau a darpariaethau arbenigol. Eglurodd y Prif Swyddog Dros Dro y dylai bod gan bob ysgol Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar a bod yr Awdurdod yn gweithio’n galed gyda Chydlynydd ADY penodol i baratoi ar gyfer 2020.

 

                        Roedd y Cyng. Patrick Heesom yn pryderu ynghylch diffyg cynnydd o ran darpariaeth Gwasanaeth Ieuenctid boddhaol yn Sir y Fflint. Mewn ymateb eglurodd y Cyng. Ian Roberts bod y gwaith ar y Gwasanaeth Ieuenctid yn datblygu’n dda ac awgrymodd y dylid cynnwys yr eitem ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol er mwyn darparu diweddariad i’r Pwyllgor.

 

            PENDERFYNWYD:

 

(a)      Nodi'r adroddiad monitro canol blwyddyn

 

(b)       Derbyn eglurhad ynghylch fformat adroddiadau monitro perfformiad

 

(c)        Anfon llythyr at Mrs Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn amlinellu pryderon y Pwyllgor ynghylch y canlynol:-

 

  • Y gostyngiad arfaethedig o 11% yn y Grant Gwella Addysg
  • Diddymu Grant Ysgolion Bach a Gwledig

·         Diddymu Grant Gwisg Ysgol ar gyfer disgyblion blwyddyn 7 sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim