Mater - penderfyniadau
Welsh Local Government Provisional Settlement and Council Fund Revenue Budget 2018/19
21/12/2017 - Welsh Local Government Provisional Settlement and Council Fund Revenue Budget 2018/19
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr eitem ar lafar, a amlinellodd y Setliad Dros Dro a ddaeth i law 10 Hydref. Esboniodd fod y Cyllid Allanol Cyfun dros dro, a oedd yn cynnwys Grantiau Cefnogi Refeniw a Chyfraddau Annomestig, yn £187.816 miliwn ar gyfer 2018/19, a oedd yn cynrychioli gostyngiad o 0.9%, o'i gymharu â ffigur 2017/18 o £189.519, a oedd yn cyfateb i ostyngiad o £1.703 miliwn.
Roedd trosglwyddiadau i’r Setliad yn cynnwys y Grant Amgylcheddol Sengl – Gwastraff (£1.640 miliwn), Grant Byw'n Annibynnol Cymru (£1.586 miliwn), Grant Gweithlu Gofal Cymdeithasol (£0.827 miliwn), Plant sy’n Derbyn Gofal (£0.302 miliwn) a Grant Gofal Seibiant Gofalwyr (£0.131 miliwn).
Roedd cyfrifoldeb newydd wedi’i nodi yn y Setliad o £0.197 miliwn ar gyfer atal digartrefedd, a fyddai angen rhoi sylw manwl iddo yng ngofynion ariannu Sir y Fflint. Gan ystyried yr addasiad hwnnw, roedd gan y Setliad effaith negyddol o £1.9 miliwn ar y rhagolwg cyfredol o’r Gyllideb ar gyfer 2018/19.
Esboniodd y Cyllid Gwaelodol o £1.772 miliwn a oedd wedi’i gynnwys i sicrhau nad oedd yr awdurdod wedi cael gostyngiad a oedd yn fwy na 1% o’i gymharu â’i ddyraniad 2017/18 ac arian ychwanegol. Ni fyddai gwybodaeth mewn perthynas â grantiau penodol yn dod i law cyn 24 Hydref.
Roedd Arian Cyfalaf Cyffredinol y Cyngor wedi lleihau o gyfanswm 2017/18 o £6.634 miliwn i £6.516 miliwn, a oedd yn ostyngiad net o £0.118 miliwn.
Esboniodd y Prif Weithredwr fod yna gyfnod ymgynghori o chwe wythnos, a oedd yn dod i ben 21 Tachwedd. Byddai’r Setliad Dros Dro’n cael ei drafod yn y cyfarfod Cyngor Sir arbennig 14 Tachwedd.
Roedd Cam 1 o’r gyllideb wedi’i drafod ym mhob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu. Byddai Cam 2 yn cael ei adrodd i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, y Cabinet a'r Cyngor Sir ym mis Rhagfyr. Byddai Cam 3 o’r gyllideb yn manylu ar y sefyllfa ariannu genedlaethol a’r risgiau.
Adroddodd y Cynghorydd Shotton ar ddifrifoldeb y sefyllfa, ac effaith caledi ariannol ar y gwasanaethau a roddir i bobl Sir y Fflint. Dyletswydd y Cyngor oedd darparu ar gyfer anghenion bobl leol, y dylid fod yn bosibl o’r arian a roddir i awdurdodau lleol, gan Lywodraeth y DU, ond roedd gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i fod yn destun ymosodiad, oherwydd y toriadau parhaus i'r gyllideb. Deisyfodd ar Aelodau'r Cabinet i barhau i lobïo Llywodraeth y DU am wrthdroi’r polisi cyllidol cyfredol cyn Datganiad y Canghellor 22 Tachwedd. Pe bai unrhyw fath o wrthdroi gyda’r toriadau, yna byddai lobïo’n digwydd gyda Llywodraeth Cymru i amddiffyn gwasanaethau lleol.
Cytunodd y Cynghorydd Attridge ac anogodd Aelodau i lobïo ASau ac ACau, gan egluro pa wasanaethau y gellid effeithio arnynt.
Eglurodd y Prif Weithredwr fod y Digwyddiadau Ymgysylltu â’r Cyhoedd, ‘Ein Sir y Fflint, Ein Dyfodol 2017’ wedi dechrau’r wythnos hon, lle byddai’r heriau a wynebir, ynghyd â sut y gallai cymunedau gymryd rhan i helpu i amddiffyn y gwasanaethau roeddent yn eu gwerthfawrogi fwyaf, yn cael eu trafod.
PENDERFYNWYD:
Derbyn yr adroddiad ar lafar.