Mater - penderfyniadau
Induction Report
14/02/2018 - Induction Report
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar ddatblygiad y rhaglen sefydlu Aelodau yn dilyn yr etholiadau.
Yn dilyn adborth cadarnhaol ar y sesiynau sefydlu generig ar gyfer Aelodau newydd a rhai sy’n dychwelyd, roedd rhaglen ddrafft o friffiau Datblygu Aelodau wedi eu paratoi i ddarparu sgiliau a gwybodaeth benodol i Aelodau a oedd eu hangen i gyflawni eu swyddi. Roedd y rhaglen yn destun adolygiad parhaus, er enghraifft, roedd gweithdai ychwanegol ar y Polisi Cludiant a Chytundeb Twf Gogledd Cymru wedi eu trefnu ar gyfer mis Tachwedd mewn ymateb i geisiadau Aelodau. Roedd hefyd cyfle i Aelodau newydd fynd i ddigwyddiad rhanbarthol a gynhaliwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Croesawodd y Cynghorydd Chris Bithell yr ymagwedd tuag at y rhaglen sefydlu a oedd yn ceisio cynnwys cymaint o Aelodau a phosibl. Gofynnodd am fanylion ar y nifer a oedd yn bresennol yn y sesiynau sefydlu a sawl unigolyn nad oedd yn bresennol o gwbl, yn arbennig Aelodau newydd. Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod Aelodau newydd wedi bod yn bresennol mewn o leiaf un sesiwn sefydlu. Cytunodd i ddarparu gwybodaeth mewn adroddiad i’r cyfarfod nesaf gan gynnwys manylion fesul slot amser, fel y gofynnwyd gan y Cynghorydd Glyn Banks.
Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Arnold Woolley, eglurwyd fod hyfforddiant Trosolwg a Chraffu wedi ei roi i bob un o’r pwyllgorau unigol hynny ac roedd hefyd wedi’i gynnwys yn y sesiwn gyflwyno Materion Cyfansoddiadol.
Holodd y Cynghorydd Mike Peers a ddylid dwyn ymlaen y sesiynau datblygu ar Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, gan fod y testun wedi’i godi gan Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) fel maes i ganolbwyntio’n benodol arno yn ystod grwpiau trafod diweddar. Byddai’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yn gofyn am eglurhad gan nad oedd hyn wedi ei nodi’n flaenoriaeth gan SAC.
Pwysleisiodd y Cynghorydd Bithell bwysigrwydd sicrhau fod pob Aelod a swyddog yn deall eu cyfrifoldebau ar ddiogelu a chyfeiriodd at y sesiynau i’w darparu cyn cyfarfodydd y pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ac Archwilio. Eglurwyd fod y sesiynau’n agored i bob Aelod ac y byddai’r rhai nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn cael cyfle i gymryd rhan mewn sesiwn ar y diwedd.
PENDERFYNWYD:
a) Bod y Pwyllgor yn nodi’r rhaglen sefydlu Aelodau a gynhaliwyd ar ôl yr etholiadau; a
b) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r ymagwedd tuag at Ddatblygu Aelodau am weddill blwyddyn y cyngor, fel y nodwyd yn Atodiad A yr adroddiad.