Mater - penderfyniadau
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
24/11/2017 - Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Cyflwynodd y Prif Archwilydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol er mwyn ei hystyried ac amlygodd y symudiadau ers yr adroddiad diwethaf.
Awgrymodd y Cadeirydd eitem ar gludiant ysgol a chafodd ei gynghori gan y Prif Weithredwr y byddai'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid yn derbyn diweddariad ar gomisiynu a gweithrediadau yn ei gyfarfod nesaf. Byddai nodyn wedyn yn cael ei gylchredeg i bob Aelod. Adroddodd fod gweithrediadau cludiant i'r ysgol arferol yn ailgychwyn a bod gwaith yn cael ei wneud ar faterion cymhwyster a chaffael cymhleth. Talodd deyrnged i waith swyddogion yn Nepo Alltami a diolchodd i Aelodau am rannu gwybodaeth. Sicrhaodd y Pwyllgor fod y materion yn cael eu hatgyfeirio at Bwyllgor Trosolwg a Chraffu gyda gwaith cynghorol yn cael ei gynllunio gan yr adran Archwilio Mewnol.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Chris Dolphin at broblemau recriwtio a chadw staff o fewn y Gwasanaeth Ieuenctid. Cynigiodd y Prif Weithredwr fynd ar ôl y mater hwn.
PENDERFYNWYD:
(a) Derbyn y Rhaglen Waith i’r Dyfodol; a
(b) Rhoi awdurdod i Reolwr yr Adran Archwilio Mewnol, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.