Mater - penderfyniadau
Action Tracking
24/11/2017 - Action Tracking
Cyflwynodd y Prif Archwilydd yr adroddiad diweddariad cynnydd ar gamau gweithredu oedd yn deillio o gyfarfodydd blaenorol.
Gofynnodd y Cynghorydd Chris Dolphin am ‘Greenfield Valley Heritage Park’ a chafodd ddiweddariad bras gan y Prif Weithredwr ar gynnydd yngl?n â chamau gweithredu cynllunio busnes oedd ar y trywydd iawn.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr hyfforddiant Rheoli Trysorlys sydd i’w drefnu ar gyfer Hydref / Tachwedd ac atgoffodd y cyfarfod fod cyfarfodydd ymgynghori cyllideb Trosolwg a Chraffu yn cael eu trefnu ar gyfer o gwmpas yr un cyfnod. Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y byddai dyddiad addas yn cael ei ganfod.
PENDERFYNWYD:
Derbyn yr adroddiad.