Mater - penderfyniadau
Forward Work Programme (Community & Enterprise)
16/04/2018 - Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol er mwyn ei hystyried. Dywedodd wrth Aelodau y byddai cyfarfod ychwanegol o’r Pwyllgor yn cael ei gynnal ar 25 Hydref 2017 i roi diweddariad ar gyflwyno rhaglenni arbed ynni domestig, a Rhaglen Cymunedau’n Gyntaf.
Gofynnodd y Cynghorydd Mike Reece a fyddai modd rhoi gwybod i’r Cynghorwyr pan fyddai tenantiaid newydd yn symud mewn i’w Ward. Dywedodd y Prif Swyddog y dylai hyn fod yn digwydd ac y byddai’n edrych mewn i’r mater gyda’r tîm ar ôl y cyfarfod.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Waith i’r Dyfodol; a
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.