Mater - penderfyniadau
Annual Performance Report 2016/17
21/12/2017 - Annual Performance Report 2016/17
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2016/17 a oedd yn adolygu cynnydd yn erbyn y Blaenoriaethau Gwella fel y manylwyd yng Nghynllun Gwella 2016/17.
Esboniodd y Prif Weithredwr fod yn rhaid cyhoeddi’r adroddiad erbyn 31 Hydref bob blwyddyn, a rhaid i’r Cyngor Sir ei gymeradwyo cyn ei gyhoeddi. Roedd yr asesiad yn ystyried asesiadau ystyried perfformiad ar gyfer bob Blaenoriaeth Gwella drwy:
· Gynnydd yn erbyn camau gweithredu a phrosiectau allweddol;
· Cynnydd yn erbyn risgiau a heriau wedi’u nodi;
· Canlyniadau dangosyddion perfformiad (dadansoddi targedau a thuedd); a
· Gweithgaredd rheoleiddio, archwilio ac arolygu.
Ychwanegodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol, er gwaethaf cefnlen o galedi ariannol a wynebai'r Cyngor, roedd Sir y Fflint wedi'i sgorio fel yr awdurdod gorau yng Nghymru i ddangos gwelliant rhwng 2015/16 a 2016/17.
Diolchodd yr Aelodau'r staff ar draws yr awdurdod am y gwaith a wnaed yn ystod cyfnodau anodd parhaus, wrth gael ei sgorio fel yr awdurdod gorau i ddangos gwelliant, a oedd yn gyflawniad nodedig.
PENDERFYNWYD:
Cefnogi bod Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2016/17 yn cael ei gyhoeddi.