Mater - penderfyniadau
Flintshire Public Services Board Review and Well-being Plan Development
21/12/2017 - Flintshire Public Services Board Review and Well-being Plan Development
Cyflwynodd y Prif Weithredwr Adolygiad Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint a Datblygiad y Cynllun Lles, a roddodd drosolwg o waith Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint hyd yn hyn, a datblygiad y Cynllun Lles. Rhoddodd yr adroddiad drosolwg cryno hefyd o'r partneriaethau strategol a oedd yn adrodd i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
Nod lefel uchel y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus oedd “gwarchod, cynnal a gwella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Sir y Fflint drwy gydweithio fel un gwasanaeth cyhoeddus.” Roedd Asesiad Lles ar gyfer Sir y Fflint wedi’i lunio a’i gyhoeddi’n unol â gofynion statudol ac yn cyflwyno darlun cyfoes o fywyd a lles yn Sir y Fflint. Amlinellwyd diweddariadau cynnydd yn yr adroddiad.
Roedd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint wedi dewis a chefnogi pum thema a oedd â nifer o flaenoriaethau:
1. Thema: Lles a Byw’n Annibynnol;
2. Thema: Diogelwch Cymunedol;
3. Thema: Cymunedau Gwydn;
4. Economi a Sgiliau; ac
5. Amgylchedd.
Dechreuodd cyfnod ymgynghori 12 wythnos yn Hydref 2017 a byddai’n dod i ben yn Ionawr 2018. Byddai digwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd yn ffurfio rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus statudol. Byddai’r Cynllun yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol i geisio cefnogaeth, ac i'r Cabinet gefnogi'r strwythur a'r cynnwys. Byddai’r Cynllun hefyd yn cael ei gyflwyno i gyrff statudol eraill y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus er mwyn ei gefnogi.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod Aelodau'n cael sicrwydd ar lefel y cynnydd y mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint wedi'i wneud hyd yn hyn;
(b) Bod themâu/blaenoriaethau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cael eu cefnogi;
(c) Bod lefel cynnydd y partneriaethau strategol amrywiol yn cael eu cefnogi; a
(d) Bod y camau nesaf a amlinellir yn yr adroddiad a’r amserlen o ran darparu’n cael ei nodi.