Mater - penderfyniadau
Forward Work Programme (Social & Health Care)
26/07/2018 - Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Wrth gyflwyno’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, dywedodd yr Hwylusydd, yn dilyn cymeradwyo amserlen cyfarfodydd y Pwyllgor yng nghyfarfod y Cyngor Sir ar 1 Mai, y byddai’n poblogi’r Rhaglen ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2018/19.
Tynnodd yr Hwylusydd sylw at yr eitemau ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor i’w gynnal ar 10 Mai, a’r eitemau i’w trefnu ar gyfer y dyfodol.
Awgrymodd y Cynghorydd Gladys Healey y dylid rhoi hyfforddiant ymwybyddiaeth o Drais Domestig i Aelodau.
Yn dilyn awgrym gan y Cynghorydd Kevin Hughes, cytunwyd gwahodd aelod o'r cyhoedd i fynychu un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol er mwyn codi ymwybyddiaeth o Syndrom Asperger.
PENDERFYNWYD:
(a) Diweddaru'r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn unol â hynny;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen;
(c) Gwahodd aelod o'r cyhoedd i fynychu un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol er mwyn codi ymwybyddiaeth o Syndrom Asperger.