Mater - penderfyniadau
Forward Work Programme (Organisational Change)
27/07/2018 - Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol bresennol er mwyn iddi gael ei hystyried gan y Pwyllgor. Dywedodd y byddai’n rhannu manylion y rhaglen ar gyfer y flwyddyn i ddod ar ôl i ddyddiadau cyfarfodydd y pwyllgor gael eu cymeradwyo yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor ar 1 Mai.
Tynnodd yr Hwylusydd sylw at yr eitemau i’w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 14 Mai 2018, a’r eitemau a oedd wedi’u dynodi i gael eu hystyried yng nghyfarfodydd y dyfodol.
Dywedodd y Prif Swyddog y byddai’n cysylltu â’r Cadeirydd, yn dilyn y cyfarfod, i bennu eitemau a restrwyd o dan ‘eitemau i’w trefnu’ ar gyfer dyddiadau addas cyfarfodydd y dyfodol.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol a gyflwynwyd; ac
(b) Awdurdodi’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd neu’r Hwylusydd Trosolwg a Chraffu, mewn ymgynghoriad gyda’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd yn ôl yr angen.