Mater - penderfyniadau
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
13/04/2018 - Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Cyflwynwyd y Rhaglen Gwaith I'r Dyfodol gyfredol i’w hystyried. Wedi gwaith manwl ar Fodelau Darparu Amgen a Throsglwyddiadau Asedau Cymunedol dros y blynyddoedd diwethaf, mae tair blaenoriaeth wedi eu nodi. Rhoddodd y Prif Swyddogion (Newid Sefydliadol) drosolwg o’r blaenoriaethau hyn o fewn eu meysydd hwy:
Gwytnwch Cymunedol
Croesawodd y Cynghorydd Paul Shotton fentrau ‘rhagnodi cymdeithasol’ lle gallai cyfeirio pobl at grwpiau a gweithgareddau hyrwyddo byw’n iach a chynorthwyo i ostwng y pwysau ar y Gwasanaeth Ambiwlans.
Dywedodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol 1) mai bwriad y flaenoriaeth hon oedd gwneud y mwyaf o gyfleoedd ar gyfer gwytnwch cymunedol drwy weithio gyda phartneriaid y sector cyhoeddus. Roedd yr elfen ‘rhagnodi cymdeithasol’ yn cynnwys creu llwybrau y tu allan i leoliadau gofal cymdeithasol er mwyn annog trigolion i gael mynediad at rwydwaith o gyfleoedd a chynorthwyo i atal problemau iechyd.
Darparwyd gwybodaeth ychwanegol gan yr Uwch Reolwr – Gwasanaethau Integredig ar ddatblygiad y Pwynt Mynediad Sengl i gynorthwyo meddygon teulu drwy atgyfeirio at amrywiol weithgareddau cymunedol. Cyfeiriodd hefyd at y gwaith sydd ar y gweill ar y Cynllun Heneiddio'n Dda
Dywedodd y Cadeirydd y gallai Meddygon Teulu wneud mwy i atgyfeirio unigolion at fentrau a gweithgareddau iach fel grwpiau cerdded lleol.
Rhoddodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol 2) esiamplau o dechnoleg newydd a allai gael ei ddefnyddio i gynorthwyo pobl ddiamddiffyn yn eu cartrefi eu hunain.
Ar y pwynt olaf, dywedodd y Cynghorydd Ellis y byddai angen eglurhad manwl ar ddefnydd dyfeisiadau o'r fath. Nododd fod gan rai wardiau nifer tipyn is o drigolion h?n ac y byddai o gymorth i Aelodau lleol dderbyn cyswllt swyddog penodedig y gallent atgyfeirio materion atynt.
Strategaeth Ddigidol a Gwasanaethau Cwsmeriaid
Mewn ymateb i bryderon gan rai Aelodau, eglurodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol 1) mai nod y Strategaeth Ddigidol oedd annog a gwella cyswllt digidol ar gyfer y rheiny oedd yn dyheu amdano. Roedd y trosolwg cwsmer digidol oedd yn atodedig i’r adroddiad yn arddangos cread cyfrif cwsmer. Byddai’r dull gweithredu hwn yn helpu i wella cyfleoedd i unigolion eraill yr oedd yn well ganddynt ffyrdd mwy traddodiadol o gyswllt, er enghraifft ar y ffôn neu wyneb yn wyneb. Rhoddwyd sicrwydd y byddai'r opsiynau yn dal i fod ar gael i fodloni anghenion yr holl gwsmeriaid.
Siaradodd y Cynghorydd Gay am rôl yr ‘asiantwyr cymuned’ yr oedd hi’n deimlo y gellid eu harchwilio ar gyfer Sir y Fflint . Mewn ymateb i bryderon am ddiffyg cyswllt di wifr mewn adeiladau cyhoeddus, cytunodd y Prif Swyddog i ymchwilio i ddarpariaeth yn Douglas Place yn Saltney. Dywedodd y dylai datblygiadau adeiladu cyhoeddus yn y dyfodol ystyried darpariaeth cyswllt di wifr ar gyfer y cyhoedd. Tra nad oedd gan y Cyngor reolaeth dros y rhaglen cyflwyno Band Eang, byddai cwsmeriaid yn dal i allu cael mynediad at y Cyngor drwy gysylltu ar y ffôn neu wyneb yn wyneb.
Gofynnodd y Cynghorydd McGuill a fyddai ehangu gwasanaethau digidol yn golygu oriau gweithio hirach i swyddogion. Dywedodd y Prif Swyddog y byddai angen nodi disgwyliadau trigolion er mwyn sefydlu sut gellid diwallu’r rhain yn rhesymol.
Rhaglen Rhesymoli Asedau Eiddo’r Cyngor
Awgrymodd y Cynghorydd Lloyd y dylid gohirio cynlluniau ar gyfer Neuadd y Sir hyd nes y byddai penderfyniad wedi ei wneud gan Lywodraeth Cymru ar ail drefnu llywodraeth leol. Dywedodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol 2) bod angen gweithredu gan bod yr atebolrwydd cynnal a chadw sylweddol ar yr adeilad yn golygu nad yw’r sefyllfa bresennol yn gynaliadwy. Wedi cau cam 3 a 4 yr adeilad, roedd angen cynllunio yn ofalus i gyflawni’r model cywir o ran amgylchedd cyfoes a hyblyg.
Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Ellis, dywedodd y Prif Swyddog mai yn y camau cynnar oedd y gwaith cynllunio a byddai'n golygu cryn dipyn o waith ar newid diwylliannol. Dros yr wythnosau nesaf, byddai ymgynghori gyda'r gweithlu a'r Undebau Llafur er mwyn bwydo i'r strategaeth trosfwaol.
Gofynnodd y Cynghorydd Reece am y defnydd posib o ofod yn Theatr Clwyd a rhoddwyd gwybod y byddai hyn yn cael ei ystyried fel rhan o'r Uwchgynllun ar gyfer safle Neuadd y Sir.
Wedi ymholiad gan y Cynghorydd Bibby, eglurwyd fod ardaloedd o asbestos wedi eu cofnodi yn Neuadd y Sir, ond bod ‘profi aflonyddol’ yn y broses ddymchwel yn debygol o nodi problemau pellach.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Rhaglen Waith i’r Dyfodol fel y cyflwynwyd, yn cael ei chymeradwyo; a
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd Trosolwg a Chraffu, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.