Mater - penderfyniadau
Prudential Indicators 2018/19 to 2020/21
10/05/2018 - Prudential Indicators 2018/19 to 2020/21
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar Ddangosyddion Darbodus ar gyfer y cyfnod 2018/19 i 2020/21 i’w cymeradwyo. Roedd yr argymhellion wedi eu cymeradwyo gan y Cabinet, gan nodi newidiadau i’r ffigyrau yn Nhabl 1 fel a ganlyn:
Amcangyfrif o wariant cyfalaf Cronfa’r Cyngor
2018/19 - £23.773 miliwn
2019/20 - £13.659 miliwn
Ar ôl eu rhoi i bleidlais, cymeradwywyd yr argymhellion.
PENDERFYNWYD:
(a) Fod y Cyngor yn cymeradwyo’r Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2018/19 – 2020/21 fel y nodwyd yn Adran 1 yr adroddiad i’r Cabinet; a
(b) Bod Awdurdod Dirprwyedig yn cael ei roi i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol i weithredu symudiadau rhwng y cyfyngiadau a gytunwyd ar wahân o fewn y cyfyngiad a awdurdodwyd ar gyfer dyled allanol a’r ffin weithredol ar gyfer dyled allanol (paragraffau 1.14 – 1.15 o adroddiad y Cabinet).