Mater - penderfyniadau

Forward Work Programme (Corporate Resources)

09/10/2018 - Forward Work Programme (Corporate Resources)

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol bresennol i’w hystyried.

 

Mynegodd y Cynghorydd Patrick Heesom bryder na fyddai Cynllun y Cyngor yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor nes  y cyfarfod a gynhelir ar 15 Tachwedd, a holodd a oedd modd ei symud ymlaen i'r cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 20 Medi.   Eglurodd y Prif Weithredwr bod adroddiadau monitro ar berfformiad Cynllun y Cyngor yn cael eu darparu deirgwaith y flwyddyn.   Eglurodd Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol y gellir cyflwyno adroddiad monitro Ch1 (Ebrill i fis Mehefin) i'r Pwyllgor ym mis Medi, ond fel yn y blynyddoedd blaenorol byddai'r adroddiad canol blwyddyn ar gyfer mis Ebrill i fis Medi (a gyflwynir ym mis Tachwedd) yn dangos mwy o gynnydd.

 

Yn ystod y drafodaeth awgrymodd y Cynghorydd Richard Jones efallai y byddai angen gweithdy neu gyd-gyfarfodydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol gyda Phwyllgorau eraill i sicrhau y cynhelir trosolwg o Gynnig Twf Gogledd Cymru.   Cytunwyd y byddai adroddiad gyda’r wybodaeth ddiweddaraf am Gynnig Twf Gogledd Cymru yn cael ei gynnwys ar y rhaglen ar gyfer cyfarfod 15 Tachwedd, yn dilyn eitem Cynllun y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol fel y cyflwynwyd, yn cael ei chymeradwyo;

 

(b)       Bod adroddiad gyda’r wybodaeth ddiweddaraf am Gynnig Twf Gogledd Cymru yn cael ei gynnwys ar y rhaglen ar gyfer cyfarfod 15 Tachwedd, yn dilyn eitem Cynllun y Cyngor.

 

(c)        Bod y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, gan ymgynghori gyda Chadeirydd ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, os bydd angen.