Mater - penderfyniadau
Halkyn Mountain Sustainable Management Scheme
27/09/2017 - Halkyn Mountain Sustainable Management Scheme
Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad hwn ac eglurodd, yn dilyn mynegi diddordeb llwyddiannus yng nghyswllt Comin Mynydd Helygain, fod Llywodraeth Cymru (LlC) wedi gwahodd cais ar gyfer eu Cynllun Rheoli Cynaliadwy i fynd i’r afael â’r lleihad mewn pori drwy reolaeth briodol o lystyfiant a stoc.
Byddai’r prosiect hefyd yn ystyried gwella’r ffordd y rheolir gweithgareddau hamdden ac yn annog gweithgareddau i dynnu sylw at fanteision iechyd a lles y Comin. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau oedd 1 Medi 2017 a byddai’r cynllun arfaethedig yn rhedeg rhwng 1 Ionawr 2018 a’r 31 Mawrth 2021 ar gost o £400,000.
Croesawodd y Cynghorwydd Butler yr adroddiad ar yr Ardal Cadwraeth Arbennig a fyddai o fudd i bawb.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r prosiect cydweithredol a chefnogi’r cais am grant i Gynllun Rheoli Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.