Mater - penderfyniadau
Update on the Council's Car Parking Strategy
27/09/2017 - Update on the Council's Car Parking Strategy
Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad oedd yn rhoi diweddariad ar y bwriad i gyflwyno taliadau parcio cam-wrth-gam yn y Fflint, adolygu parthau cerdded yng nghanol tref Treffynnon a Bwcle, a chynnwys maes Parcio Well Street yn Nhreffynnon o fewn y strategaeth barcio.
Roedd yr adroddiad wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Amgylchedd lle’r oedd wedi’i gefnogi.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo gweithrediad cam-wrth-gam Strategaeth Barcio’r Fflint;
(b) Cymeradwyo’r adolygiad o orchmynion parcio ar y stryd, yr adolygiad o Gynllun Parcio Preswylwyr a Llwybr Beicio Church Street yng nghanol tref y Fflint;
(c) Gofyn i Gynghorau Tref Bwcle a Threffynnon ymgynghori’n ffurfiol i sefydlu beth oedd eu barn am gyflawni adolygiad ffurfiol o’r parthau cerdded yng nghanol y ddwy dref; a
(d) Cynnwys maes parcio Well Street yn strategaeth barcio Treffynnon.