Mater - penderfyniadau

Changes to the Waste Collection Rounds and the New Operating Arrangements at the Council's Household Recycling Centres

27/09/2017 - Changes to the Waste Collection Rounds and the New Operating Arrangements at the Council's Household Recycling Centres

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad oedd yn rhoi diweddariad ar y newidiadau a gymeradwywyd yn flaenorol i’r rowndiau casglu gwastraff ac i raglen ailddatblygu Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref (HRC) y Cyngor, gan ddisgwyl y byddai’r ddau’n gwella lefelau ailgylchu’n sylweddol yn y dyfodol.  Roedd yr adroddiad hefyd yn gofyn am gymeradwyo’r diweddariad i’r polisi Casglu Gwastraff Cartref a Gwaith y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref, oedd wedi’i ddiwygio i adlewyrchu’r newidiadau.

 

                        Roedd yr adroddiad yn manylu’n llawn ar y cynllun trwyddedu faniau preswylwyr; amseroedd agor HRC; rheoli HRC; a’r newidiadau i’r rowndiau gwastraff ac ailgylchu.  Roedd cynllun cyfathrebu wedi’i gynhyrchu ar gyfer y prosiect a byddai ymgyrch gyfathrebu ledled y sir i roi gwybod i’r preswylwyr am y newidiadau i’r gwasanaeth yn cael ei lansio cyn cychwyn ar y rowndiau newydd, yn tynnu sylw at y deunyddiau ychwanegol a fyddai’n cael eu casglu a’r dyddiad y byddai’r gwasanaeth casglu newydd yn dechrau.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r newidiadau i bolisi Casglu Gwastraff Cartref a Gwaith Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref y Cyngor; a

 

(b)       Cymeradwyo’r newidiadau i’r rowndiau gwastraff ac ailgylchu, a fyddai’n dod i rym ym mis Medi 2017.