Mater - penderfyniadau
CSSIW Performance Review of Flintshire County Council Social Services
04/04/2018 - CSSIW Performance Review of Flintshire County Council Social Services
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad a chynghorodd fod y llythyr blynyddol gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) yn ymwneud â'r cyfnod rhwng Ebrill 2016 a Mawrth 2017. Mae'r llythyr yn nodi meysydd cynnydd a'r datblygiad gan Wasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint ar gyfer y flwyddyn 2016/17 ac yn darparu adborth ar themâu ymgysylltu blynyddol, sylwadau ar gynnydd o archwiliadau AGGCC, ac yn disgrifio cynlluniau AGGCC ar gyfer archwiliadau, ymgysylltu ac adolygu yn y dyfodol.
Dywedodd y Prif Swyddog fod y llythyr yn bositif a bod y Cyngor wedi gwneud cynnydd parhaol wrth ddiwallu gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014. Dywedodd fod sylwadau positif hefyd yngl?n â datblygiad y Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth yn Gwasanaethau Oedolion a’r Canolbwynt Cymorth Cynnar yn Gwasanaethau Plant. Roedd y llythyr hefyd yn nodi datblygiadau gwasanaeth positif eraill. Themâu ffocws AGGCC ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf oedd gofalwyr a diogelu oedolion a byddai gosod trothwyon diogelu a chanllawiau newydd yn eu lle yn parhau fel blaenoriaeth i'r flwyddyn nesaf.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad.