Mater - penderfyniadau
Executive Bodies
27/09/2017 - Executive Bodies
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad oedd yn rhestru’r cyrff Mewnol a Gweithredol oedd wedi eu cynnwys yng Nghyfansoddiad y Cyngor. Roedd y rhestr wedi tyfu yn y blynyddoedd diwethaf a heb gael ei hadolygu ers 2012. Yn dilyn yr etholiadau lleol, roedd bellach yn amser priodol i wneud hynny.
Mewn ateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Attridge, dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod un lle i Gynghorydd Sir y Fflint ar y Panel Gofal Maeth, gyda gweddill yr aelodaeth yn cynnwys Cynghorwyr oedd yn cynrychioli awdurdodau lleol eraill.
Roedd y Cynghorydd Bithell a’r Cynghorydd Paul Cunningham wedi mynegi diddordeb mewn bod ar y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (SACRE).
O ran Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA), roedd y Cynghorydd Butler wedi gwirfoddoli i gynrychioli’r Cyngor, gyda’r Cynghorydd Attridge yn cynnig bod yn ddirprwy aelod.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo penodiad a chyfansoddiad y cyrff Mewnol / Gweithredol a restrir yn yr atodiad, ac a enwir uchod; a
(b) Lle tybiwyd bod unrhyw un o’r cyrff wedi dirwyn i ben, ond lle’r oedd y Cyfansoddiad yn cyfeirio atynt, awdurdodi’r Prif Swyddog (Llywodraethu) i’w dileu.