Mater - penderfyniadau

REview of the Council's Household Recycling Centre Provision

16/03/2017 - Review of the Council's Household Recycling Centre Provision

Cyflwynodd y Cynghorydd Kevin Jones adroddiad Adolygiad o Ddarpariaeth Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Cyngor (HRC) a oedd yn cynnwys canlyniad yr adolygiad HRC ar y cynnydd a wnaed hyd yn hyn i gyflawni elfennau terfynol mwy lleol y datrysiad HRC a oedd wedi cael ei gymeradwyo yn flaenorol gan y Cabinet.  Roedd yn cynnwys manylion y safle HRC newydd arfaethedig a leolir yn Rockcliffe yng ngogledd y Sir.

 

                        Yn dilyn adroddiad gan Lywodraeth Cymru (LlC), cymeradwyodd y Cabinet gynigion i wella'r cyfleusterau HRC cyfredol ym Mwcle a'r Wyddgrug o fewn ôl troed y safleoedd presennol ac ar hyd llinellau i'r cyfleuster presennol yn Sandycroft.  Roedd y gwaith adeiladu wedi dechrau ac roedd disgwyl iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2017.

 

                        Esboniodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) bod chwiliad helaeth wedi cael ei gynnal i nodi safle posibl yn Rockcliffe i ddisodli cyfleusterau’r Fflint a Chei Connah.  Mae'r safle arfaethedig yn uniongyrchol rhwng y ddau gyfleuster presennol ac mae trafodaethau wedi cychwyn am brydles posibl.  Roedd manylion y brydles wedi’u cynnwys yn eitem rhif 25 ar y rhaglen a oedd yn adroddiad Rhan 2 er mwyn cynnal cyfrinachedd masnachol.

 

                        Roedd y Cynghorydd Kevin Jones yn falch o adrodd bod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar yr achos lobïo am gais cyfalaf am arian ar gyfer y gwaith oedd ei angen, ac roedd mwyafrif y cyllid wedi cael ei gymeradwyo.

 

                        Diolchodd y Cynghorydd Attridge i’r Cynghorydd Kevin Jones a'r Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) am y gwaith a wnaed ar yr adolygiad HRC, yn enwedig llwyddiant wrth gael  y mwyafrif o’r cyllid ar gyfer y gwaith.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y cynlluniau i ddatblygu safle HRC newydd yn Rockcliffe i ddisodli'r cyfleusterau presennol yn y Fflint a Chei Connah yn cael eu cymeradwyo.