Mater - penderfyniadau

Wales Audit Office Report on Financial Resilience: Savings Planning

16/03/2017 - Wales Audit Office Report on Financial Resilience: Savings Planning

Croesawodd y Cynghorydd Shotton Mr Paul Goodland o Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) i'r cyfarfod a gwahoddwyd ef i gyflwyno adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru.

 

                        Fe eglurodd Mr Goodlad bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi cynhyrchu adroddiad ar gyfer Sir y Fflint yn ddiweddar “Gwytnwch Ariannol: Cynllunio Arbedion”.  Dywedodd ei fod wedi bod yn bleser cyflwyno adroddiad mor eithriadol o gadarnhaol, a’r  casgliad oedd "Mae fframwaith cynllunio ariannol y Cyngor yn gadarn ac mae'n parhau i gryfhau ei gynllunio ariannol i gefnogi gwytnwch ariannol gwell yn y dyfodol”.  Cafodd un cynnig ar gyfer gwella ei nodi sef “cryfhau trefniadau cynllunio ariannol drwy sicrhau bod yr holl gynigion arbedion yn datblygu'n ddigonol cyn dechrau'r flwyddyn ariannol y maent yn cael eu gweithredu”.

 

                        Fe soniodd am lwyddiant yr Awdurdod wrth gynnal lefelau o arbedion effeithlonrwydd a nodwyd ar ddechrau'r flwyddyn.

 

                        Diolchodd y Prif Weithredwr i Mr Goodlad a dywedodd ei fod yn adroddiad cadarnhaol a defnyddiol.  Cafodd y cynnig ar gyfer gwella ei gydnabod ac fe soniodd am y broses gynllunio lwyddiannus ar gyfer y gyllideb flynyddol bresennol a oedd wedi’i seilio ar yr hyn a ddysgwyd yn y gorffennol. 

 

Yn dilyn sylwadau ym Mhwyllgorau Trosolwg a Chraffu, bu’r Awdurdod yn llwyddiannus wrth adrodd y gyllideb yn amserol drwy ei gyflwyno mewn tri cham. Ar y mater o arbedion effeithlonrwydd, esboniodd bod nod y Cyngor yn y dyfodol yn debygol o fod 95%.  Dywedodd nad yw pob awdurdod lleol yn adrodd gyda chymaint o dryloywder â Sir y Fflint lle mae gwybodaeth ddiweddaraf am y gyllideb yn cael ei adrodd bob mis.  Cadarnhaodd Mr Goodlad nad oedd llawer o awdurdodau lleol eraill yn dilyn proses debyg, ac fe allent fabwysiadau model arfer da tebyg. 

 

Diolchodd y Cynghorydd Shotton i Mr Goodlad am fod yn bresennol a chroesawodd yr adroddiad cadarnhaol gan Swyddfa Archwilio Cymru.

                       

PENDERFYNWYD:

 

Bod canfyddiadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar drefniadau'r Cyngor ar gyfer cynllunio arbedion ariannol sy'n cefnogi gwytnwch ariannol y Cyngor yn cael eu derbyn a'u cymeradwyo.