Mater - penderfyniadau
Housing Revenue Account (HRA) Revenue Budget 2017/18 and Capital Programme 2017/18
16/03/2017 - Housing Revenue Account Revenue Budget 2017/18 and Capital Programme 2017/18
Cyflwynodd y Cynghorydd Brown adroddiad Cyllideb Cyfrif Refeniw Tai (HRA) Drafft 2017/18 a Rhaglen Gyfalaf 2017/18.
Roedd y cyd-destun strategol ar gyfer gosod cyllideb yr HRA yn cynnwys y canlynol:
· Yr angen i sicrhau bod y strategaeth rheoli'r trysorlys yn parhau i fodloni gofynion benthyca newydd a pharhaus y Cyngor;
· Cyflwyno cynllun darbodus ar gyfer uchafu incwm;
· Pennu cyllideb fantoledig gyda 3% refeniw dros ben dros wariant;
· Ymdrech barhaus i sicrhau bod yr holl gostau gwasanaeth yn effeithlon ac y gellir cyflawni gwerth am arian;
· Gwneud y mwyaf o effeithlonrwydd refeniw er mwyn lleihau'r benthyca sy'n ofynnol i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn 2020; a
· Adeiladu tai cyngor newydd.
PENDERFYNWYD:
(a) Dylid cymeradwyo’r gyllideb HRA ar gyfer 2017/18 fel yr amlinellir yn y Cynllun Busnes a’i argymell i’r Cyngor Sir;
(b) Cymeradwyo cynnydd mewn rhent o 2.5% (tynnu neu ychwanegu hyd at £2) fel yr amlinellwyd yn y Cynllun Busnes gyda rhenti targed yn cael eu gosod ar gyfer tenantiaethau newydd;
(c) Cymeradwyo cynnydd o £1 yr wythnos mewn rhenti garejys a chynnydd o £0.20c yr wythnos mewn rhenti plotiau garejys a’i argymell i’r Cyngor; a
(d) Cymeradwyo'r Rhaglen Gyfalaf HRA 2017/2018 arfaethedig.