Mater - penderfyniadau
Council Fund Revenue Budget 2017/18
16/03/2017 - Council Fund Revenue Budget 2017/18
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad Cyllideb Refeniw Cronfa'r Cyngor 2017/18.
Rhoddodd fanylion am gefndir i Gamau Un a Dau a oedd wedi cael eu cymeradwyo gan y Cyngor Sir yn dilyn ystyriaeth yng nghyfarfodydd Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, roedd pob Aelod wedi cael eu gwahodd i’r cyfarfod, a chyfarfodydd y Cabinet.
Roedd yr opsiynau i gydbwyso'r gyllideb wedi cael eu hystyried ym Mhwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar 20 Ionawr ac fe gadarnhawyd mai’r bwlch yn y gyllideb sy'n weddill ydi £1.997m. Roedd y Pwyllgor wedi argymell bod y lefel arfaethedig o fuddsoddiad ysgolion yn cael ei gynnal yn y cynigion cyllideb derfynol.
Yn dilyn ymgyrch hir ar gyfer buddsoddiad cynyddol mewn Gofal Cymdeithasol, mae Llywodraeth Cymru (LlC) wedi cadarnhau y bydd y terfyn cap codi tâl ar ofal cartref yn cael ei godi o £60 yr wythnos i £70 yr wythnos o 1 Ebrill 2017. Ar gyfer Sir y Fflint, bydd hyn yn cynhyrchu incwm ychwanegol o £0.238m yn 2017/18. Yn ogystal, cafodd grant penodol ychwanegol o £10miliwn ei gyhoeddi er mwyn cefnogi’r costau cynyddol o ofal cartref ar draws Cymru fel rhan o Setliad Terfynol Llywodraeth Leol. Mae Sir y Fflint yn disgwyl cael tua £0.430m o’r grant. Cadarnhawyd y bydd y cyllid yn cael ei drosglwyddo mewn i’r Setliad o 2018/19. Roedd hynny’n gostwng y bwlch yn y gyllideb i £1.329m.
Mae Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi gosod cynnydd o 4% yn ei ardoll, felly wrth gymryd i ystyriaeth newidiadau yn y boblogaeth ranbarthol, byddai cynnydd blynyddol Sir y Fflint yn 4.52%. Mae hynny'n arwain at bwysau costau o £0.317m lle nad oedd unrhyw ddarpariaeth yn yr amcangyfrif cyllideb cyfredol. Roedd hyn yn cynyddu’r bwlch yn y gyllideb i £1.646m.
Fe eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol gan dybio bod y lefel bresennol o fuddsoddiad ysgolion yn cael ei gynnal, yna roedd cau'r bwlch yn y gyllideb yn golygu dod o hyd i’r cydbwysedd rhwng gosod lefel Treth y Cyngor a defnyddio cronfeydd wrth gefn a balansau. Roedd yn bwysig nodi bod arian sy'n deillio o Dreth y Cyngor yn gyllid rheolaidd a fyddai o gymorth wrth osod y gyllideb yn y dyfodol.
Fe soniodd y Cynghorydd Shotton am y ffordd gadarnhaol yr oedd proses y gyllideb wedi cael ei chynnal, a’r modd yr oed wedi cael ei adrodd yn ôl i gyfarfodydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn ystod pob cam. Cynigiodd nad oedd y Dreth Gyngor yn codi y tu hwnt i 3% a bod cronfeydd wrth gefn a balansau yn cael eu defnyddio er mwyn cau'r bwlch sy'n weddill, a chafodd hyn ei gefnogi.
Diolchodd y Cynghorydd Attridge i’r swyddogion ac Aelodau Cabinet am y gwaith a oedd wedi cael ei wneud ar y broses gyllidebol. Fe ailadroddodd sylwadau blaenorol nad oedd yr Awdurdod wedi penderfynu cau pethau megis cartrefi gofal a chanolfannau hamdden, ond yn hytrach, wedi edrych ar ddulliau amgen o ddarparu rhai gwasanaethau, sydd yn ei dro wedi cael eu diogelu.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod cam un a cham dau o'r cynigion cyllideb ar gyfer 2017/18 yn cael ei ailddatgan;
(b) Argymell i’r Cyngor bod dull o gau'r bwlch yn y gyllideb sy'n weddill fel "cynnal y cynnydd yn Nhreth y Cyngor a gynlluniwyd yn 3% yn unol â'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, gyda'r bwlch sy'n weddill ar y ffigur a adroddwyd i'w gyrraedd yn gyfan gwbl gan gronfeydd wrth gefn a balansau; a
(c) Bod cyngor ffurfiol y Swyddog Adran 151 a'r Prif Weithredwr, wrth wneud yr argymhelliad uchod, yn cael ei dderbyn a'i ystyried.