Mater - penderfyniadau
Revenue Budget Monitoring 2016/17 (Outturn)
27/09/2017 - Revenue Budget Monitoring 2016/17 (Outturn)
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad hwn yn nodi’r sefyllfa ar fonitro’r gyllideb refeniw (derfynol) am 2016/17 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.
Y sefyllfa derfynol ar ddiwedd y flwyddyn oedd:
Cronfa’r Cyngor
· Roedd y ffigur terfynol net canol blwyddyn yn cynnwys diffyg gweithredol o £0.846m;
· Roedd y ffigur terfynol cyffredinol yn cynnwys effaith bositif o £2.886m oherwydd y newid yn y polisi cyfrifyddu ar Isafswm Refeniw fel y cytunwyd gan y Cyngor Sir. Effaith hyn oedd dileu’r diffyg gweithredol, gyda’r gwariant net £2.039m yn llai na’r gyllideb; a
· Y balans wrth gefn ar 31 Mawrth 2017 oedd £5.133.
Y Cyfrif Refeniw Tai
· Roedd y gwariant net canol blwyddyn £0.018m yn is na’r gyllideb; a
· Roedd y balans cau ar 31 Mawrth 2017 yn £1.116m, gydag arian wedi’i glustnodi wrth gefn o £0.526m.
Eglurodd y Prif Weithredwr fod yr adroddiad wedi cael ei adolygu yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol, heb i unrhyw fater newydd gael ei godi. Ychwanegodd fod £9.557m o arbedion effeithlonrwydd wedi eu gwneud (91%), oedd yn welliant ar y flwyddyn cynt.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn yng Nghronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth; a
(b) Nodi lefel derfynol y balansau yn y Cyfrif Refeniw Tai.