Mater - penderfyniadau
Customer Services Strategy
21/06/2017 - Customer Services Strategy
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin adroddiad y Strategaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid oedd yn disodli Strategaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid 2010-2013.
Roedd y strategaeth wedi'i strwythuro o amgylch y tair ffrwd waith ganlynol:
1. Wyneb yn wyneb
2. Dros y ffôn
3. Digidol
Roedd pob ffrwd waith yn rhestru canlyniadau lefel uchel i’w cyflawni erbyn diwedd y strategaeth, fydd yn cael eu hategu gan gynllun gweithredu blynyddol yn darparu mwy o fanylion ac amserlenni penodol. Roedd y strategaeth yn cyd-fynd yn agos â’r Strategaeth Ddigidol ac yn rhannu ffrwd waith Cwsmeriaid Digidol.
Roedd darpariaeth gwasanaeth y Cyngor yn y dyfodol yn canolbwyntio ar symleiddio'r modd y mae cwsmeriaid yn derbyn gwasanaethau, deall eu taith gyda'r Cyngor, rhoi rheolaeth i gwsmeriaid o ran y gwasanaethau y maent yn eu defnyddio, a gwrando ac ymateb i adborth. Bydd gwasanaethau y gellir eu darparu'n ddigidol yn cael eu datblygu, er mwyn gallu canolbwyntio'r adnoddau drud ar y gwasanaethau hynny na ellir eu darparu'n ddigidol i gefnogi'r cwsmeriaid mwyaf diamddiffyn.
Eglurodd y Prif Weithredwr y cafodd yr adroddiad ei ystyried yn ddiweddar yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, ac y gwnaed ymrwymiad i wella amseroedd ymateb i ymholiadau cwsmeriaid.
PENDERFYNWYD:
Mabwysiadu’r Strategaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid.