Agenda item

Cyllideb Cronfa’r Cyngor 2025/26 – Y Cam Clo Terfynol

Pwrpas:        Rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y cynigion cyllideb terfynol ar gyfer 2025/26.

Penderfyniad:

(a)       Nodi a chymeradwyo'r gofyniad cyllideb ychwanegol diwygiedig ar gyfer 2025/26;

 

(b)       Cymeradwyo'r cynigion terfynol ar gyfer y gostyngiadau mewn costau a fydd yn cyfrannu at y gyllideb;

 

(c)       Argymell cyllideb gyfreithiol a chytbwys yn seiliedig ar y cyfrifiadau a nodir yn yr adroddiad i'r Cyngor;

 

(d)       Nodi'r risgiau agored sydd ar ôl i'w rheoli ym mlwyddyn ariannol 2025/26;

 

(e)       Argymell cynnydd blynyddol cyffredinol yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 2025/26 o 8.93% ar gyfer Gwasanaethau'r Cyngor a 0.57% ar gyfer cyfraniadau i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Gwasanaeth Crwneriaid Rhanbarthol, sy'n gyfystyr â chodiad cyffredinol o 9.5%, i'r Cyngor;

 

(f)        Bod y Cabinet yn gwahodd y Cyngor i basio'r penderfyniad Treth y Cyngor ffurfiol nawr bod hysbysiad wedi dod i law ynghylch praeseptau'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd a holl Gynghorau Tref a Chymuned Sir y Fflint; a

 

(g)       Bod y rhagolwg tymor canolig yn cael ei nodi fel sail ar gyfer yr adolygiad nesaf o'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS).

Dogfennau ategol: