Agenda item

Diweddariad Llywodraethu ac Ymgynghoriadau

Rhoi diweddariad i aelodau’r Pwyllgor ar faterion yn ymwneud â llywodraethu gan gynnwys materion i’w cymeradwyo ar Gynllun Busnes y Gronfa 2024/25 (gan ychwanegu eitem yn ymwneud â Phartneriaeth Pensiwn Cymru), y Polisi Parhad Busnes diwygiedig a dirprwyaeth ar gyfer penodiad ymgynghorwyr buddsoddi.

Cofnodion:

Gadawodd Mr Steve Turner a Mr Paul Middleman o Mercer y Siambr dros gyfnod yr eitem hon. Dywedodd Ms Murray nad yw Aon, fel Ymgynghorwyr Annibynnol y Gronfa, yn gwneud cais am y contract Ymgynghoriaeth Buddsoddi ac nad oes unrhyw wrthdaro o ran buddiannau mewn perthynas â thrafodaethau’r tendr.

            Aeth Ms Murray â’r Pwyllgor drwy’r adroddiad hwn, gan amlygu’r canlynol:

-       Fformat y gofrestr risg newydd yn dilyn cymeradwyo'r Polisi Risg a ddiweddarwyd ym mis Mawrth.

-       Adrodd ar gydymffurfiaeth yn erbyn Cod Ymarfer Cyffredinol newydd y Rheoleiddiwr Pensiynau

-       Y rhesymeg dros yr argymhelliad i ddiweddaru’r Cynllun Busnes gydag eitem ychwanegol yngl?n â llywodraethu Partneriaeth Pensiynau Cymru (PPC)

-       Adolygu'r Polisi Parhad Busnes, gan argymell bod y Pwyllgor yn cymeradwyo'r polisi wedi'i ddiweddaru ar y sail y byddai'r mân newidiadau y gofynnwyd amdanynt gan Mr Hibbert yn cael eu gwneud.

-       Tendr yr Ymgynghorydd Buddsoddi. Cytunwyd ym mis Mawrth i ddod â'r adolygiad o'r penodiad hwn ymlaen er mwyn caniatáu i Mrs Fielder gwblhau'r gwaith caffael cyn ei hymddeoliad. Fodd bynnag, oherwydd oedi annisgwyl yn y broses, roedd y gwaith caffael ar ei hôl hi, a chyfweliadau'n cael eu cynnal yr wythnos nesaf. Golygai hyn nad oedd unrhyw argymhelliad i benodi cynigydd. Felly cynigiwyd dirprwyo'r broses derfynol o gaffael a phenodi'r cynigydd a ffefrir i Mrs Fielder a Mr Ferguson.

 

            Gofynnodd Mr Hibbert am eglurhad o ran a yw'r contract presennol yn cael ei derfynu'n gynnar. Cadarnhaodd Mrs Fielder y gellid gwneud hynny, yn amodol ar ganiatáu cyfnod trosglwyddo o 3 mis.

 

PENDERFYNWYD:

a)    Bod y Pwyllgor wedi ystyried y diweddariad a gwneud sylwadau.

b)    Cymeradwyodd y Pwyllgor ychwanegu eitem lywodraethu, yn ymwneud â Phartneriaeth Pensiynau Cymru, at Gynllun Busnes 2024/25 y Gronfa.

c)    Cymeradwyodd y Pwyllgor y Polisi Parhad Busnes wedi’i ddiweddaru, yn amodol ar y newidiadau a awgrymwyd gan Mr Hibbert.

d)    Dirprwyodd y Pwyllgor y gwaith o ddewis, penodi a diswyddo (yn ôl yr angen) ymgynghorwyr buddsoddi’r Gronfa i Ddirprwy Bennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol ar ôl cwblhau’r cyfweliadau a’r gwaith sgorio cysylltiedig.

 

Dogfennau ategol: