Agenda item

Dewisiadau i’r dyfodol: gwasanaethau hamdden, llyfrgelloedd ac amgueddfeydd

Cyflwyno adroddiad ar y dewisiadau hirdymor ar gyfer darparu gwasanaethau a cheisio barn yr Aelodau ar y dewisiadau sydd ar gael.

Cofnodion:

DEDDF LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) 1985 – YSTYRIED GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD

Dywedodd y Cadeirydd fod y Cyngor o blaid datgelu gymaint o wybodaeth ag sy’n bosibl am y penderfyniad mae’n ei wneud.  Am resymau a amlinellir ar dudalen 2 yr adroddiad, gofynnodd y Cadeirydd am gynigydd ac eilydd o blith Aelodau’r Pwyllgor i wahardd y wasg a’r cyhoedd a symud i Ran 2.

PENDERFYNWYD:

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod gan yr ystyrir bod yr eitem ganlynol wedi’i heithrio yn rhinwedd paragraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

 

 

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad a oedd yn amlinellu’r Dewisiadau ar gyfer y Dyfodol ar gyfer Gwasanaethau Hamdden, Llyfrgelloedd ac Amgueddfeydd er mwyn i’r Pwyllgor eu hystyried.  Eglurwyd y byddai’r argymhellion o’r cyfarfod hwn yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet yn ddiweddarach yn yr wythnos.

 

Rhoddodd y Swyddog Gweithredol Strategol a’r Rheolwr Cyllid Strategol gyflwyniad a oedd yn cynnwys trosolwg o’r trefniadau gweithredu presennol ac arfarniad dewisiadau ar gyfer darpariaeth yn y dyfodol i’r Pwyllgor eu hystyried a rhannu barn am ddewisiadau a ffefrir â’r Cabinet.  Rhoddodd y Rheolwr Corfforaethol (Pobl a Datblygu Sefydliadol) wybodaeth am Drosglwyddo Ymgymeriadau Diogelu Cyflogaeth (TUPE) ac eglurodd y goblygiadau o ran Pensiynau.

 

Gofynnodd Aelodau nifer o gwestiynau a chafwyd atebion gan y Swyddogion a oedd yn bresennol.  Roedd y cwestiynau’n cwmpasu’r meysydd canlynol:-

 

Yr argymhellion a wnaed gan FMG Consulting Ltd;

Aelodau’n cael gweld gwybodaeth ariannol ychwanegol, yn enwedig o ran goblygiadau ariannol;

Parhad gwasanaeth ac amhariad posibl i ddefnyddwyr gwasanaeth;

Aelodau’n cael gweld cyngor cyfreithiol;

Deddfwriaeth Cymhorthdal;

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn dilyn y drafodaeth a’r sylwadau a wnaed gan Aelodau, awgrymodd fod angen rhagor o wybodaeth ac y dylid diwygio’r argymhellion i adlewyrchu hyn.  

 

Gofynnwyd am bleidlais wedi’i chofnodi am yr argymhellion arfaethedig canlynol:-

 

Bod y wybodaeth gefndir a’r sefyllfa bresennol o ran gwasanaethau hamdden, llyfrgelloedd, chwarae ac amgueddfeydd wedi bod yn anodd i’w chael ac nad oedd yn ddigon manwl;

 

Bod y Pwyllgor yn gofyn i’r Cabinet geisio parhau â chontract gydag Aura; a

 

Bod adroddiadau pellach yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu wrth i’r gwaith ddatblygu ac fel bo’r gofyn.

 

O blaid yr argymhellion:-

Y Cynghorwyr: Helen Brown, Gladys Healey, Dave Mackie, Debbie Owen, Andrew Parkhurst, Carolyn Preece, Jason Shallcross ac Arnold Woolley

 

Yn erbyn yr argymhellion:

Ni phleidleisiodd unrhyw Aelodau yn erbyn yr argymhellion.

 

Ymatal:

Y Cynghorwyr: Teresa Carberry, Mel Buckley, Gina Maddison a Ryan McKeown

 

PENDERFYNWYD:

 

a)        Bod y wybodaeth gefndir a’r sefyllfa bresennol o ran gwasanaethau hamdden, llyfrgelloedd, chwarae ac amgueddfeydd wedi bod yn anodd i’w chael ac nad oedd yn ddigon manwl;

 

b)        Bod y Pwyllgor yn gofyn i’r Cabinet geisio parhau â chontract gydag Aura; a

 

c)         Bod adroddiadau pellach yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu wrth i’r gwaith ddatblygu ac fel bo’r gofyn.