Agenda item

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Pwrpas:        Derbyn Cwestiynau Cyhoeddus ar gyfer yr eitem hon: derbyniwyd un erbyn y dyddiad cau.

Cofnodion:

Roedd un cwestiwn cyhoeddus wedi ei dderbyn gan Matt Brown nad oedd yn bresennol yn y cyfarfod.  Cafodd y cwestiwn a’r ymateb ei ddosbarthu fel a ganlyn:

 

Cwestiwn

“A all y Weinyddiaeth egluro pam y penderfynwyd cau’r holl ysgolion ddydd Iau, 8 Chwefror pan adawodd pob Awdurdod Lleol cyfagos arall, gyda’r un rhybudd tywydd Oren gan gynnwys Wrecsam, Conwy, Sir Ddinbych, Gorllewin Sir Caer a Sir Amwythig, y penderfyniad i gau ysgol gyda’r Pennaeth a Chorff Llywodraethu’r ysgol honno?”

 

Ymateb

“Dydd Mawrth 6 Chwefror, cyhoeddwyd rhybudd tywydd Melyn am eira a rhew yn Sir y Fflint, a ddechreuodd am 06:00 ddydd Iau 8 Chwefror ac a barhaodd tan 06:00 ddydd Gwener 9 Chwefror. Ar y pwynt hwnnw cynghorwyd ysgolion y byddai disgwyl iddynt wneud eu penderfyniad eu hunain yn ymwneud â chau unrhyw ysgol wedi ei seilio ar amodau lleol, yn unol â’r canllawiau tywydd garw.

 

Fodd bynnag, pan uwchraddiwyd y rhybudd tywydd i Oren ddydd Mercher 7 Chwefror, gan amlinellu mwy o amodau eira difrifol yn Sir y Fflint o 08.00 i 15.00 ddydd Iau, fe sbardunodd hyn gyfarfod Tîm Ymateb a Rheoli Argyfwng y Cyngor.  Diben y cyfarfod oedd: i ystyried y risg i ddarparu gwasanaethau’r Cyngor am y 24 awr canlynol yng ngoleuni’r rhybuddion tywydd melyn ac oren yn ymwneud ag eira a rhew.

     i gytuno ar unrhyw newidiadau oedd eu hangen i gynnal parhad gwasanaeth hanfodol ac

     i sicrhau fod yna drefniadau effeithiol mewn grym i ddiogelu’r cyhoedd, yn arbennig y rhai hynny sy’n ddiamddiffyn.

 

Mae rhybudd Oren yn golygu y cynghorir mai dim ond os yw hynny’n hanfodol y dylid teithio a dim ond os yw’n ddiogel i wneud hynny. Fe seiliodd Tîm Ymateb a Rheoli Argyfwng y Cyngor y penderfyniad i gau ysgolion ar yr effeithiau a ragwelwyd o dan y rhybudd tywydd Oren a oedd yn cynnwys;

 

     siawns dda y gallai rhai cymunedau gwledig gael eu hynysu dros dro

     oedi i deithwyr ar ffyrdd yn debygol, gan adael rhai cerbydau a theithwyr heb allu symud

     mae toriadau p?er yn bosibl a gall gwasanaethau eraill gael eu heffeithio, fel signal ffonau symudol

     mae ychydig o oedi yn debygol i rai sy’n teithio ar y rheilffyrdd, gyda rhai teithiau’n debygol o gael eu canslo

 

Roedd yna risg y byddai yna darfu sylweddol ar rwydwaith cludiant yr ysgol, a fyddai’n golygu na fyddai disgyblion yn gallu teithio’n ddiogel i ac o’r ysgol, yn arbennig gan fod disgwyl i’r rhybudd Oren ddod i rym am 8am pan fo rhwydweithiau’r ffyrdd ar eu prysuraf.

 

Roedd yna risg yn benodol i blant gydag anghenion cymhleth sy’n mynychu ysgolion Arbenigol y Sir, gyda nifer ohonynt angen hebryngwyr ac y gallai eu hiechyd a’u lles gael ei effeithio pe baent yn sownd mewn bysiau mini mewn tywydd garw.

 

Hefyd roedd yna risg gan fod Yr Wyddgrug yn ardal darged, yr oedd disgwyl iddi gael ei heffeithio’n andwyol gan eira trwm, y gallai hyn effeithio ar ddarparu’r gwasanaethau prydau ysgol i’r ysgolion hynny ar hyd a lled y sir y mae eu prydau’n cael eu cynhyrchu a’u darparu o Gegin Gynhyrchu Ganolog NEWydd sy’n gweithredu o Neuadd y Sir.

 

Her arall i ysgolion mewn tywydd garw yw fod nifer o staff yn teithio cryn bellter i’w gwaith, o fewn a thu hwnt i ffiniau’r sir. Fe allai’r gostyngiad posibl yn y nifer o staff sy’n bresennol yn eu hysgol mewn cyfnod o dywydd garw a’r amodau teithio fod wedi ei gwneud yn anniogel i ysgolion weithredu.

 

O ganlyniad i amseru’r Rhybudd Oren, fe gymrwyd ymateb rhagweithiol yn hytrach na chaniatáu i sefyllfa ddatblygu a fyddai, yn seiliedig ar y wybodaeth, fwy na thebyg wedi arwain at blant wedi eu gadael mewn arosfannau bysiau neu wedi eu gadael mewn cerbydau. Ers y pandemig, mae ysgolion wedi datblygu platfformau TG yn dda i ddarparu dysgu ar-lein. Penderfynwyd ei bod yn fwy synhwyrol i roi amser i rieni i wneud trefniadau eraill o ran gofal plant os oedd angen ac amser i athrawon i gynllunio ar gyfer dysgu ar-lein drwy wneud y penderfyniad i argymell cau’r ysgol yng ngoleuni rhagolygon manwl y tywydd yn hytrach na’i adael tan y bore Iau a wynebu sefyllfa ddi-drefn.

 

Tra rydym yn deall y gallai rhai rhieni a gofalwyr fod wedi teimlo’n rhwystredig o ganlyniad i’r penderfyniad i gau’r ysgolion, roedd eraill yn croesawu’r ymagwedd ragweithiol; a gymrwyd gan y Cyngor gan ei fod yn rhoi digon o amser iddynt i gynllunio trefniadau gofal plant addas ac roeddent yn croesawu’r ffaith fod y Cyngor yn ystyried diogelwch eu plant. Mae penaethiaid ar hyd a lled Sir y Fflint wedi bod yn unfrydol yn eu cefnogaeth i benderfyniad y Cyngor gan nad oes yna sefyllfa anoddach i Bennaeth na disgwyl eira sylweddol a phendroni p’un ai a fyddant yn gallu agor eu hysgol yn ddiogel ai peidio neu hyd yn oed yn fwy heriol na hynny, agor yn y bore ac yna gorfod cau yn ystod y dydd a sicrhau fod y plant yn mynd adref yn ddiogel.

 

Byddai pob Awdurdod Lleol wedi ymgymryd â’i asesiad risg ei hun ac nid ydym mewn sefyllfa i wneud sylw ar beth oedd y rhesymau y tu ôl i’r penderfyniadau a wnaed mewn awdurdodau eraill.

 

Er nad oedd yr eira ar y diwrnod mor sylweddol mewn rhai rhannau o’r sir ag a ragwelwyd gan y rhagolygon, fe wnaed y penderfyniad i gau ysgolion er y budd gorau i’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu gyda’r wybodaeth oedd gennym ni ar y pryd.”

Dogfennau ategol: