Agenda item

Adroddiad Diweddaru ar Ddigartrefedd a Phobl sy'n Cysgu Allan a'r Polisi Digartrefedd

Pwrpas:        Rhoi diweddariad blynyddol am y gwaith sy’n cael ei wneud i leihau digartrefedd a’r gefnogaeth sy’n cael ei darparu i bobl sy’n cysgu allan, ynghyd â’r Polisi Digartrefedd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) adroddiad i gynnig cipolwg ar ddigartrefedd a phobl sy’n cysgu allan ar gyfer 2023 a oedd yn cynnwys fersiwn ddrafft o’r Polisi Llety Digartrefedd er mwyn adolygu a chymeradwyo.

 

Darparodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Atal ddiweddariad manwl ar y Gwasanaeth Digartrefedd Statudol. Dywedodd fod dyletswyddau’r Awdurdod Lleol wedi’u hamlinellu yn Rhan 2 Deddf Tai Cymru 2014, o ran atal digartrefedd a rheoli digartrefedd pan oedd yn digwydd. Yn adran 6 yr adroddiad roedd gwybodaeth am y dyletswyddau o fewn y ddeddfwriaeth (Eich Helpu i Ddeall Deddf Tai Cymru 2014).

 

Mewn perthynas â chyllid, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Atal, er bod swm sylweddol o’r cyllid wedi cael ei ddarparu ar gyfer gweithgarwch atal drwy’r Grant Cymorth Tai, nid oedd modd ariannu gwasanaethau statudol drwy’r Grant Cymorth Tai. Felly, Cronfa'r Cyngor oedd prif ffynhonnell y cyllid ar gyfer darparu gwasanaethau digartrefedd statudol.

 

Mae’r galw am wasanaethau yn parhau i fod yn uchel a chyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Atal at Atodiad 1 i’r adroddiad a oedd yn amlinellu data a oedd yn ymwneud â’r canlynol:-

  • Unigolion sy’n Datgan eu Bod yn Ddigartref;
  • Ymateb Brys Tu Allan i Oriau;
  • Llety Digartrefedd; ac
  • Ymateb Pobl sy’n Cysgu Allan

 

Darparodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Atal ddiweddariad manwl ar heriau’r farchnad dai, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd David Evans at y tabl a amlinellwyd yn Atodiad 1 yn dangos yr amserlen perygl o ddigartrefedd.  Mewn perthynas â phobl sy’n cyflwyno eu hunain fel rhai ‘digartref ar y diwrnod’, gofynnodd a oedd y bobl hynny eisoes yn hysbys i’r Cyngor, er enghraifft, a oeddent wedi cysylltu gyda’r Cyngor o’r blaen ac yn awr wedi cyrraedd sefyllfa dai nad oedd yn gallu parhau.  Cyfeiriodd hefyd at y tabl a oedd wedi’i amlinellu yn Atodiad 1 a oedd yn dangos y galwadau digartrefedd brys y tu allan i oriau a gofynnodd a oedd dadansoddiad wedi cael ei gynnal o pam yr oedd rhai misoedd yn waeth na’i gilydd .

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Atal bod y gwasanaeth yn gweithredu’n rhagweithiol gyda data ac yn gweithio gyda’r gwasanaeth TG i wella systemau a swyddogaethau adrodd.  Roedd dadansoddiad pellach o ganran y bobl a oedd yn cyflwyno eu hunain fel rhai ‘digartref ar y diwrnod’ yn cael ei gynnal a fyddai’n cynorthwyo’r gwasanaeth yn y dyfodol. Mewn perthynas â’r data ar alwadau digartrefedd brys y tu allan i oriau, roedd canfyddiad y gallai tywydd poeth waethygu tensiynau o fewn cartrefi, ac roedd y hysbys bod adroddiadau o gam-drin domestig yn aml yn cynyddu yn ystod twrnameintiau chwaraeon, lle’r oedd cyfraddau yfed alcohol yn cynyddu hefyd.  Roedd angen dadansoddiad pellach o’r data hwn i gael gwell dealltwriaeth o’r amrywiadau mewn niferoedd yn ystod misoedd gwahanol.

 

Gwnaeth yr Aelod Cabinet sylw am y data a oedd yn ddefnyddiol ac wedi galluogi data cymharol gyda gweddill Cymru. Cytunodd bod y data deddfwriaethol gan Lywodraeth Cymru yn flaengar a dywedodd ei bod yn gadarnhaol i weld cynnydd yn y grant cymorth tai ond er mwyn cyflawni lefelau cymorth mor uchelgeisiol ac eang, dywedodd fod angen darparu adnoddau digonol i’r Cyngor, oherwydd bod pwysau yn parhau i fod ar y gyllideb gyffredinol.

 

Diolchodd y Cynghorydd Linda Thew i’r swyddogion am y gwaith yr oeddent yn ei wneud a oedd yn anodd oherwydd y diffyg cyllid gan Lywodraeth Cymru i oresgyn yr holl heriau. Fe wnaeth gais i Aelodau Lleol gael gwybod pan oedd eiddo yn cael eu prynu gan y Cyngor a phobl yn cael eu symud i wardiau er mwyn iddynt allu ymateb i unrhyw ymholiadau gan breswylwyr lleol. Gofynnodd hefyd a oedd yr £1.6m a oedd wedi cael ei gaffael fel rhan o’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro yn cael ei ddefnyddio i brynu eiddo.

 

Ymatebodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Atal drwy ddweud y byddai aelodau lleol yn cael eu hysbysu pan yr oedd llety yn cael ei gaffael i ddiwallu anghenion y gwasanaeth neu lle’r oedd gwaith datblygu neu waith dwys yn cael ei gynnal. Dywedodd bod yr £1.6m yn cael ei fuddsoddi mewn prynu sawl eiddo, yn cynnwys archwilio pryniant eiddo gan landlordiaid a oedd eisiau gwerthu eu heiddo er mwyn atal tenantiaid rhag dod yn ddigartref. Byddai rhai o’r eiddo a brynwyd yn mynd i’r Cyfrif Refeniw Tai, gydag eraill yn cael eu defnyddio fel llety dros dro.

 

Atodiad 2 - Astudiaeth Achos Diwrnod ym Mywyd y Tîm Digartrefedd

 

            Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Atal yr astudiaeth achos fel y dangosir yn Atodiad 2 i’r adroddiad.

 

Atodiad 3 – Polisi Llety Digartrefedd

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Atal y Polisi Llety Digartrefedd newydd fel y dangosir yn Atodiad 3 i’r adroddiad.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Ted Palmer yngl?n â’r cymhwysedd ar gyfer llety i bobl ddigartref, eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Atal bod y wybodaeth a gyflwynwyd yn ymwneud â chategorïau o bobl, nid y rheswm dros eu digartrefedd.

 

Cafodd yr argymhellion, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson a’u heilio gan y Cynghorydd Ted Palmer. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi a chefnogi’r gwaith sy’n cael ei wneud gan y Gwasanaeth Tai ac Atal;

 

(b)       Cymeradwyo fersiwn ddrafft y Polisi Llety Digartrefedd.

Dogfennau ategol: