Agenda item

Datganiad Cyfrifon 2022/23

Cyflwyno fersiwn derfynol wedi’i harchwilio o Ddatganiad Cyfrifon 2022/23 i gael eu cymeradwyo.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fersiwn derfynol Datganiad Cyfrifon 2022/23 gan ymgorffori newidiadau y cytunwyd arnynt gydag Archwilio Cymru yn ystod yr archwiliad.  Fel yr adroddwyd yn flaenorol, roedd y terfyn amser statudol ar gyfer cyhoeddi'r cyfrifon archwiliedig terfynol wedi'i ymestyn ymhellach fel yr eglurwyd yn yr adroddiad.   Ni nodwyd unrhyw gamddatganiadau nas cywirwyd yn yr archwiliad ac roedd y canfyddiadau wedi'u trafod yn fanwl gydag addasiadau wedi'u hymgorffori lle bo'n briodol.   Amlygodd crynodeb o faterion a gododd yn ystod yr archwiliad, a ddangosir yn Atodiad 2, y cyfrifon hanesyddol o asedau a oedd yn berthnasol i bob cyngor yng Nghymru.

 

Wrth grynhoi adroddiad Archwilio Cymru, cadarnhaodd Mike Whiteley y byddai barn archwilio ddiamod yn cael ei chyhoeddi ar y cyfrifon maes o law.  Diolchodd i'r tîm Cyllid am eu cefnogaeth wrth weithio drwy'r materion, yn enwedig y rhai'n ymwneud â'r materion cyfrifyddu cyfalaf cymhleth.  Tynnodd sylw hefyd at effaith oedi wrth ymateb gan dîm Prisio’r Cyngor i ymholiadau archwilio.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst am lefel y risg o Ddyledion Digwyddiadol yn adran 34 o'r cyfrifon.   Darparodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) gefndir ar hawliadau yn ymwneud â chyn Gyngor Sir Clwyd a oedd wedi lleihau mewn niferoedd ac nad oeddent yn peri risg sylweddol.

 

Mynegodd y Cynghorydd Parkhurst bryderon hefyd am yr oedi wrth ymateb gan y tîm Prisio yn ystod yr archwiliad, yn enwedig o ystyried lefel y cywiriadau a sicrwydd blaenorol o drosolwg ar waredu asedau.

 

Mewn ymateb, rhoddodd Mike Whiteley grynodeb o'r diwygiadau ar wallau a hepgoriadau a nodwyd o'r gwaith prisio yn Atodiad 3.   Dywedodd ef a'r Cadeirydd nad oedd hyn yn adlewyrchu swm sylweddol o ystyried cyd-destun cyffredinol y cyfrifon.

 

I roi sicrwydd, dywedodd y Prif Weithredwr, yn dilyn adolygiad o'r trefniadau, y byddai swyddog arweiniol o'r tîm Prisio bellach yn rhan o'r broses o lunio'r datganiad cyfrifon.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol, ar ôl cael ei gwblhau ers cyhoeddi'r adroddiad, y byddai ymateb y rheolwyr i'r argymhellion yn cael ei rannu â'r Pwyllgor.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Glyn Banks at y mater yn ymwneud â'r tîm Prisio yn ystod yr archwiliad ac awgrymodd y dylid gwahodd swyddogion perthnasol i roi eglurhad i'r Pwyllgor.   O ran lefelau cynyddol dyledion ac ôl-ddyledion rhent, manteisiodd ar y cyfle i gydnabod y gefnogaeth gadarnhaol a roddwyd gan y Rheolwr Refeniw a'i dîm a gwnaeth sylwadau ar yr angen am ymyrraeth gynharach i helpu i fynd i'r afael ag ôl-ddyledion rhent cynyddol.

 

Siaradodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) am newidiadau yn y dull o leihau ôl-ddyledion rhent mewn ymgynghoriad â'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Thai.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cadeirydd, rhoddodd y Rheolwr Cyllid Strategol sicrwydd yngl?n â chyfeiriad at ddarn o dir nad oedd yn eiddo i'r Cyngor.   O ran amserlen cyfrifon 2023/24, dywedodd Mike Whiteley mai’r nod oedd i Archwilio Cymru bennu’r terfyn amser ar gyfer adrodd ar lywodraeth leol ar gyfer diwedd mis Tachwedd 2024, yn amodol ar adnoddau.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a'r Rheolwr Cyllid Strategol a ddiolchodd yn eu tro i'r Prif Gyfrifydd a chydweithwyr Archwilio Cymru am eu gwaith ar y cyfrifon.

 

Cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Ted Palmer a Linda Thomas.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi adroddiad Archwilio Cymru ‘Archwiliad o’r Datganiadau Ariannol 2022/23 - Cyngor Sir y Fflint’;

 

(b)       Cymeradwyo fersiwn terfynol Datganiad Cyfrifon 2022/23, ar ôl ystyried adroddiad Archwilio Cymru; ac

 

(c)       Cymeradwyo’r Llythyr Sylwadau.

Dogfennau ategol: