Agenda item

Cyllideb Cronfa'r Cyngor 2024/25

Pwrpas:        Adolygu a rhoi sylwadau ar y pwysau cost, y gostyngiadau arfaethedig mewn costau, a'r risgiau cysylltiedig.

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad i ystyried cynigion ychwanegol ar gyfer Gwasanaethau Corfforaethol, Gwasanaeth Asedau a phortffolio Llywodraethu ar gyfer diwallu’r bwlch o £12.946 miliwn a oedd ar ôl yn y gyllideb, yr adroddwyd amdano yn y cyfarfod cynt.

 

Yn dilyn derbyn Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol, a oedd yn un siomedig, rhoddwyd y dasg i bob portffolio adolygu ei sylfaen gostau i nodi ffyrdd posibl o ostwng cyllidebau neu ddileu pwysau costau er mwyn cyfrannu mwy tuag at ddiwallu’r bwlch a oedd ar ôl.  Atgoffwyd yr Aelodau o nifer o risgiau parhaus a oedd yn cael eu monitro a allai newid y gofyniad cyllidebol ychwanegol ymhellach.  Byddai sylwadau gan bwyllgorau Trosolwg a Chraffu yngl?n â’u meysydd penodol yn cael eu coladu ar gyfer adroddiadau terfynol pennu’r gyllideb ar gyfer y Cabinet a’r Cyngor Sir ar 20 Chwefror.

 

Tabl 1 – gostyngiadau cyllidebol y Gwasanaethau Corfforaethol

 

Rhannodd y Cadeirydd ei bryderon yngl?n â chanlyniadau’r opsiwn yn y dyfodol ar gyfer rhaglen Hyfforddeion Sir y Fflint.  Darparodd y Rheolwr Corfforaethol (Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol) gyd-destun drwy ddweud y byddai’r cynnig i ostwng y garfan ar gyfer 2024/25 yn cael effaith fach iawn, oherwydd byddai’r hyfforddeion hynny wedi derbyn llai o adnoddau yn ystod y cyfnod.  Bu hyn o gymorth i’r Pwyllgor ystyried yr argymhellion.

 

Parthed yr adolygiad o ffioedd a thaliadau, dywedwyd wrth y Cadeirydd bod y swm yn berthnasol i 2024, ac yr oedd yn adlewyrchu amcangyfrif o ffigwr rhan o’r flwyddyn o fis Hydref 2024.

 

Rhoddwyd eglurhad i’r Cynghorydd Andrew Parkhurst yngl?n â’r cyfanswm amcangyfrifedig ar gyfer cyllideb gymorth Undebau Llafur.  Parthed gofynion statudol, dywedodd y Rheolwr Corfforaethol (Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol), er bod y Cyngor bob amser wedi cydnabod Undebau Llafur, fel cyflogwr, byddai’n cadarnhau’r sefyllfa statudol bendant ac yn ymateb ar wahân.

 

Tabl 2 – gostyngiadau cyllidebol y Gwasanaeth Asedau

 

Yn dilyn eglurhad yngl?n â’r gostyngiad cyllidebol ar gyfer Polisi a nodwyd yn yr adroddiad, dywedodd y Cadeirydd y gallai gostyngiadau a wnaed ar gyfer cyllid trydydd sector, o bosibl, roi pwysau ar wasanaethau’r Cyngor.  Cydnabu’r Prif Weithredwr a’r Cadeirydd gyfraniadau cadarnhaol y trydydd sector tuag at ddarparu gwasanaethau’r Cyngor.

 

Tabl 3 – gostyngiadau cyllidebol Llywodraethu

 

Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Alasdair Ibbotson, darparodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) wybodaeth am yr effaith ar gyfathrebu gyda’r cyhoedd a achosid gan opsiwn effeithlonrwydd meddalwedd GovDelivery pe na bai’r cais i ddwyn arian ymlaen ar gyfer y Strategaeth Ddigidol yn cael ei gymeradwyo gan y Cabinet.

 

Yn dilyn trafodaeth, cafodd yr argymhelliad ar gyfer y Gwasanaeth Asedau ei gynnig a’i eilio gan y Cadeirydd a’r Cynghorydd Bill Crease.  Cafodd yr argymhellion ar gyfer y Gwasanaethau Corfforaethol a Llywodraethu, fel y’u diwygiwyd, eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorydd Ibbotson a’r Cadeirydd.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn derbyn opsiynau’r Gwasanaeth Asedau i ostwng cyllidebau; ac

 

(b)       Ar ôl ystyried yr opsiynau i ostwng cyllidebau yn y Gwasanaethau Corfforaethol a Llywodraethu, bod y Pwyllgor yn mynegi amheuon ac anfodlonrwydd am y tro wrth dderbyn y gostyngiadau arfaethedig ar gyfer Hyfforddeion Sir y Fflint a Sir y Fflint yn Cysylltu (gostyngiad yn y gyllideb), ond yn mynegi parodrwydd am y tro i dderbyn cael gwared â Meddalwedd GovDelivery Granicus, hyd yn oed os na chymeradwyir y ffigwr i’w ddwyn ymlaen ar gyfer cronfa wrth gefn y Strategaeth Ddigidol o’r eitem flaenorol, a hyn hyd nes ystyrir effeithiau a risgiau pob un.