Agenda item
Cyllideb Cronfa'r Cyngor 2024/25
- Cyfarfod Cyfarfod Arbennig, Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, Dydd Gwener, 9fed Chwefror, 2024 10.00 am (Eitem 43.)
- Cefndir eitem 43.
Pwrpas: Adolygu a rhoi sylwadau ar y pwysau cost, y gostyngiadau arfaethedig mewn costau, a'r risgiau cysylltiedig.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol yr adroddiad a oedd yn darparu trosolwg o’r cynnydd hyd yn hyn ac yn adlewyrchu ar y cyllid siomedig a gafwyd gan Lywodraeth Cymru (LlC). Darparodd amlinelliad o’r effaith ar bortffolios y Cyngor a’r cynigion ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol a oedd yn cael eu cyflwyno heddiw.
Nododd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod y portffolio wedi gwneud ei ran er mwyn galluogi’r Cyngor i osod cyllideb gytbwys.
Cyfeiriodd Uwch Reolwr y Gwasanaethau Plant at y cynigion effeithlonrwydd arfaethedig ar gyfer y Gwasanaethau Plant sy’n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf ar 5 eiddo gofal preswyl y Cyngor, gwybodaeth ar adolygiad gwasanaeth y Gwasanaethau Plant ac Oedolion a’r defnydd o gyfleoedd am grantiau.
Cyfeiriodd Uwch Reolwr y Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion at y gwaith a wnaed o ran ystyried nifer o feysydd gan geisio rhwystro’r effaith ar wasanaethau rheng flaen. Darparwyd y wybodaeth ar adolygiad y Gwasanaethau Oedolion, gwasanaethau mewnol effeithiol i gadw pobl allan o’r ysbyty a’r anawsterau o ran recriwtio. Cafwyd y wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â Marleyfield ac ymagwedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) i gynyddu’r cyllid a ddarperir ganddynt ar gyfer y gwasanaeth. Cafwyd trosolwg o’r adolygiad a gynhaliwyd gyda GOGDdC o ran yr eitemau storfa a brynwyd ynghyd â gwybodaeth o ran y gwahaniaethau o ran targedu a defnyddio cyllid grant.
Darparodd Uwch Reolwr Diogelu a Chomisiynu wybodaeth o ran sut yr oedd rheoli swyddi gweigion a’r heriau recriwtio ar gyfer rolau’r rheng flaen yn cael eu diogelu. Cyflwynwyd gwybodaeth am y gostyngiad yn y cyfraniad rhanbarthol a’r gwaith a wnaed gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a’r tîm cydweithio Rhanbarthol. Yna fe gyfeiriodd at godi tâl am Wasanaeth Penodai a Dirprwyaeth, y gwaith a wnaed wrth geisio arbedion effeithlonrwydd o fewn contractau gyda’r trydydd sector ac oedolion ifanc sy’n mynychu colegau preswyl. Cafwyd y wybodaeth ddiweddaraf hefyd am Gomisiynu Pobl H?n a Chomisiynu Gofal.
Eglurodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod pwynt 1.07 yr adroddiad yn cyflwyno rhestr o risgiau parhaus ar gyfer y portffolio, gyda’r effaith andwyol yn sgil yr anawsterau o ran recriwtio a chadw gweithwyr cymdeithasol. Cyfeiriodd at y grantiau gan y Llywodraeth yn ystod y flwyddyn a’r twf mewn galw am wasanaeth ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Phlant.
Diolchodd y Cynghorydd Dave Mackie i’r swyddogion am yr holl waith a wnaed a’r gwaith ychwanegol a wnaed i fynd i’r afael â’r toriadau yn y gyllideb. Cyfeiriodd at yr adran yn yr adroddiad a oedd yn ymwneud â gofyn i’r holl Bortffolios ailystyried eu costau sylfaenol gan edrych am ffyrdd eraill o leihau cyllidebau neu waredu pwysau o ran costau i gyfrannu mwy tuag at ddiwallu’r bwlch sy’n weddill, a gofyn a oedd Portffolio’r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi gosod targed ar gyfer lleihau’r gyllideb ymhellach?
Mewn perthynas â’r ffi arfaethedig ar gyfer gwasanaethau penodai, holodd y Cynghorydd Mackie faint fyddai’r gost y pen ac mewn perthynas â’r costau arfaethedig gan y Gwasanaeth Anableddau ar gyfer lleoliadau coleg, faint fyddai’r costau?
Eglurodd Uwch Reolwr Diogelu a Chomisiynu o ran y ffi arfaethedig ar gyfer gwasanaethau penodai, roedd y Cyngor wedi bod yn ymchwilio i’r hyn y mae Awdurdodau Lleol eraill yng Nghymru a Lloegr yn ei wneud a byddai’r cynnig oddeutu £10/£20 yr wythnos. Roedd hyn yn cael ei ymchwilio ymhellach ar hyn o bryd, ac roedd y swyddogion yn gwerthfawrogi ei fod yn fater sensitif ac felly byddai angen ymgynghori gyda’r rhai yr effeithir arnynt a’u teuluoedd er mwyn sicrhau bod y gost yn deg a chyfiawn. Mewn perthynas â chodi tâl am leoliadau coleg, eglurodd yr Uwch Reolwr, o’r gwaith cychwynnol a wnaed, rhagwelir y byddai’n effeithio ar lai na 5 o bobl bob blwyddyn a byddai ar gyfer y rhai sy’n newydd i’r broses ac nid y rhai sydd eisoes â lleoliadau coleg. Byddai unrhyw newidiadau arfaethedig yn cael eu rhannu gyda theuluoedd fel rhan o’r broses o wneud penderfyniadau.
Holodd y Cynghorydd Carol Ellis beth fyddai effaith y gostyngiad arfaethedig yn y Ffioedd Comisiynu Gofal? Hefyd, mewn perthynas â Gofal Cartref, beth fyddai’r swyddogion yn ei ragweld fel effaith bosibl y toriadau cyllidebol ar rai sy’n gadael yr ysbyty? Mynegodd y Cynghorydd Ellis bryderon o ran gohirio arfaethedig pwysau cyllidebol gwasanaethau preswyl Plant a’r effaith y gallai hyn ei gael ar gyllideb Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir nad oedd yn diwallu’r galw ar hyn o bryd.
Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol), mewn perthynas â chyllideb Comisiynu Gofal, fod gan y Cyngor gofnod cadarnhaol o gefnogi partneriaid y sector gofal, gyda’r Cyngor yn darparu’r cynnydd uchaf mewn cyfraddau gofal ar draws Gogledd Cymru’r llynedd. Byddai cynnydd, ond ni fyddai yr un fath â’r llynedd. Roedd y trafodaethau yn sensitif ac yn parhau.
Roedd Uwch Reolwr y Gwasanaethau Plant yn deall y pryderon o ran Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir ond eglurodd nad oedd y cynnig cyllidebol yn golygu bod y Cyngor yn rhoi’r gorau i’r cynllun i ehangu darpariaeth breswyl fewnol i blant. Oherwydd yr heriau recriwtio, ni fyddai’r cartref a gynlluniwyd ar gyfer 2024/25 yn weithredol ar ddechrau’r flwyddyn ac felly byddai gostyngiad yn y gyllideb ar gyfer 2024/25 ond byddai ei angen fel rhan o gyllideb 2025/26. Roedd y Cyngor yn parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau a fyddai’n galluogi plant i beidio â bod angen darpariaeth y tu allan i’r sir yn y lle cyntaf, gan gynnwys gweithio ar gais am grant sylweddol i ehangu’r gwasanaethau i sicrhau bod plant yn derbyn cefnogaeth yn ddiogel heb fod angen lleoliadau y tu allan i’r sir.
Eglurodd Uwch Reolwr y Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion fod gan y Cyngor enw da mewn perthynas â’r gwasanaeth gadael yr ysbyty, ond roedd y galw’n parhau i gynyddu. Eglurwyd y byddai newid y ffyrdd o weithio, siarad â’r cleifion yn gynt a gweithio mewn ffyrdd gwahanol yn golygu bod modd cynnal y safonau a lleihau’r gyllideb. Roedd atgyfeiriadau yn gynt yn galluogi llunio cynllun gadael trylwyr gyda’r timau Ailalluogi.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Ellis o ran y cynnydd yn y cyfraniad gan BIPBC i Gartref Gofal Preswyl Pobl H?n Marleyfield, cadarnhaodd Uwch Reolwr y Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion mai eu hawgrym nhw oedd hyn ac felly roedd yn hyderus y byddai’r cyllid yn cael ei ddarparu.
Diolchodd y Cynghorydd Hilary McGuill i’r swyddogion am eu gwaith i nodi gostyngiadau yn y gyllideb ac yr oedd yn gobeithio na fyddent yn effeithio ar wasanaethau’r rheng flaen. Mewn perthynas â’r arbedion effeithlonrwydd arfaethedig i’r contractau a gynlluniwyd gyda’r trydydd sector, gofynnodd pryd y byddai’r rhain yn cael eu cyflawni a pha sefydliadau trydydd sector yr effeithir arnynt? Nododd hefyd bod MST a Mockingbird wedi arbed miloedd i’r Cyngor ac roedd yn falch bod hyn yn dechrau cael sgil-effaith ariannol ar gyfer y Cyngor ond ceisiodd sicrwydd a fyddai’r Cyngor yn gallu adennill y cyfraniadau ariannol y flwyddyn nesaf?
Eglurodd y Cynghorydd McGuill ei bod yn teimlo mwy o sicrwydd o ran y gostyngiad arfaethedig mewn Ffioedd Comisiynu Gofal, ar ôl gwrando ar ymateb y Prif Swyddog y byddai’r Cyngor yn parhau i gyfateb â’r Awdurdodau Lleol cyfagos. Yn yr un modd gyda’r Gwasanaeth Anableddau yn cyflwyno costau arfaethedig ar gyfer lleoliadau coleg, roedd yn teimlo y byddai’r gost yn debyg i’r hyn y byddai rhieni eraill yn ei gyfrannu pan fyddai eu plant yn mynd i ffwrdd i’r coleg, ond byddai angen rheoli cyflwyniad y gost yn sensitif.
Nododd y Cynghorydd McGuill er y croesawir y cynnydd mewn cyfraniad gan BIPBC, roedd yn swm bychan iawn o gymharu â’r arian yr oedd y Cyngor yn ei arbed i BIPBC yn flynyddol.
Eglurodd Uwch Reolwr Diogelu a Chomisiynu fel rhan o’r gwaith comisiynu, roedd y Cyngor yn cynnal adolygiad o effeithlonrwydd contractau a’u defnydd. Roedd yr arbedion effeithlonrwydd a ganfuwyd yn fychan ond drwy ail-drefnu sut y comisiynir gwasanaethau roedd yn galluogi parhau â’r rhai sy’n darparu gwerth gwych i’r rhai sy’n eu derbyn. Mewn perthynas â’r cynnig i godi tâl am leoliadau coleg, eglurodd yr Uwch Reolwr y byddai’r holl leoliadau’n cael eu hasesu’n ariannol i sicrhau bod y costau yr oedd y teuluoedd yn eu hwynebu yn cael eu dosbarthu’n deg ac nad oedd y costau’n andwyol i’r rhai â’r anghenion mwyaf.
Cyfeiriodd Uwch Reolwr y Gwasanaethau Plant at effaith gadarnhaol barhaus MST a Mockingbird ac eglurodd bod y buddion i’w gweld yn yr Adran Addysg ac Ysgolion gyda chynnydd mewn plant a phobl ifanc gydag ymddygiad ac anghenion heriol a chymhleth. Roedd llwyddiant y gwasanaeth MST wedi golygu bod 91% o blant yn parhau i aros gartref. Roedd y gwasanaeth yn cael ei ystyried fel osgoi costau yn hytrach nag arbediad ond roedd yn hynod bwysig. Darparwyd gwybodaeth am 3 canolfan Mockingbird a arolygwyd gan wasanaethau maethu CRW a nodwyd yr effaith gadarnhaol yr oedd yn ei gael ar blant mewn gofal maeth.
Diolchodd y Cynghorydd Gladys Healey i’r swyddogion am yr adroddiad. Nododd bod cynnydd mewn problemau iechyd meddwl mewn plant ac na fyddai’n dymuno gweld gostyngiad mewn cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant. Roedd hefyd yn cytuno gyda chynyddu’r gefnogaeth fewnol sydd ar gael i blant sydd angen lleoliad y tu allan i’r sir ac na fyddai’n dymuno gweld gostyngiadau cyllidebol pellach ar gyfer lleoliadau y tu allan i’r sir.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Healey at Ofal Cartref a gofynnodd a oedd y Cyngor wedi ystyried y cyflogau yn Wrecsam, sy’n uwch na chyflogau Sir y Fflint.
Eglurodd Uwch Reolwr y Gwasanaethau Plant bod cefnogaeth amserol a dwys yn gynnar ar gyfer plant a rhieni / teuluoedd gyda phroblemau iechyd meddwl yn hollbwysig. Trafododd buddsoddiad parhaus y Cyngor yn ei wasanaethau mewn perthynas â lleihau’r pwysau cyllidebol o ran lleoliadau y tu allan i’r sir.
Eglurodd y Prif Swyddog nad oes cytundeb cenedlaethol o ran cyflogau gweithwyr gofal, a dyna pam bod gwahaniaethau rhwng y Siroedd.
Cyfeiriodd y Cynghorydd McGuill at y Gofrestr o blant nad oeddent mewn addysg a gofynnodd a oedd yn cael ei rannu gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol. Eglurodd Uwch Reolwr y Gwasanaethau Plant bod rhai plant gartref oherwydd dewis eu rhieni ac roedd rhai wedi colli eu lle mewn ysgolion. Roedd y gwasanaeth wedi ymrwymo i weithio ar y cyd i ddeall ymddygiad a phwyntiau sbardun i gadw disgyblion yn yr ysgol gyda chefnogaeth CAMHS. Roedd nifer cynyddol o waharddiadau sy’n golygu bod hyn yn hollbwysig. Roedd addysg yn ddangosydd cryf ac roedd gwybodaeth briodol yn cael ei rhannu mewn perthynas â theulu.
Holodd y Cynghorydd Healey a oedd y portffolio yn gweithio gyda’r swyddog addysgu yn y cartref. Eglurodd yr Uwch Reolwr nad oedd yn ymwybodol o unrhyw gydweithio ond eglurodd y byddai hyn yn cael ei adrodd i gyd-gyfarfod gyda Phwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant. Ysgrifennodd y Pwyllgor at LlC gyda phryderon o ran y nifer cynyddol o blant sy’n derbyn addysg ddewisol yn y cartref. Roedd yn rhaid i’r Awdurdod weithredu o fewn y pwerau deddfwriaethol sydd ganddo.
Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Dave Mackie a Gladys Healey.
PENDERFYNWYD:
Y dylid nodi opsiynau lleihau cyllidebau’r Gwasanaethau Cymdeithasol.
Dogfennau ategol: