Agenda item

Isafswm Darpariaeth Refeniw - Polisi 2024/25

Pwrpas:        Mae gofyn i Awdurdodau Lleol bob blwyddyn roi rhywfaint o’u hadnoddau refeniw o’r neilltu fel darpariaeth i ad-dalu dyledion.  Mae’r adroddiad yn cyflwyno polisi drafft y Cyngor ar Isafswm Darpariaeth Refeniw.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac esboniodd fod rhaid i awdurdodau lleol osod polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw ym mhob blwyddyn ariannol.

 

Bob blwyddyn, roedd yn ofynnol i awdurdodau lleol neilltuo rhywfaint o adnoddau

refeniw fel darpariaeth ar gyfer ad-dalu dyled.

 

Mae rheoliadau yn ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau wneud darpariaeth isafswm refeniw pob blwyddyn y mae’n ei hystyried yn ddoeth. Nid oedd y rheoliadau eu hunain yn diffinio darpariaeth ‘darbodus’. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu canllawiau sy'n cynnig argymhellion i awdurdodau lleol ar ddehongli'r telerau a gofynnir i awdurdodau baratoi datganiad blynyddol o'u polisi ar wneud isafswm darpariaeth.

 

Roedd y Cyngor, fel rhan o strategaeth y gyllideb, wedi cynnal adolygiadau manwl o’i bolisi MRP yn 2016/17 a 2017/18 ac wedi diwygio’r polisi o ganlyniad.

 

Nid oedd angen gwneud newidiadau i’r polisi ar gyfer 2024/25.

 

Cyflwynwyd y Polisi i Aelodau ar y cyd ag adroddiad gosod cyllideb 2024/25.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y canlynol yn cael ei gymeradwyo a'i argymell i'r Cyngor Sir ar gyfer dyled heb ei thalu’r Gronfa'r Cyngor (CF):

·         Dewis 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio ar gyfer cyfrifo'r Isafswm Darpariaeth Refeniw ym mlwyddyn ariannol 2024/25 ar gyfer cydbwyso gwariant cyfalaf sy’n ddyledus ac sydd wedi’i ariannu gan fenthyca â chymorth wedi’i osod ar 31 Mawrth 2017.   Bydd yn cael ei gyfrifo yn ôl y dull ‘blwydd-dal’ dros 49 mlynedd.

·         Dewis 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio i gyfrifo'r Isafswm Darpariaeth Refeniw yn 2024/25 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf sydd wedi’i ariannu gan fenthyca â chymorth o 1 Ebrill 2016.   Bydd yn cael ei gyfrifo yn ôl y dull ‘blwydd-dâl’ dros nifer briodol o flynyddoedd, yn ddibynnol ar y cyfnod o amser y mae’r gwariant cyfalaf yn debygol o greu buddion.

·         Dewis 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio i gyfrifo'r Isafswm Darpariaeth Refeniw yn 2024/25 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf sydd wedi’i ariannu gan fenthyca (darbodus) heb gymorth neu drefniadau credyd, gan gynnwys y Model Buddsoddi Cydfuddiannol.    Bydd yn cael ei gyfrifo yn ôl y dull ‘blwydd-dâl’ dros nifer briodol o flynyddoedd, yn ddibynnol ar y cyfnod o amser y mae’r gwariant cyfalaf yn debygol o greu buddion.

 

(b)       Bod y canlynol yn cael ei gymeradwyo a'i argymell i'r Cyngor Sir ar gyfer dyled heb ei thalu’r Cyfrif Refeniw Tai:

·         Dewis 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio ar gyfer cyfrifo Isafswm Darpariaeth Refeniw y Cyfrif Refeniw Tai yn 2024/25 ar gyfer cydbwyso gwariant cyfalaf sy’n ddyledus ac sydd wedi’i ariannu gan ddyled wedi’i osod ar 31 Mawrth 2021.   Bydd yn cael ei gyfrifo yn ôl y dull ‘blwydd-dal’ dros 50 mlynedd.

·         Dewis 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio i gyfrifo Isafswm Darpariaeth Refeniw y Cyfrif Refeniw Tai yn 2024/25 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf sydd wedi’i ariannu gan ddyled o 1 Ebrill 2021.   Bydd yn cael ei gyfrifo yn ôl y dull ‘blwydd-dâl’ dros nifer briodol o flynyddoedd, yn ddibynnol ar y cyfnod o amser y mae’r gwariant cyfalaf yn debygol o greu buddion.

 

(c)        Bod yr Aelodau yn cymeradwyo ac yn argymell i’r Cyngor Sr bod yr Isafswm Darpariaeth Refeniw ar fenthyciadau gan y Cyngor i Gartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru i adeiladu cartrefi fforddiadwy drwy’r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (sy’n cael ei ystyried yn wariant cyfalaf yn nhermau cyfrifo) fel a ganlyn:

·         Na wneir Isafswm Darpariaeth Refeniw yn ystod y cyfnod adeiladu (sy’n fyr) gan nad yw’r ased yn cael ei ddefnyddio ac nad oes unrhyw fudd o’i ddefnyddio.

·         Unwaith y bydd yr asedau’n cael eu defnyddio, bydd ad-daliadau (benthyciadau) cyfalaf yn cael eu gwneud gan Gartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru.  Bydd Isafswm Darpariaeth Refeniw’r Cyngor yn hafal i’r ad-daliadau a wneir gan Gartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru.  Bydd yr ad-daliadau a wneir gan Gartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru yn cael eu hystyried, yn nhermau cyfrifo, fel derbyniadau cyfalaf, a dim ond i ariannu gwariant cyfalaf neu i ad-dalu dyled y gellir defnyddio’r rhain.  Bydd yr ad-daliad cyfalaf / derbyniadau cyfalaf yn cael eu neilltuo i ad-dalu dyled, a dyma yw polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw’r Cyngor ar gyfer ad-dalu'r benthyciad.

Dogfennau ategol: