Agenda item

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwrpas:        Derbyn diweddariad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Cofnodion:

Dangosodd Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ei werthfawrogiad i’r Aelodau am y gwahoddiad a’r cyfle i rannu rhai o ddatblygiadau’r Bwrdd Iechyd a’u bod nhw’n croesawu gohebiaeth unrhyw adeg.  Eglurodd y gofynnwyd iddo gamu i mewn 11 mis yn ôl fel Cadeirydd Dros Dro ynghyd â thri aelod annibynnol a Phrif Weithredwr dros dro gan fod y Llywodraeth yn rhoi BIPBC yn ei gyfanrwydd mewn mesurau arbennig yn dilyn problemau o ran llywodraethu, perfformiad rhai gwasanaethau a phroblemau gyda’r Bwrdd a’u perthnasau a’u rhyngweithiad.   Dywedodd eu bod nhw r?an mewn sefyllfa fwy sefydlog am fod ganddyn nhw Brif Weithredwr parhaol a gyda chyflenwad lawn o aelodau annibynnol erbyn mis Mawrth.  Cynghorodd yr Aelodau y byddan nhw’n cynnal cyfarfodydd cyhoeddus ledled y rhanbarth dros y misoedd nesaf er mwyn ymgysylltu â chymunedau, grwpiau’r trydydd sector a’r cyhoedd i ddeall eu anghenion a’u pryderon. Cytunodd bod y Gwasanaeth Iechyd yn gorfod newid gan fod y model oedd ganddyn nhw ar y funud ddim yn gynaliadwy ac roedd wedi cael ei sefydlu i ddelio gyda’r pwysau o’r lefel uchaf ar wasanaethau.  Pwysleisiodd bod angen rhoi mwy o egni ac adnoddau yn y gofal sylfaenol cymunedol.   Gorffennodd drwy ddweud bod yr 11 mis diwethaf wedi bod yn heriol iawn ond ei fod yn teimlo’n gymharol hyderus a bod cyfleoedd anferthol iddyn nhw allu gwneud pethau da gyda’r rhaglen iechyd yng Ngogledd Cymru.

 

Cyflwynodd Prif Weithredwr BIPBC ei hun gan ddweud ei fod yn bleser ac yn her anferthol ymuno â’r Bwrdd Iechyd yng Ngogledd Cymru ac y gallai weld potensial enfawr yng Ngogledd Cymru ar gyfer partneriaethau rhagorol i ddarparu gwasanaethau gwych yn y rhanbarth.

 

Cynghorodd y Cyfarwyddwr Cymunedol Iechyd Integredig (Dwyrain) yr Aelodau ei bod wedi gweithio gyda BIPBC am flwyddyn a’i bod yn falch o hynny.  Dywedodd mai eu llwyddiannau a’u cryfderau oedd y cydweithio gydag Awdurdodau Lleol gan fod ganddyn nhw yr un weledigaeth, strategaethau a nodau.   Pwysleisiodd bod ddim ots gan gleifion o le daw eu gofal neu sut y gweithredir eu gofal, yr oll sy’n bwysig ganddyn nhw yw ei fod yn wasanaeth ddi-dor.

 

Wrth ymateb i gwestiwn a gafodd ei ofyn gan y Cynghorydd Healey, dywedodd Cadeirydd BIPBC y byddai’r cyfarfod cyhoeddus cyntaf yn cael ei gynnal ar 20 Ionawr yn Ninbych ac y bydden nhw’n ymweld ag ardaloedd yr holl 6 awdurdod lleol rhwng r?an a’r haf ac y bydden nhw’n rhoi gwybodaeth bellach iddyn nhw pan fyddai gwybodaeth ar gael.

 

Holodd y Cynghorydd Healey ymhellach yngl?n â’r hyn a oedd yn digwydd gyda gofal sylfaenol oherwydd gorfod cau’r rhan fwyaf o ysbytai cymunedol a gofynnodd pam fod Meddygon Teulu yn anfon cleifion i’r Uned Achosion Brys yn hytrach na’r adran berthnasol?    Gofynnodd hefyd pam na allai cleifion iechyd meddwl weld perthnasau ar y ward a pham fod rhaid iddyn nhw gwrdd â nhw mewn ardaloedd eraill yn lle h.y. yn y caffi yn Ysbyty Maelor Wrecsam?

 

Ymatebodd Prif Weithredwr BIPBC drwy ddiolch iddi am ei chwestiynau ac eglurodd fod pethau wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd ac y byddai’n parhau i newid.  Un o’r prif newidiadau oedd mewn gofal sylfaenol oherwydd newidiadau yn y gweithlu.  Cynghorodd fod meddygfeydd gydag amryw o weithwyr proffesiynol erbyn hyn h.y. ffisiotherapyddion ac ymarferwyr iechyd meddwl ac ati a dylid annog hynny ond roedd hefyd angen y nifer gywir o Feddygon Teulu.   Dywedodd wrth Aelodau fod trafodaethau wedi cael eu cynnal yn ddiweddar yngl?n â sut i ddenu mwy o hyfforddeion i feddygfeydd a’i bod yn rhagweld yn y dyfodol y bydden nhw mewn sefyllfa well ond roedd hefyd yn cydnabod ei bod yn dipyn o her.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Cymunedol Iechyd Integredig (Dwyrain) bod yna lwybrau eraill yn hytrach na’r Uned Achosion Brys os na allai’r Meddyg Teulu ddarparu’r gofal.   Cynghorodd fod gan rai Ysbytai Cymunedol wasanaethau IV ond eglurodd os oes angen defnyddio gwrthfiotig gwahanol ei fod yn fwy diogel gwneud hynny gyda chefnogaeth meddygol.   Eglurodd fod pobl gyda phroblemau iechyd meddwl  efallai ddim yn ymddwyn ar eu gorau ac er mwyn dangos parch i weddill y ward roedd nifer yr ymwelwyr â’r ward yn gyfyngedig ac roedd ardaloedd ymweld eraill yn cael eu darparu.

 

Roedd gan y Cynghorydd Marion Bateman bryderon am ofal sylfaenol ac eisiau gwybod pwy benderfynodd bod E-ymgynghori yn syniad de yn enwedig gyda’r henoed?  Roedd ganddi hefyd bryderon am yr Uned Achosion Brys, y gwasanaeth ambiwlans ac amseroedd aros yn gyffredinol ar gyfer apwyntiadau.  Dyma Cadeirydd BIPBC yn diolch i’r Cynghorydd Bateman am godi’r pwyntiau gan gynghori pobl i gysylltu â’r Bwrdd Iechyd gydag unrhyw gwynion er mwyn gallu gwella’r gwasanaeth.   Eglurodd fod ganddo gydymdeimlad gyda defnyddwyr o’r system E-Ymgynghori gan fod technoleg yn methu ar adegau, ond pwysleisiodd fod y cyswllt cyntaf gyda’r gwasanaeth iechyd yn hanfodol.   Eglurodd ymhellach fod problemau gyda phrofiadau yn y Gwasanaethau Acíwt ddim yn gysylltiedig â’r driniaeth feddygol y maen nhw wedi’i dderbyn, ond yn hytrach gyda’r ffordd y mae pobl yn defnyddio’r gwasanaeth.   Pwysleisiodd y dylai’r Uned Achosion Brys gael ei ddefnyddio ar gyfer argyfwng yn unig a dylai pobl geisio newid y ffordd y maen nhw’n ei ddefnyddio, a thrwy gydweithio mae’n bosib ceisio dylanwadu ar hynny.

 

Ychwanegodd Prif Weithredwr BIPBC y byddai oddeutu 300 o bobl ar draws y Bwrdd Iechyd yn profi oedi yn yr ysbyty ar un amser gan egluro fod diffyg  gwasanaethau cymunedol oherwydd cyfyngiadau ar y gweithlu, a bod diffyg arian i wneud estyniadau mawr heb orfod ei gymryd o rywle arall yn y system a hynny fyddai’r ateb posib mae’n debyg.  Cynghorodd fod 176 o wlâu wedi cael eu hychwanegu i’r system i leihau’r pwysau a chytunodd ei fod yn bwysau trwy gydol y flwyddyn ac nid pwysau’r gaeaf yn unig a hoffai ddiolch i staff am y gwaith yr oedden nhw’n ei wneud er gwaethaf yr heriau. 

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Cymunedol Iechyd Integredig (Dwyrain) fod yna 62 o gleifion (o heddiw ymlaen) yn Ysbyty Maelor sy’n cyfateb i ddwy ward a hanner a fyddai o bosib yn gallu derbyn gofal adref neu ddim yn yr ysbyty sy’n dangos mai’r system sydd ddim yn gweithio ac nid yr Uned Achosion Brys. Ychwanegodd mai’r amser aros hiraf yn yr ysbyty hyd yma oedd 104 o ddiwrnodau ar ôl penderfynu bod y claf yn gallu derbyn gofal yn rhywle ar wahân i’r ysbyty ac ni ellir beirniadu hynny am ei fod yn destun pecyn gofal cymhleth.  Eglurodd bod y mesurau sydd wedi cael eu rhoi mewn lle dros y 12 mis diwethaf yn ceisio lleihau’r pwysau ar yr Uned Achosion Brys yn ogystal â’r Tîm Adnoddau Cymunedol sy’n trin pobl mewn cartrefi gofal a phobl sydd wedi cael eu hamlygu fel cleifion o flaenoriaeth i weld os ydyn nhw’n gallu cael eu hatgyfeirio at wasanaeth arall yn hytrach na mynd i’r Uned Achosion Frys. Mae cynnydd hefyd wedi bod mewn adnoddau cymunedol gydag uwch ymarferwyr gofal iechyd yn ogystal â chynnydd mewn oriau agor yn MIU Yr Wyddgrug i chwe diwrnod gyda’r gobaith o’i gynyddu i 7 ond byddai angen mwy o staff arnyn nhw i wneud hynny.

 

Wrth ymateb i’r Cadeirydd ar yr effaith ar Wasanaethau Cymdeithasol yngl?n â blocio gwlâu fe ddywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod llawer o bwysau ar y gweithlu sy’n berthnasol i’r holl feysydd.   Cynghorodd nad oedd ateb hawdd i’r broblem o flocio gwlâu gan fod y pwysau o fewn system iechyd a gofal cymdeithasol y DU gyfan, ac er mwyn ei ddatrys yn yr hirdymor byddai angen buddsoddiad ariannol sylweddol i atynnu pobl i’r swyddi ac yn y cyfamser byddai angen bod yn greadigol ac yn rhagweithiol.   Ychwanegodd bod y datblygiad yn Marleyfield wedi ychwanegu 16 o wlâu i gefnogi’r sector iechyd a gofal cymdeithasol a bod yna ymrwymiad i ddatblygu Croes Atti yn y dyfodol.

 

Wrth ymateb i amryw o gwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd McGuill, cynghorodd y Cadeirydd BIPBC ar ddau bwynt; i ddechrau bod y sefyllfa ariannol a’r ffordd y mae’r gyllideb yn gweithio yn flaenorol yn wahanol yn y Bwrdd Iechyd na Llywodraeth Leol ond roedd pethau wedi newid; ac yn genedlaethol roedd Gweinidog y Llywodraeth wedi dweud na chaniateir unrhyw or-wario a bod angen gwneud £180m o arbedion er mwyn gwneud yn si?r eu bod yn symud ymlaen gyda’r gyllideb y maen nhw’n ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru.   Dywedodd fel y cytunwyd gyda’r Llywodraeth bod ei fuddsoddiadau o flaenoriaeth wedi eu cynnwys yn eu cynllun blynyddol a’r rhaglen mesurau arbennig.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr ar y cyfan fod yna ychydig o dan 4% o gynnydd a’i fod yn her gan eu bod nhw’n gwybod gyda phwysau chwyddiant bod y gofyn tua 8 neu 10%.  Eglurodd fod ychydig o ddyraniad y gyllideb ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd wedi’i gynnal ar lefel y Llywodraeth ar gyfer tâl ac ati ac nid oedd cymaint ag yr oedd ei angen ond mae’n debyg ei fod yn well na’r hyn a obeithiwyd ac y byddai rhaglen arbedion mawr i ddod yn ariannol gynaliadwy yn yr hirdymor.

 

Yn ail ac yn gysylltiedig â’r cwestiwn a godwyd am yr Aelodau Bwrdd a’r profiad o ofal cymdeithasol ac ymwybyddiaeth fe gynghorodd Cadeirydd BIPBC fod yna un person ar hyn o bryd a oedd yn gyn-aelod o Ofal Cymdeithasol Cymru, person arall oedd gyda phrofiad o Ofal Cymdeithasol mewn Llywodraeth Leol ac aelodau eraill gyda gwybodaeth gyffredinol ond ar y cyfan gyda chymysgedd o brofiad yn ogystal â chysylltiadau gyda Llywodraeth Leol.

 

Wrth ymateb i gwestiwn a godwyd gan y Cynghorydd McGuill am Ddeintyddion yn ymweld ag ysgolion fe gynghorodd Prif Weithredwr BIPBC fod unedau deintyddol symudol yn parhau i gael eu defnyddio yn yr ardaloedd gwledig a bod nifer gynyddol o therapyddion deintyddol yn gallu gwneud llawer o’r gwaith y mae deintyddion yn ei wneud a bod y ddarpariaeth deintyddol yn newid ei ffurf dros y blynyddoedd nesaf. Cynghorodd fod y Llywodraeth wedi gosod uchelgais newydd ynghylch gofal deintyddol.   Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Cymunedol Iechyd Integredig (Dwyrain) bod y ddeddfwriaeth bresennol yn nodi bod therapyddion deintyddol ond yn gallu darparu triniaeth fel rhan o gynllun triniaeth sy’n cael ei ragnodi gan ddeintydd ac wrth i bethau newid yn y dyfodol gallai weld therapyddion yn gallu dechrau cynlluniau triniaeth ond ar hyn o bryd ni allent fynd i ysgolion i wneud cynllun triniaeth.

 

Mewn cysylltiad â’r cwestiwn a godwyd am Hosbis yn y Cartref fe eglurodd y Prif Weithredwr fod yna safbwyntiau gwahanol gan unigolion am y dyddiau diwethaf o fywyd a’u bod nhw eisiau rhoi’r dewis i bobl os ydyn nhw’n dymuno treulio eu diwrnodau olaf yng nghartrefi ei hunain yna bydden nhw’n gwneud popeth posib i gefnogi hynny.

 

Wrth ymateb i’r cwestiwn am Grwpiau Cyswllt Meddygon Teulu fe gynghorodd y Prif Weithredwr fod gan rai meddygfeydd fforymau cleifion a’u bod nhw eisiau annog y rheiny wnaeth gamu i lawr yn ystod y pandemig i ddychwelyd gan eu bod nhw’n ddefnyddiol iawn i’r Bwrdd Iechyd fel mesur o ba mor dda oedd y gwasanaethau yn rhedeg ac unrhyw broblemau yr oedden nhw’n ei wynebu.

 

Cynghorodd y Cyfarwyddwr Cymunedol Iechyd Integredig (Dwyrain) nad oedd yn gynaliadwy ar hyn o bryd i gael MIU yng Nglannau Dyfrdwy yn ogystal â’r Wyddgrug a Threffynnon ac y byddai’n golygu bod angen recriwtio, ond roedd yn sicr yn rhan o’u cynllun tymor canolig gan fod ganddyn nhw 4 o hyfforddeion ar hyn o bryd.   Dywedodd eu bod wedi wynebu llawer o broblemau wrth ychwanegu’r 6ed diwrnod yn yr Wyddgrug a’u bod nhw angen gwneud un gwasanaeth yn gynaliadwy cyn cyflwyno un arall. 

 

Aeth ymlaen i ateb cwestiwn y Cynghorydd McGuill yngl?n ag Ysbyty yn y Cartref a chynghorodd ei fod yn wasanaeth anferthol oedd yn cysylltu’r Tîm Adnoddau Cymunedol  gyda Chartrefi Gofal a’r Ymddiriedolaeth Acíwt yn ogystal â nifer o wasanaethau eraill.   Dywedodd ei fod yn wasanaeth wedi’i yrru’n glinigol sy’n darparu gofal estynedig fel bod pobl yn gallu dychwelyd adref gyda’r offer angenrheidiol.   Eglurodd ei fod yn rhan anweledig fawr o’u system a bod y Bwrdd Iechyd wedi buddsoddi tua £1.6m y flwyddyn yn y Dwyrain.

 

Wrth ymateb i’w chwestiwn diwethaf yngl?n â gwelliannau i leihau pwysau cymdeithasol fe gynghorodd y Cyfarwyddwr Cymunedol Iechyd Integredig (Dwyrain) fod yna 32 o gleifion ar hyn o bryd sydd hyd yma eleni wedi treulio 100 diwrnod yn y gwely heb unrhyw beth enbyd o’i le arnyn nhw a thrwy gydweithio maen nhw’n gallu helpu i newid hynny.

 

Gofynnodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd pryd a sut y byddai ymateb i’r cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu cyflwyno cyn y cyfarfod.   Wrth ymateb, mae Cadeirydd y BIPBC wedi cynghori y byddan nhw’n cael eu hanfon at Glerc y Pwyllgor i gael ei dosbarthu ymysg yr Aelodau a’u bod nhw’n croesawu unrhyw gwestiynau pellach.

 

Dyma’r Cadeirydd a’r Aelodau yn diolch i gynrychiolwyr Betsi am fynychu’r cyfarfod.