Agenda item
Polisi Goleuadau Stryd
- Cyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi, Dydd Mawrth, 9fed Ionawr, 2024 10.00 am (Eitem 63.)
- Cefndir eitem 63.
Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar ôl i’r ymgynghoriad cyhoeddus ddod i ben a chyflwyno fersiwn drafft terfynol o’r strategaeth i’w mabwysiadu.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd y Rheolwr Gweithredol (Y Gogledd a Goleuadau Stryd), Darrell Jones, i’r cyfarfod. Darparodd yr adroddiad wybodaeth ar yr adolygiad cyfnodol o’r Polisi yn unol â newidiadau mewn galw.
Darparodd y Rheolwr Gweithredol drosolwg o’r Polisi a Manylebau Goleuadau Stryd, Goleuadau Traffig ac Offer Cysylltiedig. Roedd wedi’i ddiweddaru ers y polisi y cytunwyd arno’n flaenorol ac yn ymwneud â mabwysiadu’r isadeiledd a rhwydwaith priffyrdd ar gyfer y Cyngor. Darparwyd gwybodaeth am y polisi, gosod offer a safonau, a oedd yn cynnwys goleuadau stryd, arwyddion a goleuadau traffig ac eitemau allanol eraill, megis mannau gwefru cerbydau trydan a diffibrilwyr, nad oeddent wedi cael eu cynnwys yn flaenorol. Roedd y Polisi a’r Manylebau yn awr yn cynnwys yr holl safonau perthnasol.
Gofynnodd y Cynghorydd Mike Peers nifer o gwestiynau:-
Mewn ymateb i’r cwestiwn yngl?n ag Arwyddion a Ysgogir gan Gerbydau, cadarnhaodd y Rheolwr Gweithredol bod yr arwyddion 30mya wedi cael eu diffodd a’u gorchuddio. Roeddent yn cael eu cynnal yn drydanol ac yn strwythurol ond nid oeddent yn cael eu defnyddio.
Mewn ymateb i’r cwestiwn ar golofnau ac asedau goleuo, adroddodd y Rheolwr Gweithredol ar hyd oes amrywiaeth o isadeiledd a oedd yn bresennol yn y sir. Cynhaliwyd prosiect i newid y llusernau flynyddoedd yn ôl ond roedd y problemau yn awr yn ymwneud â’r isadeiledd a’r colofnau. Darparwyd gwybodaeth am waith y cwmni allanol sy’n ymgymryd â rhaglen dreigl o archwiliadau ynghyd ag esboniad o’r ymweliadau â safleoedd goleuadau traffig a gynhelir bob blwyddyn oherwydd eu hyd oes byrrach.
Mewn ymateb i’r cwestiwn am Archwiliadau Gyda’r Nos, cytunwyd bod gwall yn y ddogfen ac y dylid cywiro hyn. Cynhaliwyd y rhain bob 28 diwrnod yn ystod misoedd yr haf a phob 14 diwrnod yn ystod misoedd y gaeaf. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Peers yngl?n â chynnwys meini prawf yn y Polisi, eglurodd y Rheolwr Gweithredol bod y cyfnod o 10 diwrnod ar gyfer archwilio safleoedd y Gwasanaethau Stryd gyda’r nod o allu cynnal y rhain mor gyflym â phosibl. Mewn rhai achosion megis DNO (Gweithredwr Rhwydwaith Dosbarthu) (Scottish Power), pe bai’n cael ei nodi fel nam yn gysylltiedig â’r prif gyflenwad, byddai’r wybodaeth wedyn yn cael ei phasio ymlaen i Scottish Power a oedd yn dilyn Rheoliadau OFGEM o ran atgyweirio’r golau. Cyhoeddwyd hyn ar wefan y Cyngor ac Infonet.
O ran y cwestiwn yngl?n â goleuo rhan o’r nos, eglurodd y Rheolwr Gweithredol bod hyn wedi cael ei dreialu ar sawl achlysur mewn ardaloedd yn Sir y Fflint ac roedd yn dal ar waith mewn rhai ardaloedd. Roedd ymgynghoriadau ac asesiadau wedi cael eu cynnal gydag aelodau lleol, gwasanaethau brys a grwpiau lleol a darparwyd amlinelliad o’r arbedion y gellid eu cyflawni a’r ardaloedd y gellid eu hystyried ar gyfer goleuo rhan o’r nos.
Mewn ymateb i’r cwestiwn yngl?n â gostwng goleuadau, eglurodd y Rheolwr Gweithredol bod hyn wedi cael ei drafod yn y polisi blaenorol i ostwng golau llusernau o 30%, nid oedd hyn yn cynnwys ardaloedd diamddiffyn ac ardaloedd gyda theledu cylch caeedig. Roedd hyn yn darparu arbedion yn ystod yr oriau mwy tywyll pan oedd llai o gerbydau ar y ffordd.
Cadarnhaodd y Rheolwr Gweithredol y byddai’r Polisi yn cael ei newid i ddangos y byddai ymgynghori’n digwydd gydag Aelodau Ward cyn i unrhyw waith gael ei wneud yn eu wardiau.
Mewn ymateb i’r cwestiwn ar Asesiad o Effaith Integredig, cadarnhaodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd oherwydd bod yr adolygiad polisi hwn yn adroddiad strategol, bod yn rhaid i Swyddogion gynnal Asesiad o Effaith Integredig ac yna fe amlinellodd beth yr oedd hyn yn ei gynnwys. Eglurodd y Rheolwr Gweithredol nad oedd y Polisi a’r Manylebau ar gyfer goleuadau stryd yn unig, roeddent hefyd yn berthnasol i oleuadau traffig, isadeiledd trydanol, teledu cylch caeëdig ac eitemau yn a thros y briffordd. Cadarnhaodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd y byddai’r teitl yn cael ei ymestyn i gynnwys y meysydd eraill a oedd yn cael eu trafod.
Wrth grynhoi’r cwestiynau gan y Cynghorydd Peers, cadarnhaodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd y byddent yn fwy penodol o ran enw’r Polisi ar draws y dogfennau, byddai archwiliadau gyda’r nos yn cael eu diwygio i adlewyrchu’r gwahaniaethau rhwng 14 diwrnod a 28 diwrnod, byddai’r adran ar oleuo a gostwng goleuadau’n rhannol yn y nos yn cael ei rhannu yn y Polisi a byddai pwynt 5.9 yn cael ei ddiwygio i nodi y ‘bydd yn ymgynghori gyda phartïon â diddordeb’ a chynnwys y meini prawf ar gyfer goleuo rhan o’r nos yn y Polisi.
Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Dan Rose, dywedodd y Rheolwr Gweithredol, yn dilyn trafodaethau cynharach, y byddai’r meini prawf ynghlwm wrth y polisi i drafod gostwng goleuadau, goleuo rhan o’r nos a lleihau amser newid.
Mewn ymateb i’r pwynt yngl?n â rheiny gyda nam ar eu golwg, cadarnhawyd bod ymgynghoriad yn cael ei gynnal gyda nifer fawr o sefydliadau wrth weithredu cynlluniau mwy, megis Cynllun Cyngor Tref Treffynnon. Roedd y gwasanaeth hefyd yn derbyn galwadau gan bobl a oedd eisiau lefel uwch neu is o olau ac fe eglurodd pa fesurau a oedd wedi cael eu dilyn.
Gan gyfeirio at y pwynt yngl?n â bylbiau 3,000 a 4,000, eglurodd y Rheolwr Gweithredol bod 3,000 i 4,000 yn cael eu defnyddio mewn safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig. Eglurwyd bod 95% o’r isadeiledd presennol wedi cael ei osod ar 4,000, sef yr hen safon pan gafodd yr LEDs eu newid 8 mlynedd yn ôl ac roedd yn parhau i fod yn isel ar y raddfa wrth gyfeirio at olau ac allbwn.
Gofynnodd y Cynghorydd Rose am eglurhad bod 4,000k wedi cael eu defnyddio er mwyn defnyddio llai o ynni ac arbed carbon ond nid oeddent yn rhoi ystyriaeth i anifeiliaid y nos, megis moch daear, yn yr ardaloedd hynny. Roedd yn credu bod yr ôl-troed carbon yn bwysig ond nid ar draul bioamrywiaeth ac roedd eisiau i hyn gael ei gynnwys yn y meini prawf. Yn ei ymateb, eglurodd y Rheolwr Gweithredol nad oedd y llusernau, ac eithrio llusernau treftadaeth, yn taflu golau i fyny i’r awyr ac nid oedd unrhyw olau yn cael ei daflu tu hwnt i’r ardal darged. Eglurodd sut yr oedd yr LEDs yn cael eu rhoi yng nghorff y llusernau ac roedd llai fyth o olau yn cael ei wastraffu. Gellid gosod y llusernau lle’r oedd eu hangen a’u symud oddi wrth wrychoedd. Eglurwyd hefyd y gellid defnyddio trefniadau amddiffyn 360 gyda’r llusernau a fyddai’n lleihau faint o olau fyddai’n cael ei daflu ac yn targedu’r ardal yn unig. Roedd y rhain yn cael eu defnyddio pan oedd ceisiadau gan breswylwyr yn datgan bod y goleuadau’n rhy llachar neu’n disgleirio i mewn i eiddo. Yna, cyfeiriodd y Rheolwr Gweithredol at y goleuadau 4,000 k gan ddweud bod y rhain eisoes wedi’u gosod ac y byddent yn para. Nid oedd yn bosib defnyddio cymysgedd o fylbiau 3,000 a 4,000k oherwydd y byddai hyn yn effeithio ar bobl gyda nam ar eu golwg. Eglurodd hyd yn oed os oedd goleuadau 4,000 yn cael eu gosod, fe allent gael eu sgorio yn 3,800. Yr isadeiledd oedd yn rheoli lle’r oedd y colofnau’n cael eu gosod ac fe amlinellodd y cydbwysedd rhwng bodloni’r rheoliadau o ran golau, yr isadeiledd presennol, oed yr offer a dyletswyddau o ran bioamrywiaeth a’r amgylchedd.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bernie Attridge ar fabwysiadu goleuadau gan Gynghorau Tref a Chymuned, cadarnhaodd y Rheolwr Gweithredol bod hyn wedi’i gynnwys yn y manylion a’r meini prawf yn y polisi hwn. Roedd yr egwyddor yr un fath ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned a Datblygwyr.
Mewn ymateb i’r cwestiwn yngl?n â chostau i Gynghorau Tref a Chymuned sy’n gofyn i Sir y Fflint fabwysiadu’r goleuadau, amlinellodd y Rheolwr Gweithredol y prosesau a’r cymorth yr oedd Sir y Fflint wedi’u darparu dros yr 8 mlynedd olaf. Eglurwyd nad oedd y costau yn y polisi oherwydd eu bod wedi’u cynnwys dan Ffioedd a Thaliadau ac fe gytunodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd i gynnwys y rhain yn yr Adolygiad o Ffioedd a Thaliadau. Eglurwyd y byddai’r ddogfen bolisi hon yn cael ei defnyddio ledled Gogledd Cymru i sicrhau arbedion cost ar gyfer caffael bracedi, colofnau ac ati.
O ran y pwynt yn ymwneud ag Arwyddion sy’n cael eu Hysgogi gan Gerbydau, dywedodd y Rheolwr Gweithredol y byddai’n rhaid iddo ymgynghori â chydweithwyr a chytunodd i ofyn i’r Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r pwyllgor.
O ran y cwestiwn yngl?n â Mayrise, cadarnhawyd bod y system wedi cael ei datblygu yn y 1990au a goleuadau stryd oedd y gwasanaeth cyntaf i’w defnyddio. Roedd problemau gyda’r system hon wrth geisio rhoi gwybod am ddiffygion ar y system ac fe gytunodd i siarad â’r Ganolfan Gyswllt am hyn.
O ran y pwynt yngl?n â Scottish Power a pha mor gyflym yr oeddent yn gwneud gwaith atgyweirio, cadarnhawyd eu bod yn gweithio’n unol â Safonau Cenedlaethol Ofgem ac roedd yn rhaid iddynt gadw at y safonau hynny. Os oeddent yn gweithredu y tu allan i’r Safonau hynny, roedd yn rhaid iddynt wneud cais am eithriad a darparu eglurhad o’r rhesymau dros yr oedi ac roeddent hefyd yn derbyn dirwy.
O ran arwyddion ffyrdd anniogel, cadarnhawyd y byddai’r tîm yn gweithredu ar unwaith ar ôl derbyn adroddiad er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu gwneud yn ddiogel. Byddai’r gwaith atgyweirio wedyn yn cael ei gynnwys yn eu rhaglen waith. Byddai eu cyflymder yn dibynnu ar yr arwydd penodol a’i leoliad.
Gofynnodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson sawl cwestiwn ac fe wnaeth y Rheolwr Gweithredol eu hateb.
Wrth ymateb i’r sylw yngl?n ag archwiliadau gyda’r nos, cadarnhawyd nad oedd unrhyw newid wedi cael ei wneud. Fel y trafodwyd yn flaenorol, byddai’n cael ei egluro yn y polisi o ran 28 a 14 diwrnod yn ystod misoedd yr haf a’r gaeaf.
O ran y pwynt yn ymwneud â safonau amseroedd ymateb, nid oedd y Rheolwr Gweithredol yn ymwybodol o unrhyw newidiadau ond roedd yn ymwybodol o’r adolygiad a oedd yn cael ei gynnal o ran safonau gwasanaeth. Eglurodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd bod yr adolygiad yn rhan o ymgais y rhaglen waith i fod yn fwy clir o ran y safonau yn y polisïau ond ni fyddai’n disgwyl i safonau Gwasanaethau Stryd ostwng safonau polisi.
Wrth gyfeirio at y cwestiwn yngl?n ag amser ymateb, cadarnhaodd y Rheolwr Gweithredol y byddai’n symud ymlaen gyda’r amser ymateb cyflymaf a oedd yn bosibl. Nid oedd y gwaith atgyweirio’n cael ei wneud ar unwaith bob amser, ond byddai’r tîm yn ymweld â’r safle ac yn ei wneud yn ddiogel, ac yna byddai’r terfyn amser o 10 diwrnod yn cael ei gynnwys i atgyweirio’r diffyg.
Dywedodd y Cynghorydd Allan Marshall ei bod yn ddogfen fawr a gofynnodd a fyddai modd iddo anfon unrhyw sylwadau ymlaen at y Rheolwr Gweithredol ar ôl y cyfarfod. Gofynnodd y cwestiynau canlynol :-
Mewn ymateb i’r cwestiwn am amseru a newid ffotogelloedd, dywedodd y Rheolwr Gweithredol bod hyn yn ddibynnol ar bwy oedd piau’r asedau, ond roedd y rhan fwyaf o asedau Sir y Fflint yn ffotogelloedd. Roedd bracedau polion yn broblem fawr, yn ogystal â’r ffiwsys porslen nad oedd bellach yn cael eu derbyn o dan y rheoliadau. Roedd yn rhaid cynnwys Scottish Power yn y gwaith i drosglwyddo’r gwasanaeth ac fe allai Sir y Fflint wneud popeth arall. Roedd hyn hefyd yn berthnasol i golofnau ond roedd Sir y Fflint yn berchen ar fwy ohonynt ac felly’n gallu gwneud mwy o’r atgyweiriadau.
Mewn ymateb i’r pwynt ar archwiliadau gyda’r nos mewn ardaloedd gwledig, cytunodd y Rheolwr Gweithredol gyda’r sylwadau a wnaed ond dywedodd nad oedd modd archwilio’r rhain yn ystod y dydd oherwydd eu bod wedi’u diffodd. Dywedodd y byddai Trydanwyr Ardal yn gallu lleoli ac archwilio’r goleuadau yn eu hardal.
Mewn ymateb i’r gwallau yn y polisi o ran enwau a theitlau swyddi, cytunodd y Rheolwr Gweithredol i edrych arnynt.
Mewn ymateb i’r nifer cynyddol o ddiffygion ym mhwynt 1.06, dywedodd y Rheolwr Gweithredol nad oedd y diffygion yn ymwneud â goleuadau stryd yn unig ond yr isadeiledd cyfan, yn cynnwys arwyddion, ceblau, ffotogelloedd, ffiwsys porslen a oedd yn cynnwys yr hyn a oedd yn cael ei gynnal ar yr isadeiledd sy’n heneiddio. Nodwyd y gellid hefyd rhoi gwybod am oleuadau ddim yn gweithio drwy Fy Nghyfrif.
Mewn ymateb i’r pwynt ar y goleuadau LED newydd a lleihau cost ynni, cadarnhaodd y Rheolwr Gweithredol y dylai bod y cyflenwr p?er wedi cael gwybod ar ôl i’r golau gael ei newid. Os oeddent wedi cael eu newid yn ystod gwaith cynnal a chadw, yna byddai’n rhaid iddo siarad gyda’i gydweithiwr, Jamie Bennett. Byddai hyn yn newid ar Mayrise os oedd yr ased wedi’i gynnwys a dylai bod anfoneb wedi cael ei hanfon i’r Cyngor Cymuned. Cytunodd i ymchwilio i hyn.
Mewn ymateb i’r cwestiwn ar fabwysiadu a diffyg cydymffurfio gan y Cynghorydd Chris Bithell, dywedodd y Rheolwr Gweithredol mai dyma pam yr oedd y fanyleb fanwl wedi’i chynnwys yn y polisi hwn. Roedd hyn yn ymwneud â phawb yn cynnwys datblygwyr ac yn amlinellu’r ddealltwriaeth glir o’r hyn a oedd yn ddisgwyliedig a’r amserlenni ar gyfer cyflawni’r gosodiadau.
Mewn ymateb i’r pwynt Adran 38 a godwyd, dywedodd y Rheolwr Gweithredol byddai’n rhaid iddo gyfeirio hyn at ei gydweithwyr yn yr Adain Rheoli Datblygu Priffyrdd. Roedd angen am fondiau o hyd ac fe gytunodd i ddod yn ôl gydag ymateb mwy manwl.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at y term DNO er enghraifft a gofynnodd os y gellid cynnwys rhywbeth i amlinellu beth yr oedd y talfyriadau hyn yn cyfeirio atynt. Cytunodd y Rheolwr Gweithredol i gynnwys hyn yn y polisi. O ran Adran 38 a oedd wedi’i chynnwys dan Ddeddf Priffyrdd 1980, cadarnhaodd fod dolenni cyswllt wedi cael eu cynnwys i’r Ddeddf neu Safonau ar ddechrau’r paragraff.
Gofynnodd y Cynghorydd David Coggins Cogan sawl cwestiwn ac fe gawsant eu hateb gan y Rheolwr Gweithredol.
Mewn ymateb i’r cwestiwn yngl?n â chostau’r Asiantaeth Cefnffyrdd, adroddwyd bod hyn yn ymwneud â’r polisi blaenorol ac nad oedd unrhyw gostau i Sir y Fflint.
Mewn ymateb i’r cwestiwn am y gyllideb gyfalaf ar gyfer newid colofnau goleuadau stryd, cadarnhaodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd nad oedd rhaglen gyfalaf ddynodedig ar gyfer colofnau goleuadau stryd a bod hyn wedi’i gynnwys yng Nghynllun Rheoli Asedau Priffyrdd. Roedd ffyrdd cerbydau’n flaenoriaeth, gyda £1.5 miliwn o arian cyfalaf wedi’i dderbyn ac roedd wedi cael ei ddyrannu i gael y budd mwyaf o’r arian hwnnw. Nid oedd hyn yn ddigon i gynnal cyflwr sefydlog - amcangyfrifwyd y byddai hynny’n costio £3.2 miliwn y flwyddyn. Roedd chwyddiant wedi’i gynnwys a dywedodd bod oddeutu £150,000 y flwyddyn yn cael ei ddyrannu er mwyn gosod colofnau newydd. Cyfeiriodd at yr Adolygiad o Archwiliad Priffyrdd a fyddai’n edrych ar yr asesiadau risg ar gyfer y rhwydwaith priffyrdd a chyflwyno rhai o’r risgiau a’r heriau fel rhan o’r adolygiad hwnnw.
Mewn ymateb i gwestiwn ar leihau a gostwng goleuadau (“trimming and dimming”), eglurodd y Rheolwr Gweithredol bod hyn yn cyfeirio at leihau’r amser newid ar gyfer pan oedd y ffotogelloedd yn dod ymlaen. Yna, fe amlinellodd y ddwy safon a oedd yn cael eu defnyddio mewn perthynas â gostwng goleuadau yn dibynnu ar y lleoliad.
Cynigodd y Cynghorydd Mike Peers bod argymhelliad 1 yn cael ei dderbyn ond bod argymhelliad 2 yn cael ei newid i “bod y Pwyllgor yn nodi’r Polisi Goleuadau Stryd diwygiedig.”
Yna cynigodd argymhelliad 3, sef “bod y Polisi Goleuadau Stryd a gyflwynwyd yn cael ei ddiwygio fel y cytunwyd gan Swyddogion a’i gyflwyno i’r Pwyllgor eto er mwyn ei gymeradwyo.”
Cynigodd y Cynghorydd Mike Peers yr argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd David Coggins Cogan.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi perfformiad y portffolio yn erbyn y polisi a’r safonau presennol;
(b) Bod y Pwyllgor yn nodi’r Polisi Goleuadau Stryd diwygiedig; a
(c) Bod y newidiadau a gytunwyd gyda Swyddogion yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet.
Dogfennau ategol:
-
Streetlighting Policy, eitem 63.
PDF 137 KB
-
Appendix 1 - Streetlighting Policy, eitem 63.
PDF 103 KB
-
Appendix 2 - Streetlighting Policy, eitem 63.
PDF 404 KB
-
Appendix 3 - Streetlighting Policy, eitem 63.
PDF 287 KB