Agenda item

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2024/25

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ddiweddaraf Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2024/25 cyn cael Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ddiweddariad ar y swm ychwanegol angenrheidiol i’r gyllideb ar gyfer 2024/25 a chynnydd ar ddatrysiadau posib’ ar gyfer y gyllideb, cyn i’r Cabinet ei ystyried.

 

Ers cyfarfod mis Tachwedd, roedd Datganiad yr Hydref wedi’i gyhoeddi gan y Canghellor gyda rhannau allweddol yn ymwneud â gostyngiadau i drethi sy’n effeithio ar unigolion a busnesau, a oedd yn golygu y byddai’n annhebygol bod unrhyw gyllid canlyniadol ychwanegol i Lywodraeth Leol i wella’r Setliad Dros Dro oedd i ddod gan Lywodraeth Cymru (LlC) ar 20 Rhagfyr.

 

Roedd crynodeb o newidiadau i bwysau ers mis Medi wedi arwain at swm angenrheidiol ychwanegol diwygiedig i’r y gyllideb o 33.187m.  Roedd cyfanswm o £22.097m o ddatrysiadau cyllidebol wedi’u canfod hyd yma, oedd yn gadael swm angenrheidiol ychwanegol o £11.090m i osod cyllideb gyfreithlon a chytbwys ar gyfer 2024/25.  Roedd yr adroddiad yn nodi nifer o risgiau parhaus oedd yn cael eu monitro’n ofalus ac opsiynau eraill ar gyfer y gyllideb oedd yn parhau i gael eu hystyried.  Roedd gwaith brys ar fynd i ystyried gostyngiadau eraill i gostau er mwyn ceisio cau’r bwlch oedd yn weddill.  Roedd y darlun cenedlaethol yn dangos bod pob awdurdod lleol yng Nghymru’n wynebu heriau ariannol sylweddol tebyg.  Byddai’r Aelodau’n cael eu briffio ar ganlyniad y Setliad Dros Dro cyn y Nadolig.

 

Mynegodd y Cadeirydd bryder am raddfa gostyngiadau eraill i’r gyllideb yr oedd gofyn i’r portffolios ddod o hyd iddynt a dywedodd y dylai’r sefyllfa ddisgwyliedig a’r datrysiadau posib’ fod wedi’u cyfleu’n fwy eglur yn gynharach, yn enwedig o ystyried faint o herio fu mewn cyfarfodydd blaenorol.  Aeth yn ei flaen i sôn am yr arweinyddiaeth wleidyddol gan holi a oedd sylwadau wedi’u cyflwyno i LlC ar bwysau oedd yn deillio o’r galw mawr parhaus ar wasanaethau Anghenion Dysgu Ychwanegol a digartrefedd.

 

Yn ateb i’r ymholiadau, rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol eglurhad ar ostyngiad yn yr arbedion effeithlonrwydd o’r portffolio asedau a dywedodd fod y gostyngiad tebygol i gyllid oedd yn deillio o’r cynnydd i Gyllid Allanol Cyfun LlC yn seiliedig ar wybodaeth gychwynnol o’r Is-gr?p Dosrannu a bod y drafodaeth arno’n parhau.  Rhoddwyd eglurhad hefyd ar fodelu Treth y Cyngor a dull darbodus yr arbediad ym mlwyddyn 2 o’r Adolygiad Actiwaraidd.  O ran risgiau, eglurwyd bod disgwyl cadarnhad gan LlC ar gyllid ar gyfer y pwysau ynghlwm â chyfraniadau cyflogwyr at bensiwn athrawon.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’r rhaglen drawsnewid strategol yn creu sefyllfa gyllidebol gynaliadwy at y dyfodol gyda ffrydiau gwaith yn canolbwyntio ar warchod sefyllfa ariannol y Cyngor, yn enwedig o ystyried lefelau’r arian wrth gefn sydd ar gael.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Paul Johnson gyd-destun o ran sefyllfa ariannol Sir y Fflint o gymharu ag awdurdodau eraill a rhoddodd sicrwydd bod sylwadau’n parhau i gael eu gwneud.  Aeth yn ei flaen i sôn am ddefnyddio dull pwyllog ar gyfer proses y gyllideb i weithio drwy’r data oedd ar gael.

 

Wrth drafod y posibilrwydd o gysoni ffioedd maethu, gofynnodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson a oedd ffioedd y Cyngor yn is na’r lefel arfaethedig a chyfartaledd Cymru ac os felly, a oedd hyn yn effeithio ar bwysau y Tu Allan i’r Sir.  Cytunodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol i gael ateb gan y gwasanaeth.  Yn ateb i gwestiynau eraill, rhoddodd eglurhad ar gyfrifiadau Treth y Cyngor a phwysau chwyddiant Model Cyflawni Amgen.  Eglurodd hefyd fod yr elw buddsoddi ychwanegol disgwyliedig o £0.500m yn seiliedig ar amcangyfrif Arlingclose Ltd a chytunodd i rannu rhagor o fanylion ar y rhagdybiaethau a ddefnyddiwyd yn y cyfrifiadau o ran y gyfradd sylfaen.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr eglurhad ar dynnu’r pwysau costau gwastraff masnachol ar gyfer 2024/25 a’r angen am ganolbwyntio mwy ar wella ailgylchu gwastraff y cartref.

 

Adleisiodd y Cynghorydd Bernie Attridge y pryderon am ofyn i bortffolios ddod o hyd i ragor o arbedion ar y pwynt hwn a gofynnodd am eglurhad ar unrhyw opsiynau eraill ar wahân i’r rhai oedd eisoes wedi’u dynodi’n ‘goch’.  Mynegodd bryderon am nifer o risgiau parhaus, yn cynnwys digartrefedd, a gofynnodd a ystyriwyd dod â chyllidebau dirprwyedig ysgolion dan reolaeth y Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y byddai asesiad risg yn cael ei gynnal ar y gyllideb ddigartrefedd o ran lefel y mesurau lliniaru ar gyfer 2024/25 ac y byddai cyllidebau ysgolion yn ffurfio rhan o ystyriaethau terfynol y gyllideb.  Ychwanegodd fod y risg ynghlwm â phensiynau athrawon yn aros am drafod gyda LlC a byddai’n ystyried a ddylid ei chynnwys fel risg ar y pwynt hwn.

 

Yn ateb i sylwadau am yr heriau parhaus wrth recriwtio a dal gafael ar staff, dywedodd y Prif Weithredwr fod y moratoriwm ar wariant nad oedd yn hanfodol yn debygol o arwain at rewi pob swydd wag yn y Flwyddyn Newydd, ar wahân i’r rhai oedd ag achos busnes cadarn i’w hategu ac yn golygu lefel uwch o risg.

 

Adleisiodd y Cynghorydd David Coggins Cogan y pryderon am dorri rhagor ar gyllidebau portffolios a’r amser oedd ar gael i graffu ar ddewisiadau, gan ddweud bod arbedion yn unig yn annhebygol o bontio’r bwlch yn y gyllideb.  Dywedodd hefyd nad oedd y ddirwy bosib’ am fethu targedau ailgylchu gwastraff yn risg untro os oedd perfformiad yn parhau i fod yn is na’r targedau yn y dyfodol.

 

Ar y pwynt diwethaf, soniodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol am ddefnyddio cronfeydd wrth gefn at raid a rhoi rhagor o ystyriaeth i’r sefyllfa dan sylw.  Byddai gwaith ar gynigion terfynol i gyllideb portffolios yn cael ei rannu gyda Phwyllgorau Trosolwg a Chraffu ym mis Ionawr, cyn pennu’r gyllideb yn derfynol fis Chwefror.

 

Yn ateb i bryderon tebyg gan y Cynghorydd Bill Crease am amser oedd ar gael i wneud penderfyniadau cytbwys, soniodd y Cynghorydd Paul Johnson am gyflymder newidiadau a’r achos ar y cyd ag awdurdodau eraill dros gael datrysiad cyllid tecach.

 

Fe wnaeth y Cynghorydd Ibbotson eto grybwyll rôl pob Aelod etholedig yn y gwaith o osod y gyllideb.  Yn unol â’r cais, cytunodd y swyddogion i ddarparu dadansoddiad mewn ymateb i gwestiynau ynghlwm â chyfrifiadau Treth y Cyngor.

 

Nododd y swyddogion y cais gan y Cynghorydd Sam Swash i Dabl 1 gynnwys llinellau cyfanswm cyllidebau yn adroddiadau’r dyfodol, i gynorthwyo’r Aelodau i graffu ar newidiadau.

 

Ar sail hynny, cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Bernie Attridge ac Allan Marshall.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ar ôl ystyried yr adroddiad ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2024/25, i’r pryderon a godwyd gan y Pwyllgor gael eu cyflwyno i’r Cabinet ar 19 Rhagfyr 2023.

Dogfennau ategol: