Agenda item

Adroddiad cynnydd ar Raglen Tai ac Adfywio Strategol 2 a’r Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol

Pwrpas:        I roi’r wybodaeth ddiweddaraf am raglen y Cyngor, newidiadau i’r rhaglen Grant Tai Cymdeithasol, manylion dyraniad Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol Llywodraeth Cymru o £1.6 miliwn ym mis Hydref 2023 a chynnydd ar gaffael cartrefi ychwanegol.

Cofnodion:

Roedd y Rheolwr Tai a Darparu Rhaglen Strategol wedi darparu adroddiad ar ddarparu’r Rhaglen Strategol Tai ac Adfywio 2 (SHARP2) y Cyngor.  Roedd yr adroddiad yn rhoi diweddariad ar y canlynol:

 

  • Darparu Rhaglen Strategol Tai ac Adfywio 2 (SHARP2) y Cyngor;
  • Newidiadau i’r rhaglen Grant Tai Cymdeithasol (GTC) ers yr adroddiad i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu (Medi 2023) a’r Cabinet (Hydref 2023);
  • Dyraniad o £1.6 miliwn Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro (TACP) Llywodraeth Cymru; a
  • Chynnydd ar gaffael cartrefi ychwanegol. 

 

Roedd y rhaglen yn y cam cyntaf ar hyn o bryd yn aros am gymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru (LlC).  Roedd yna raglen 3 cam ar gyfer cymeradwyaeth, ond roedd y Rheolwr Tai a Darparu Rhaglen Strategol yn falch o adrodd bod yr adborth a dderbyniwyd ar hyn o bryd yn gadarnhaol. 

 

Ychwanegodd y Rheolwr Tai a Darparu Rhaglen Strategol bod yna sawl diweddariad i’r rhaglen gan gynnwys costau ychwanegol i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ar gyfer contractau mwy, ble yn anffodus roedd rhai o’r contractwyr wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr gan achosi ailbrisio contractau.  Roedd Llywodraeth Cymru wedi cefnogi’r costau ychwanegol ar gyfer Porth y Gogledd a Mynydd Isa a fyddai’n cynrychioli dros 150 o gartrefi newydd. 

 

Roedd y Rheolwr Tai a Darparu Rhaglen Strategol hefyd yn adrodd ar Raglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro (TACP) Llywodraeth Cymru a anelwyd at geisio dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd gynted â phosibl, yn bennaf yn targedu llety ar gyfer bobl ddigartref neu bobl mewn llety dros dro.  Roedd y Cyngor wedi llwyddo i gael cyllid hyd at £1.5 miliwn, a fyddai’n cael ei dargedu at ddod â 28 eiddo gwag yn ôl i ddefnydd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin ei bod yn falch o weld cynigion ar gyfer Maes Glas ond dywedodd y dylai gael ei restru fel ‘Lôn Ysgol’ ac nid ‘Ffordd Ysgol’.  Dywedodd y Rheolwr Tai a Darparu Rhaglen Strategol y byddai’n gwneud y newid angenrheidiol.  

 

Hefyd, gofynnodd y Cynghorydd Dolphin pryd fyddai ymgynghori yn digwydd gyda Chynghorau Tref a Chymuned.  Dywedodd y Rheolwr Tai a Darparu Rhaglen Strategol y byddai ymgynghori yn dechrau yn y flwyddyn newydd gyda phecynnau ymgynghori ffurfiol yn cael eu paratoi a’u darparu.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Linda Thew a oedd yn realistig i’r 28 o dai gael eu cwblhau erbyn diwedd Mawrth 2024.  Roedd y Rheolwr Tai a Darparu Rhaglen Strategol yn dweud bod sawl caffaeliad eisoes wedi eu cwblhau ac roedd yn hyderus y byddai’r 28 o dai yn cael eu cwblhau. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Dale Selvester beth oedd y statws o ran adolygiad Safle Garej Queensferry.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth (Tai ac Asedau) bod pob safle garej wedi eu harolygu a’u hasesu.  Ychwanegodd bod adroddiad wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor yn gynharach y llynedd yn dangos pa safleoedd garej oedd wedi eu blaenoriaethu ar gyfer dymchwel yn gyntaf.  Roedd pob dewis yn cael ei ystyried, gan gynnwys creu mannau parcio ychwanegol a chreu gofod gwyrdd.    

 

Gofynnodd y Cynghorydd Dolphin os gallai’r Aelodau dderbyn copi o ganlyniadau’r adolygiad safle garej o fewn eu wardiau eu hunain.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth (Tai ac Asedau) y byddai adroddiad diweddariad ar yr adolygiad safle garej yn cael ei ychwanegu i’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol i’w ystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol. 

 

Cafodd yr argymhelliad, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, ei gynnig gan y Cynghorydd Dale Selvester a’i eilio gan y Cynghorydd David Evans.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y cynnydd ar ddarparu’r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol 2, Grant Tai Cymdeithasol, Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro a ‘Phrynu yn ôl’ ei nodi.

Dogfennau ategol: