Agenda item

Y wybodaeth ddiweddaraf am Ddadansoddi Newid Hinsawdd

Pwrpas:  CyflwynoAdroddiad Tasglu arfaethedig ar gyfer Datgeliadau Ariannol yn ymwneud â’r Hinsawdd a’r Dadansoddiad ar gyfer Trawsnewid Hinsawdd, i’w nodi a rhoi sylwadau.

 

Cofnodion:

            Nid yw adroddiad y Tasglu ar gyfer Datgeliadau Ariannol sy’n Gysylltiedig â’r Hinsawdd (TCFD) yn orfodol eto ar gyfer Cronfeydd CPLlL, fodd bynnag mae hyn yn cael ei weld fel arfer gorau i ddangos yn glir ac yn gyhoeddus y monitro sy’n digwydd o risgiau a chyfleoedd yn sgil newid yn yr hinsawdd, gan ddangos tystiolaeth o’r cynnydd a wnaed a nodi’r meysydd o ddiddordeb yn y dyfodol. Ochr yn ochr ag adroddiad TCFD, roedd ffeithlun wedi'i gynhyrchu fel atodiad un dudalen i helpu'r cyhoedd i ddeall yr adroddiad.

            Aeth Mr Turner â’r Pwyllgor drwy brif feysydd adroddiad TCFD, gan amlygu bod dadansoddiad atodol wedi’i gynnal yn dangos cynnydd y Gronfa ers dyddiad yr adroddiad (31 Mawrth 2023), yn benodol, yr effaith ar ddatgarboneiddio cyfnod pontio’r Gronfa o asedau o Gronfa Ecwiti Cyfleoedd Byd-eang PPC i Gronfa Ecwiti Gweithredol Cynaliadwy PPC ym mis Mehefin. Amlygwyd gwaith arwyddocaol arall yn ystod y flwyddyn hefyd yn adroddiad TCFD gan gynnwys gwaith tuag at bolisi gwaharddiadau, gwaith mewn buddsoddiadau marchnad preifat, ac ymrwymiad i weithredu syniadau buddsoddi ym mhortffolio TAA i ESG (Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu) penodol a chyllid cynaliadwy, lle bo'n briodol ac ar gael.

            Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2023, bu cynnydd yn ôl troed carbon portffolio ecwiti’r Gronfa.  Yn ôl y disgwyl, cyfrannodd trosglwyddo asedau i Gronfa Ecwiti Cyfleoedd Byd-eang PPC a Cronfa Ecwiti Marchnadoedd Datblygol PPC at y cynnydd yn yr ôl troed carbon.  Yn ogystal, cynyddodd ôl troed carbon y farchnad gyffredinol oherwydd perfformiad cryf y sector ynni o'i gymharu â sectorau eraill, o ganlyniad i’r ymosodiad ar Wcrain gan Rwsia.

            Fodd bynnag, mae'r newid i Gronfa Ecwiti Gweithredol Cynaliadwy PPC ym mis Mehefin 2023 wedi cael effaith gadarnhaol, gan ddod â'r Gronfa yn unol yn fras â'r trywydd targed, fel y bwriadwyd.  Mae dadansoddiad yn dangos bod cyfran fawr o ôl troed carbon y Gronfa bellach yn deillio o farchnadoedd newydd, sy’n golygu mai hwn yw’r maes allweddol nesaf i’r Gronfa ei dargedu a bydd hyn yn cael ei ystyried fel rhan o’r adolygiad strategaeth arfaethedig.

            Diolchodd Mr Hibbert i'r swyddogion a'r ymgynghorwyr am yr adroddiad diddorol a gofynnodd a fyddai'n bosibl i ddadansoddiad yn y dyfodol gynnwys cymhariaeth â'r CPLlL cyffredinol, neu â chronfa CPLlL o faint tebyg.  Cadarnhaodd Mr Turner y byddai’n bosibl darparu asesiad cymharol i helpu i ystyried cynnydd y Gronfa o gymharu â Chronfeydd eraill, ond pwysleisiodd pa mor bwysig yw hi i’r Gronfa ganolbwyntio ar gyrraedd ei thargedau ei hun sy’n mesur y portffolio ecwiti rhestredig lle mae’r data mwyaf cywir.

            Gofynnodd y Cynghorydd Shallcross a oedd ystyriaeth yn cael ei rhoi i effeithiau posibl gwrthdaro sy'n codi ar wahân i'r gwrthdaro rhwng Rwsia a'r Wcráin, er enghraifft a oedd disgwyl i'r gwrthdaro rhwng Israel a Phalestina gael effaith debyg ar farchnadoedd.  Cadarnhaodd Mr Turner nad oedd yn ymwybodol ar hyn o bryd o unrhyw ganlyniadau cysylltiedig â hinsawdd y gwrthdaro yn y dwyrain canol, nac o unrhyw effaith ar bortffolio’r Gronfa.  Nododd fod risg gynhenid yn y posibilrwydd y gallai’r gwrthdaro gynyddu, a allai er enghraifft arwain at bigynnau ym mhris olew, a byddai’r effaith mewn achos o’r fath yn cael ei fonitro.  Eglurodd pe bai digwyddiadau'n arwain at ostyngiad sylweddol ym mherfformiad ecwiti byd-eang, mae'r Gronfa'n amrywiol iawn ac roedd y strategaeth diogelu ecwiti o fewn y fframwaith rheoli risg wedi'i chynllunio i liniaru effaith bosibl sefyllfa o'r fath.

            Gofynnodd y Cynghorydd Swash am ragor o fanylion am y senario cyflym a ddangoswyd ar y graff ar dudalen 270, a oedd i'w weld yn rhoi'r canlyniad gorau yn y tymor hir.  Eglurodd Mr Turner fod y graff hwn yn dangos yr effaith bosibl ar sefyllfa ariannu gwahanol senarios trosiannol dros wahanol gyfnodau amser (5, 20, a 40 mlynedd).  Y pwynt allweddol o’r graffigyn oedd pa mor niweidiol fyddai’r senario ‘trosiannol a fethwyd’ (55% yn is na’r llinell sylfaen), a phwysigrwydd cymryd camau cadarnhaol i liniaru hyn, megis newid y Gronfa i gronfa Ecwiti Gweithredol Cynaliadwy PPC.

PENDERFYNWYD:

Bod y Pwyllgor yn ystyried, trafod ac yn nodi adroddiad drafft y Tasglu arfaethedig ar gyfer Datgeliadau Ariannol yn ymwneud â’r Hinsawdd a’r Dadansoddiad ar gyfer Trawsnewid Hinsawdd.

 

Dogfennau ategol: