Agenda item

Diweddariad Gweinyddu Pensiwn/ Cyfathrebu

Pwrpas:  Darparu’rwybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor mewn perthynas â materion gweinyddu a chyfathrebu.

Cofnodion:

Aeth Mrs K Williams â’r Pwyllgor drwy’r adroddiad hwn, a thynnodd sylw at y datblygiadau a ganlyn:

 

-       Mae’r amserlen ar gyfer y Dangosfwrdd Pensiynau Cenedlaethol bellach wedi’i chyhoeddi, a bydd angen i’r Gronfa gwblhau’r broses ymuno erbyn mis Medi 2025.  Bydd y Gronfa’n parhau i lanhau data, yn cadarnhau darparwr ei llwyfan ac yn cynllunio amserlenni pellach yr adroddir arnynt ym Mhwyllgorau’r dyfodol.

-       Roedd cyflogwyr wedi rhannu adborth cadarnhaol ar y fideos yr oedd y Gronfa wedi'u dosbarthu i roi diweddariad cyn Cyfarfod Blynyddol y Cyflogwyr.

-       Mae'r ffenestr ymgeisio wedi cau ar gyfer swyddi gwag yn y tîm gweinyddol ac mae'r cyfweliadau'n cychwyn yr wythnos nesaf.  Roedd yn ymddangos bod nifer yr ymatebion a dderbyniwyd wedi gwella wedi i’r swyddi ddod yn rolau parhaol.

-       Mae'r Swyddog Cyfathrebu a Marchnata wedi gadael y rôl a byddai adborth o'r cyfweliad ymadael yn cael ei ddefnyddio i adolygu'r swydd-ddisgrifiad wrth symud ymlaen.

-       Mynychodd Mrs K Williams Gynhadledd Rheolwyr Pensiynau yn Torquay yr wythnos diwethaf, ac roedd yn falch o nodi bod llawer o'r heriau a drafodwyd yn y gynhadledd yn feysydd y mae'r Gronfa eisoes yn mynd i'r afael â hwy yn rhagweithiol.

-       Mae'r Gronfa wedi cynnal dwy sesiwn ymgysylltu â chyflogwyr, a bwriedir cynnal y nesaf ym mis Chwefror.  Mae’r cyfarfodydd hyn wedi amlygu diddordeb mewn cynnal cyfarfod ychwanegol ar gyfer cynghorau tref a chymuned bach, sydd bellach yn cael ei gynllunio hefyd.

 

Gofynnodd y Cyng. Rutherford am eglurhad o'r datganiad ar dudalen 386 sef “Os bydd recriwtio i raddfa Swyddog Pensiwn yn aflwyddiannus, cynigir bod unrhyw swyddi gwag Swyddog Pensiwn sy'n weddill yn cael eu recriwtio ar y raddfa Cynorthwyydd Pensiwn is”.

Eglurodd Mrs K Williams fod y Gronfa yn hanesyddol wedi cael trafferth recriwtio i raddfa Swyddog Pensiwn tra bod rolau cynorthwywyr pensiwn fel arfer yn derbyn mwy o geisiadau. Lle bo ymgeiswyr i'r radd cynorthwyydd pensiwn yn gallu cyrraedd y raddfa swyddog pensiwn, gellir cyflogi'r ymgeiswyr hyn ar y sail y bydd hyfforddiant yn eu symud ymlaen i raddfa swyddog pensiwn.  Fodd bynnag, yn ystod yr ymarfer recriwtio hwn, mae nifer o geisiadau cryf wedi dod i law ar gyfer gradd y swyddog sydd bellach yn rôl barhaol.  Gofynnodd y Cyng Rutherford am gadarnhad na fyddai hyn yn arwain at Gynorthwywyr Pensiwn yn gwneud gwaith Swyddog Pensiwn.  Cadarnhaodd Mrs K Williams, er bod staff yn cael eu recriwtio gyda'r bwriad o symud ymlaen at rôl Swyddog, nid yw'r Gronfa yn gofyn i staff weithio y tu hwnt i'w gradd cyflog. Ychwanegodd Mrs Carney fod y trefniadau hyn yn disodli gradd gyrfa’r Cyngor wrth gefnogi staff i symud ymlaen i rolau pellach o fewn Cyngor Sir y Fflint.

 

PENDERFYNWYD:

Bod y Pwyllgor yn ystyried ac yn gwneud sylwadau ar y diweddariad.

 

Dogfennau ategol: