Agenda item

Adolygiad Treigl o God Ymddygiad yr Aelodau

Pwrpas:  Cymeradwyo’r newidiadau a argymhellwyd gan y Pwyllgor Safonau i’r Cod Ymddygiad i Gynghorwyr fel rhan o adolygiad parhaus o’r Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Wrth gyflwyno'r adroddiad, dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod Adolygiad Penn wedi argymell bod Cynghorau ledled Cymru yn ystyried a ddylent gysoni'r lefel yr oedd yn ofynnol i Aelodau ei datgan ynghylch derbyn rhoddion a lletygarwch.  Eglurwyd bod y Cynghorau ar hyn o bryd yn dewis eu ffigyrau eu hunain, a oedd yn amrywio o £0 hyd at £50. Yn dilyn trafodaeth yn Fforwm Cenedlaethol Cadeiryddion y Pwyllgor Safonau, cytunwyd y byddent yn ceisio cysoni'r lefelau i tua £25.  Nid oedd y Fforwm yn gorff gwneud penderfyniadau, ac roedd yn ofynnol i'r Cyngor benderfynu a ddylid mabwysiadu'r ffigur a argymhellwyd yn ffurfiol ai peidio.  Roedd hyn wedi cael ei ystyried gan y Pwyllgor Safonau, a oedd yn hapus i dderbyn y ffigwr hwn.  Roedd angen penderfyniad gan y pwyllgor hwn cyn ei gyflwyno i'r Cyngor Llawn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bernie Attridge ar nifer y datganiadau a wnaed gan Aelodau, cadarnhaodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) ei fod wedi cael dau neu dri yn y 12 mis diwethaf.  Eglurodd fod Richard Penn wedi'i benodi gan Lywodraeth Cymru (LlC) i adolygu gweithrediad y Fframwaith Moesegol, a gwnaeth yr argymhelliad i geisio cysoni'r ffigur a sicrhau cysondeb ledled Cymru.

 

Mewn ymateb i gwestiwn eglurhad gan y Cynghorydd Gillian Brockley ynghylch derbyn sawl rhodd gan yr un ffynhonnell, cyfeiriodd y Prif Swyddog at baragraff 17.2 o'r Cod a oedd yn amlygu'r gwerth presennol.  Roedd hyn yn ymwneud ag aelod yn derbyn cyfres o roddion neu letygarwch, a oedd yn is na'r trothwy i'w datgan, ond a allai gynyddu dros amser.  

 

Gofynnodd y Cynghorydd Paul Johnson pam y byddai cynghorwyr yn derbyn unrhyw rodd gan eu bod yn cael eu talu i wneud eu swydd. Roedd yn ddigon hapus i gadw'r lefel ar £10. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst fod hyn wedi cael ei drafod gan y Pwyllgor Safonau, a theimlai nad oedd y ffigwr o £25 gyda therfyn o £100 yn afresymol o ystyried y cynnydd mewn chwyddiant ers penderfynu ar y ffigur blaenorol o £10.   Teimlai ei bod yn bwysig pe bai Aelodau'n cael cynnig neu'n derbyn rhoddion o unrhyw swm, yna y dylid datgelu'r rhain ac anfon nodyn atgoffa at yr Aelodau o'r gweithdrefnau i sicrhau y cydymffurfir yn llawn â'r Polisi hwn.

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) at y paragraff yn y Cod a oedd yn nodi bod yn rhaid i Aelodau wrthod unrhyw rodd neu letygarwch, beth bynnag fo'r gwerth, pe bai'n ymddangos eu bod yn cael eu gosod dan unrhyw rwymedigaeth.

 

Roedd y Cynghorydd Bernie Attridge yn dymuno cynnig bod y swm yn aros yr un fath, ar £10, ac y dylid ei ddatgan.   Roedd yn rhaid i'r aelodau fod yn sicr nad oeddent yn derbyn unrhyw beth a allai eu rhoi mewn sefyllfa anodd.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Cynghorydd Attridge wedi gwneud cynnig i beidio â dilyn argymhelliad y swyddog i'r swm aros yr un fath.

 

Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Paul Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cytuno bod gwerth y rhoddion neu'r lletygarwch yr oedd yn rhaid eu datgan yn aros yr un fath, sef £10.

Dogfennau ategol: