Agenda item

Incwm Rhent Tai

Pwrpas:        Cyflwyno’r diweddariad gweithredol diweddaraf ar gasglu rhent tai ac amlinellu’r newidiadau arfaethedig i’r Polisi Adennill Dyled Corfforaethol i gryfhau’r broses orfodi rhent.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth – Refeniw a Chaffael y diweddariad gweithredol diweddaraf ar gasglu rhent tai, dadansoddiad o ôl-ddyledion o fwy na £5,000 a chynigion i gryfhau'r broses adennill dyled trwy ddiwygio’r Polisi Adennill Dyledion Corfforaethol a chymryd camau trwy’r llys yn awtomatig yn erbyn deiliaid contract y mae arnynt gyfwerth â 12 wythnos o rhent heb ei dalu a/neu £1,500, ac nad oeddent yn rhoi sylw i’w taliadau rhent wythnosol a’u hôl-ddyledion.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod casglu rhent tai yn dal i fod yn faes sy’n peri risg, ond roedd cyfanswm ôl-ddyledion rhent hyd at wythnos 27 yn dod i £2.6 miliwn o’i gymharu â £2.7 miliwn yr un wythnos yn y flwyddyn flaenorol, sy’n welliant o £100,000.  

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y cytunwyd yn ystod cyfarfod Pwyllgor mis Gorffennaf 2023 i ddarparu dadansoddiad manwl i Aelodau o’r deiliaid contract yr oedd arnynt fwy na £5,000 o rhent heb ei dalu i’r Cyngor.  Dangoswyd y wybodaeth hon ym mhwynt 1.04 yr adroddiad.

 

O ran y Polisi Dyledion Corfforaethol, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth, er bod camau trwy’r llys yn cael eu cymryd fel dewis olaf, roedd angen cynyddol i fabwysiadu dull mwy masnachol i gasglu ôl-ddyledion rhent er mwyn sicrhau bod colledion wrth gasglu yn cael eu lleihau ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai (CRT).  Roedd Atodiad 1 yr adroddiad yn nodi newidiadau arfaethedig i rannau o’r Polisi Dyledion Corfforaethol o ran casglu rhent tai.  Gofynnwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo’r newidiadau arfaethedig i’r Polisi o ran y trothwy ar gyfer camau cyfreithiol ar gyfer rhent tai. 

 

Cwestiynodd y Cadeirydd nifer y tenantiaid a oedd mewn ôl-ddyledion o rhwng £200 a £500 a gofynnodd a oedd hyn yn cynnwys tenantiaid a oedd yn talu trwy Ddebyd Uniongyrchol.  Eglurodd Swyddogion, os oedd tenantiaid yn talu bob mis trwy Ddebyd Uniongyrchol, y gallai hyn ddangos fel bod arnynt £250 ond ni fyddent mewn ôl-ddyledion, a siarad yn fras, gellid diystyru'r golofn gyntaf ar gyfer tenantiaid yr oedd arnynt rhwng £200 a £500.

 

Gofynnwyd cwestiynau am gostau ychwanegol cymryd camau trwy’r llys ac a ellid adennill y costau ychwanegol.  Cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth y byddai’n darparu gwybodaeth i’r Pwyllgor am yr atodlen o ffioedd llys ar ôl y cyfarfod.  

 

Gwnaed sylwadau o ran a oedd ystyriaeth yn cael ei rhoi i’r ffaith fod tenantiaid a gaiff eu troi allan yn dod yn ddigartref, ac yna bod rhaid darparu llety dros dro iddynt, ynghyd â’r goblygiad o ran cost sydd ynghlwm â hynny.  Eglurodd Swyddogion waith y Panel Adolygu Achosion sy’n mynd trwy broses drylwyr a dim ond pan fyddai pob dewis wedi cael ystyriaeth y byddai’r Cyngor yn symud ymlaen i droi tenantiaid allan.  Roedd trefniadau diogelu y tu hwnt i’r Polisi Dyledion Corfforaethol.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth hefyd nad oedd unrhyw un o’r tenantiaid a gafodd eu troi allan wedi’u hailgartrefu gan y Cyngor. 

 

Cafodd argymhelliad (a), fel y’i hamlinellwyd yn yr adroddiad, ei gynnig gan y Cynghorydd Geoff Collett a’i eilio gan y Cynghorydd Antony Wren.  Cafodd argymhelliad (b) fel y’i hamlinellwyd yn yr adroddiad, ei gynnig gan y Cynghorydd Ted Palmer a’i eilio gan y Cynghorydd Linda Thew.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf ar gyfer casgliadau rhent yn 2023/24, fel y nodir yn yr adroddiad; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r newidiadau arfaethedig i’r Polisi Dyledion Corfforaethol i gryfhau prosesau casglu Rhent Tai trwy gymryd camau trwy’r llys, fel dull diofyn, mewn achosion lle nad oedd deiliaid contract yn gwneud taliadau, lle’r oedd ganddynt 12 wythnos o ôl-ddyledion a/neu yr oedd arnynt £1,500 neu fwy ac nad oeddent yn ymgysylltu â’r Gwasanaeth Tai i roi sylw i’r ôl-ddyledion.

Dogfennau ategol: